Skip to content

Ymgyrchoedd Cyhoeddusrwydd

Dolenni perthnasol

Yr Hawl i fod yn Ddiogel yw strategaeth integredig 6 blynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig.
Mae'r daflen ffeithiau hon yn amlinellu canllawiau ar gyfer gwirfoddolwyr a sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru ynghylch Cam-drin Domestig.

Byw Heb Ofn / Live Fear Free yw cyfres Llywodraeth Cymru o ymgyrchoedd amlgyfrwng uchel eu proffil.

Y nod yw codi ymwybyddiaeth a herio agweddau at drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig yng Nghymru.

Ym mis Mawrth 2010, lansiodd Llywodraeth Cymru 'Yr Hawl i fod yn Ddiogel', strategaeth integredig chwe blynedd i fynd i'r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig, ynghyd â chynllun cyflawni tair blynedd i'w chefnogi. Roedd y strategaeth yn ehangu ar y strategaeth flaenorol ar gam-drin domestig, sef ‘Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig: y Dull Partneriaeth’ a lansiwyd yn 2005.

Mae 'Yr Hawl i Fod yn Ddiogel' yn dangos yr angen i barhau i godi ymwybyddiaeth a herio agweddau i atal trais yn erbyn menywod a phlant rhag digwydd i ddechrau. Bernir bod hyn yn rhan allweddol o'r gwaith i newid agweddau ac ymddygiad.

Mae'r Cynllun Cyflawni yn cynnwys y cam gweithredu i 'ddatblygu ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd aml-gyfrwng i dynnu sylw at ymddygiad treisiol yn erbyn menywod, stelcio, aflonyddu a cham-drin domestig, herio agweddau a hyrwyddo'r llinell gymorth genedlaethol'.

Yn unol â'r cam gweithredu hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhedeg nifer o ymgyrchoedd amlgyfrwng i godi ymwybyddiaeth am arwyddion a symptomau cam-drin domestig, gan sicrhau bod dioddefwyr yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael, a rhoi cyhoeddusrwydd i'r Llinell Gymorth Cam-drin Domestig.

Mae'r cynnydd yn y defnydd o gyfryngau digidol yn golygu bod ymgyrchoedd diweddar wedi defnyddio hysbysebion ar-lein a chyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter a YouTube, ynghyd â'r cyfryngau traddodiadol. Mae'r holl ymgyrchoedd bellach yn cael eu rhedeg o dan y faner Byw Heb Ofn a'u cefnogi gan wefan, tudalen Facebook a chyfrif Twitter Byw Heb Ofn.

Nid yw cam-drin domestig wedi ei gyfyngu i gyplau heterorywiol sy’n cydfyw. Gall ddigwydd mewn unrhyw berthynas. Nid menywod yw’r unig ddioddefwyr ychwaith. Gall dynion, menywod a phlant yn eu harddegau fod yn darged i gam-drin neu'n gamdriniwr.  

Gall unrhyw un yng Nghymru y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt ffonio Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan ar 0808 80 10 800 i gael gwybodaeth a chyngor cyfrinachol a dwyieithog 24 awr y dydd. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.