Skip to content

Y rhaglen weithredu ar droseddu a'r gymdogaeth (CANDO) - Wardiau Pengam a Thwyn Carno

Logo Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Bwrdeistref Sirol Caerffili Saffach.

Asiantaethau yn cydweithio er mwyn gostwng troseddau.

Sefydliad: Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Bwrdeistref Sirol Caerffili Saffach.
Categori: Ymddygiad gwrthgymdeithasol, difrod troseddol.
Dyddiad cyflwyno: Ionawr 2007.

Beth oedd y broblem?

Tueddiadau cynyddol parhaus yn lefelau dangosyddion Arolwg Troseddu Prydain ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y ddwy ward darged rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2005. 

Pa gamau a gymerwyd?

Gwnaeth yr asiantaethau gynnal arolwg o'r holl droseddau yn y bwrdeistref. Defnyddiwyd y dulliau canlynol i gwblhau'r gwaith:

  • Asesu'r ymatebion i'r dadansoddiad sganio (SARA)
  • Y triongl dadansoddi problemau (PAT)
  • Theori gweithgareddau rheolaidd (RAT).

Yr oedd gan y gwaith gysylltiad agos â Model Cudd-wybodaeth Cenedlaethol yr heddlu ar lefel ranbarthol.

Dangosodd gwaith ymgynghori a gweithdai cyhoeddus gyda'r cymunedau broblemau ac atebion lleol a rhoddwyd sicrwydd i'r cyhoedd. O ganlyniad i'r gweithdai hyn lluniwyd cynlluniau gweithredu yn cynnwys atebion aml-asiantaethol realistig, gan gynnwys:

  • pecynnau gwybodaeth i drigolion
  • plismona amlwg 
  • cynnal archwiliadau gweledol amgylcheddol i nodi pa droseddau sy'n droseddau signal, hynny yw troseddau sy'n creu ofn 
  • cymryd camau amlwg i lanhau graffiti, sbwriel a gwm cnoi ar y strydoedd
  • nifer o weithgareddau cymunedol wedi'u trefnu i gynnwys y bobl leol.

Beth oedd y canlyniad?

  • Lleihad yn nifer y troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2006. Serch hynny cafwyd cynnydd bach yn dilyn y cyfnod hwn sy'n codi cwestiynau am gynaliadwyedd y prosiectau.
  • Rhoi mwy o hyder i'r cyhoedd o ran sôn wrth yr heddlu am droseddau.
  • Cafwyd adborth cadarnhaol iawn yn dilyn y broses gwerthuso cymunedol.
  • Partneriaethau'n cydweithio'n well.
  • Derbyniodd Cyngor Bwrdeistrf Sirol Caerffili wobr 'Rhagoriaeth Cymru' er mwyn cydnabod y dull o weithio mewn partneriaeth gyda'r fenter CANDO.
  • Adolygu a gwerthuso'r broses yn barhaus er budd prosiectau CANDO eraill yn ardal Caerffili yn y dyfodol.

Mae adroddiad gwerthuso ar gael ar wefan Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Bwrdeistref Sirol Caerffili Saffach.

Os cafodd y camau eu hariannu, faint gafodd ei gyfrannu ac o ba ffynhonnell?

Mae Caerffili Saffach yn dyrannu cyllideb gwerth £20,000 er mwyn galluogi a rhedeg CANDO, i dalu costau megis llogi neuaddau, darparu lluniaeth a chynhyrchu llenyddiaeth. Mae rhan helaeth o'r gyllideb yn talu am brosiectau a nodwyd megis Camerâu Teledu Cylch Cyfyng. Caiff yr arian ei ddyrannu o'r gronfa Creu Cymunedau Mwy Diogel. Disgwylir i bob un o'r partneriaid gyfrannu ac yn aml y mae'r gwaith hwn yn dod o fewn eu cyfrifoldebau craidd. Nod CANDO yw cydweithio i sicrhau'r budd mwyaf posibl i'r gymuned.

Manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth

Enw: Maria Chapman.
Sefydliad: Partneriaeth Diogelwch Cymuned Bwrdeistref Sirol Caerffili Saffach.
Ffôn: 01443 866920.
E-bost: chapmm@caerphilly.gov.uk.