Skip to content

Ymgyrchoedd Cyhoeddusrwydd

Dolenni perthnasol

Yr Hawl i fod yn Ddiogel yw strategaeth integredig 6 blynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig.
Mae'r daflen ffeithiau hon yn amlinellu canllawiau ar gyfer gwirfoddolwyr a sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru ynghylch Cam-drin Domestig.

Yma cewch wybodaeth am ein hymgyrchoedd mwyaf diweddar ac enghreifftiau o'r deunydd a gynhyrchwyd.

Ym mis Mawrth 2010 lansiodd Llywodraeth y Cynulliad 'Yr Hawl i fod yn Ddiogel', sef strategaeth integredig chwe blynedd ar gyfer mynd i'r afael â phob math ar ymddygiad treisiol yn erbyn menywod.  Lluniwyd hefyd gynllun gweithredu tair blynedd i helpu i gyflawni'r strategaeth hon a'r Strategaeth Cam-drin Domestig bresennol a lansiwyd yn 2005.

Mae'r Hawl i fod yn Ddiogel yn tynnu sylw at yr angen am barhau i godi ymwybyddiaeth a herio agweddau er mwyn rhwystro trais yn erbyn menywod a phlant rhag digwydd yn y lle cyntaf.  Mae'n ystyried hyn yn gam gweithredu allweddol i newid agweddau ac ymddygiad.

Mae'r Cynllun Gweithredu yn cynnwys cam gweithredu i 'ddatblygu ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd aml-gyfrwng i dynnu sylw at ymddygiad treisiol yn erbyn menywod, stelcio, aflonyddu a cham-drin domestig, herio agweddau a hyrwyddo'r llinell gymorth genedlaethol'.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cynnal ymgyrchoedd yn ystod y Nadolig a'r Calan i sicrhau bod pobl sy'n dioddef cam-drin domestig yn gwybod am yr help sydd ar gael iddyn nhw ac i roi cyhoeddusrwydd i'r Llinell Gymorth Cam-drin Domestig.  Cynhaliwyd yr ymgyrchoedd ar y radio, mewn papurau newydd rhanbarthol a thrwy gyfrwng taflenni.  

Gyda dyfodiad y cyfryngau digidol, mae'r ymgyrchoedd mwyaf diweddar wedi cofleidio hysbysebu ar-lein, safleoedd y cyfryngau cymdeithasu megis  Facebook, Twitter ac U-tube, a gwefannau penodol i'r ymgyrchoedd, law yn llaw â'r cyfryngau traddodiadol.