Skip to content

Trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig

Dolenni perthnasol

Mae’r Papur Gwyn hwn yn amlinellu’r polisi a’r cynigion deddfwriaethol sydd â’r nod o ddileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Adolygiad o'r rhwystrau sy'n atal darparu gwasanaeth da i'r rhai sy'n cael eu cam-drin (risg ganolig ac arferol) a nodi sut y gellid gwella'r gwasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr.
Yr Hawl i fod yn Ddiogel yw strategaeth integredig 6 blynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig.
Cynlluniwyd y canllawiau hyn i gynorthwyo cyrff comisiynu i sicrhau bod amrywiaeth priodol o gymorth a llety ar gael i aelwydydd sy’n profi cam-drin domestig.
Nod Llywodraeth Cymru yw gweithredu’n gytbwys er mwyn hyrwyddo annibyniaeth ar y naill law ac amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed ar y llaw arall.
Menyw yn llefain yn eistedd yng nghornel ystafell.

Mae trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig yn effeithio ar bobl o bob haen gymdeithasol ac o bob cefndir diwylliannol, cymdeithasol ac ethnig, ac ar y cyfoethog a'r tlawd. Mae'n effeithio ar bobl sydd mewn gwaith a'r rheini sy'n ddi-waith, ac ar yr hen a'r ifanc, ym mhob cwr o Gymru.

Rydym wedi cyhoeddi "Yr Hawl i fod yn Ddiogel", sef strategaeth 6 mlynedd integredig ar gyfer mynd i'r afael â phob math o drais yn erbyn menywod. Mae trais yn erbyn menywod yn gam difrifol yn erbyn hawliau dynol menywod a merched ac yn rhwystr mawr rhag cyflawni cydraddoldeb rhwng menywod a dynion.

Rydym eisiau i Gymru fod yn genedl hunanhyderus, ffyniannus ac iach a chymdeithas sy’n deg i bawb. Er mwyn cyflawni hyn mae’n rhaid i ni beidio â goddef problemau cymdeithasol parhaus cam-drin domestig, aflonyddu rhywiol, trais rhywiol, priodas dan orfod, masnachu mewn pobl, troseddau er anrhydedd (gan gynnwys llofruddiaeth), a llurgunio organau rhywiol menywod.

Gall cam-drin yn y cartref gynnwys pob math o gam-drin corfforol, rhywiol ac emosiynol, a gall ddigwydd mewn pob math o berthynas, gan gynnwys perthynas rhwng dau o'r un rhyw. Menywod a phlant sy'n dioddef yn bennaf ond gall dynion gael eu cam-drin hefyd.

Ni ellir caniatáu trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig yng Nghymru ar unrhyw lefel. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif am yr hyn a wnânt, ac mae wedi ymrwymo i amddiffyn a chefnogi pobl sy'n cael eu cam-drin.

Yng Nghymru, rydym am ddatblygu cymdeithas lle mae pobl yn barod i herio a chwestiynu ymddygiad ymosodol.