Skip to content

Cofnodion cyfarfod y Gweithgor Cam-drin Domestig yng Nghymru a gynhaliwyd ym mis 12 Medi 2007

Presennol

Cadeirydd

  • Peter Jones - Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru

Aelodau

  • Sam Ali - BAWSO
  • Cathy Davies - Prif Weithredwr, Tai Hafan
  • Kevin Gibbs - NSPCC
  • Christine Elmitt - Fforwm Cam-drin Domestig Gogledd Cymru/Cynrychiolydd y Cydlynydd Cam-drin Domestig 
  • Jon Trew - Cymorth i Ddioddefwyr
  • Jan Pickles OBE - Rheolwr, Uned Diogelwch Caerdydd
  • Jill Richards - TUC Cymru
  • Carolyn Seymour - Gwasanaeth Prawf
  • Shehla Khan - Rhwydwaith Menywod o Leiafrifoedd Ethnig (MEWN), Abertawe
  • Rachel Morgan - CLlLC
  • Ingrid Zammit - (Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr) NOMS
  • DI Martyn Dew -  Heddlu Gwent
  • Shahien Taj - Henna
  • Matthew Pinnell - Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd  (CAFCASS), Cymru
  • Insp Lian Penhale - Secondai o Heddlu De Orllewin Cymru i Lywodraeth Cynulliad Cymru
  • Kerry Charles - Y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cynulliad Cymru.
  • Jason Lintern - Tîm Troseddau'r Swyddfa Gartref
  • Julie Jordan - Secondai i Dîm Troseddau'r Swyddfa Gartref  
  • Sheila Hill - Tîm Troseddau'r Swyddfa Gartref

Cyflwynwyr

  • Grant Williams - Cydlynydd Llwybr Clinigol - Secondai i Lywodraeth Cynulliad Cymru 
  • Sally Ide - CAFCASS - Rheolwr Ardal Pen-y-bont ar Ogwr

Sylwedyddion

  • Gaynor Thomas - Tîm Camddefnyddio Sylweddau, Llywodraeth Cynulliad Cymru 
  • Vicky Gunter - Gweithwraig Cymdeithasol (Myfyrwraig) CAFCASS CYMRU
  • Adam Rees - Rheolwr Prosiect DYN, Uned Diogelwch Caerdydd

Ysgrifenyddiaeth

  • Jane Andrews - Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Nadine Citric-Williams - Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru

Ymddiheuriadau

  • Polly Ferguson - Swyddfa Prif Weinyddes, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Jo Roberts - NUS, Cymru
  • Elen Pierce, Cyfarwyddwr, Cymorth i Ferched Cymru
  • Dr Aideen Naughton - Ysbyty  Neville Hall
  • Mike Goldman - Tîm troseddau Ieuenctid (YOT) Castell-nedd Port Talbot
  • Tiana Williams - Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Suzanne Chisholm - Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Caroline Lewis - Tîm Gwasanaethau Cymorth Clinigol, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Katy Young - Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Graham Davies - Addysg, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Janet Darch - Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru

Agenda eitem 1 - Cyflwyniadau ac Ymddiheuriadau

1. Agorodd Peter Jones y cyfarfod a chroesawu pawb. Cyflwynodd yr Arolygydd Ditectif Martyn Dew fel cynrychiolydd newydd yr Heddlu, Sally Ide, Grant Williams a'r sylwedyddion, Gaynor Thomas, Adam Rees a Vicky Punter.  Wedyn cyflwynodd yr ymddiheuriadau.

2. Hysbyswyd y gr?p gan  Peter Jones, fod Llywodraeth clymblaid wedi'i ffurfio yn dilyn etholiadau'r Cynulliad ac mai Dr Brian Gibbons oedd y Gweinidog newydd dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol a bod ei bortffolio'n cynnwys agenda trais yn y cartref.  Gelwir yr Adran newydd yn Grwp Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. 

Agenda eitem 2 - Cofnodion y cyfarfod diwethaf a Materion sy'n Codi 

3. Gofynnodd Mr Jones am gytundeb yr aelodau ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar Mehefin 13 2007. Wedyn cyflwynodd yr wybodaeth ddiweddaraf ar y materion oedd yn codi o'r cyfarfod diwethaf fel a ganlyn:   

(i) Gwybodaeth ddiweddaraf ar Gynhadledd Cymorth Cymru

4. Gofynnodd Mr Jones i Kerry Charles am yr wybodaeth ddiweddaraf ar y mater hwn. Eglurodd Kerry fod y trefniadau i roi'r cyflwyniadau o'r gynhadledd ddiweddar ar y we yng ngofal yr Uned Fusnes Cyfiawnder Cymdeithasol a dylai fod ar wefan y Cynulliad cyn bo hir.

(ii) Taflen ar Bolisi Man Gwaith ar Drais yn y Cartref  

5. Gofynnodd Peter Jones i Jane Andrews am ddiweddariad. Eglurodd Jane fod y Gweinidog wedi cytuno i gyhoeddi'r daflen a'i wneud yn adnodd rhyngrwyd. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda thîm cyfathrebu'r Cynulliad ar y trefniadau ar gyfer y cyhoeddi. Bydd y daflen yn A5 dwyieithog, sgleiniog a dylai gael ei chyhoeddi erbyn diwedd mis Medi, a'i lansio, gyda chytundeb y Gweinidog, ar ddyddiad diweddarach. Unwaith y bydd y daflen wedi'i chyhoeddi, anfonir copi i bob un o'r aelodau. Gweithredu: taflen i'w dosbarthu i'r gr?p wedi iddi gael ei chyhoeddi.

(iii) Diweddaru gwiriadau Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) ar gyfer Gweithwyr Llinell Gymorth Trais yn y Cartref.

6. Gofynnodd Peter Jones i Jane Andrews  am ddiweddariad . Eglurodd Jane fod  cyfarfod diwethaf wedi cytuno i dderbyn cyngor pellach ar hyn gan Mike Burns o Gyfarwyddiaeth Diogelu Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad. Cadarnhaodd Burns  o dan Deddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed "y byddai unrhyw ffurf ar gymorth, gyngor neu arweiniad a ddarperir  yn gyfangwbl neu yn bennaf ar gyfer oedolion sy'n agored i niwed" yn ddarostyngedig i osodiadau archwilio a gwahardd y cynllun newydd. Mae staff llinell gymorth yn amlwg yn dod oddi fewn i'r categori hwn a bydd angen iddynt gael eu gwirio. Mae Elen Pierce wedi'i hysbysu o hyn a gofynnwyd iddi gysylltu â Mike Burns os bydd angen cyngor pellach.     
      
(iv) Diweddariad ar Ddiwygio Cymorth Cyfreithiol

7. Gan nad oedd Tiana Williams yn bresennol yn y cyfarfod ni ellid rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf. Bydd hyn yn cael ei ohirio tan gyfarfod Mis Rhagfyr. Gweithredu: Tiana Williams i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yng nghyfarfod mis Rhagfyr.

(v) Diweddariad ar Hyfforddiant CAADA

8. Gofynnodd Peter Jones i Jane Andrews am ddiweddariad. Codwyd y mater o hyfforddiant CAADA i Grwpiau Cymorth i Ferched a'r posibilrwydd a ellid cael cyllid gan y Swyddfa Gartref ar ei gyfer yng nghyfarfod Rhithwir y Swyddfa Gartref ar Awst 1af.  Ar hyn o bryd nid oes arian ar gael a byddai gofyn i grwpiau gyllido'u hunain, gan gysylltu'n uniongyrchol â CAADA. 

9.  Gofynnodd Jon Trew os yw rhywun yn y Cynulliad yn monitro llwyddiannau'r sefydliadau sydd wedi sicrhau cyllid o Gronfa Dioddefwyr y Swyddfa Gartref? Roedd Cynnal Dioddefwyr wedi gwneud cais ar sail y DU am ddeunyddiau dwyieithog ac roeddent yn dal i fod yn ansicr o'r canlyniad. Dywedodd Peter Jones y byddai'n holi am hyn ac yn adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf. Gweithredu: Janet Darch i ddarganfod pwy oedd wedi derbyn cyllid o dan y cynllun hwn ac adrodd yn ôl yng nghyfarfod mis Rhagfyr.

10. Wedyn cytunwyd fod y cofnodion yn gywir.

Eitem 3 ar yr Agenda - Cyflwyniad gan Grant Williams ar Lwybr Gofal Cymru gyfan yn  Adrannau Damweiniau ac Argyfwng 

11. Eglurodd Grant fod ei swydd wedi dechrau yn Chwefror 2007 am gyfnod o 12 mis gyda pharatoad i dreiglo drosodd erbyn Chwefror 2008. Ar hyn o bryd mae oddi fewn i'r nod. Bydd staff ym mhob un o'r 13 Adran Damweiniau ac Argyfwng yn cael eu hyfforddi ynghyd â 43 uned anafiadau llai. Bydd gofyn i bob un dros 16 mlwydd oed, ar wahân i'r rhai sydd wedi'u niweidio'n ddifrifol, y rhai a nam meddwl, a'r rhai mewn argyfwng emosiynol enbyd i ateb yr holiadur sgrinio. 

12. Eglurodd Grant fod problemau i'w goresgyn yn arbennig gyda'r cofrestr risg - beth fydd effaith holi 1 miliwn o fynychwyr bob blwyddyn? Sut y bydd gwybodaeth sensitif yn cael ei rannu a fydd Llwybr yn integreiddio gyda systemau newydd cyfredol ac yn peidio â bod yn feichus? Mae hefyd y broblem o ryddhau staff ar gyfer hyfforddiant. Mae'r materion hyn yn cael eu trafod ar hyn o bryd. Aeth Grant wedyn drwy'r holiadur sgrinio a'r llwybr cyfeirio pe bai dadleniad.    

13. Diolchodd  Peter i Grant am gyflwyniad diddorol a gofynnodd i'r gr?p os oedd ganddynt gwestiynau. Holodd Martin Dew pe bai claf yn profi i fod yn risg uchel a fyddai'n cael ei gyfeirio i MARAC naill ai gyda neu heb gytundeb y claf. Dywedodd Grant y byddai pob achos yn cael ei ystyried yn unigol a'i asesu. Dywedodd Peter Jones ei fod o'n ddiweddar wedi trafod adroddiad o'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig gyda swyddogion iechyd ac o ganlyniad roedd y mater cyfan o rannu gwybodaeth yn cael ei ystyried o'r newydd. Dywedodd Grant fod rhwystrau wedi bod yn y gorffennol ond bod Ymgynghorwyr yn ddiweddar wedi arwyddo eu cytundeb i rannu gwybodaeth yn y dyfodol.  

14. Roedd gan Shahien Taj bryderon yngl?n ag allai asesiad risg ddarganfod camdriniaeth oedd yn gysylltiedig ag anrhydedd a gofynnodd a allai hyn fod yn rhan o'r holi. Dywedodd Grant ei fod yn rhannu'i phryderon ond pa offer mesur y gellid ei ddefnyddio? Bu'n gweithio ar addasu'r ffurflen gyda Claudia Kinrade, Heddlu De Cymru ac roedd hyn wedi'i ystyried. Dywedodd Martin Dew fod argymhelliad  wedi'i gynnig mai dim ond un papur asesiad risg yn cael ei ddefnyddio i Gymru gyfan a bod cwestiynau ar briodas gorfodol a thrais yn seiliedig ar anrhydedd yn cael eu cynnwys.     

15. Dywedodd Chris Elmitt bod Wrecsam wedi derbyn arian o'r Swyddfa Gartref i ddatblygu llwybr gofal aml asiantaeth sy'n cael ei beilota hyd at y Nadolig eleni. Bydd yn sicrhau y bydd Grant yn cael gwybod am hyn. 

Eitem 4 ar yr Agenda - Cyflwyniad gan Matthew Pinnell a Sally Ide, CAFCASS CYMRU ar Protocol Dadleniad Teulu

16. Matthew Pinnell yw Cyfarwyddwr Rhanbarth Casnewydd a Sally Ide yw Cyfarwyddwr Rhanbarth Pen-y-bont ar Ogwr. Eglurodd Sally fod llawer o'u gwaith yn gorgyffwrdd ond hi sy'n arwain o gwmpas dadleniad yr heddlu a gwrthdaro rhwng rhieni. Mae CAFCASS CYMRU wedi ymroi i ddarparu gwasanaeth sy'n sicrhau fod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu rhag pob math o niwed. Wrth wneud hynny maent wedi cytuno i ofyn am wirio gan yr Heddlu ym mhob achos - mewn achosion Cyfraith Cyhoeddus a Chyfraith Preifat. Mewn achosion Cyfraith Preifat weithiau nhw yw'r unig sefydliad plant sydd ynghlwm â'r achos felly mae angen iddynt fod yn ymwybodol o'r wybodaeth i gyd er mwyn diogelu'r plant y maent yn gweithio gyda nhw. Maent yn sylweddoli fod hyn yn waith enfawr i'r heddlu fod yn ymgymryd ag ef, ond mae'r elfen o risg yn ormod iddynt  ei osgoi.  

17. Eglurodd Peter Jones fod gan Heddlu Gwent bryderon nad oedd ganddynt yr adnoddau i ymdopi â'r nifer cynyddol o'r rhai oedd yn cael eu atgyfeirio cyn y llys ac roedd eisoes wedi cael trafodaethau gyda Martyn Dew a Theresa Hallett o CAFCASS CYMRU yngl?n â hyn.
       
18. Dywedodd Martyn Dew ei fod yn cytuno ei fod yn angenrheidiol i ystyried pob achos yn y ffordd hon, a bod Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) wedi arwyddo i wneud hyn. Fodd bynnag roedd pob un o'r heddluoedd yn cytuno nad oes ganddynt ddigon o adnoddau i ymdopi â'r llwyth gwaith. Mae ganddo gyfarfod arall gyda CAFCASS yn fuan i drafod hyn. 

19. Dywedodd Peter Jones nad oedd wedi gweld copi o'r protocol dadleniad. Dywedodd Sally Ide nad oedd wedi ei orffen eto ond y byddai'n gadael iddo gael copi cyn gynted a'i fod yn barod. Bydd Peter wedyn yn ei anfon i'r Grwp er mwyn gwybodaeth. Gweithredu: Sally Ide i adael i Peter Jones gael copi o'r Protocol Dadleniad a rhennir hwn ymhlith y Grwp.  
                                                                             
20. Diolchodd Peter Jones i Sally a Matthew am eu cyflwyniad - bydd copi'n cael ei rannu gyda'r cofnodion. Dywedodd ei fod yn cytuno â'r agwedd Cymru gyfan a fyddai'n arwain at arfer cyson ar draws Cymru.
     
21.  Dywedodd Jan Pickles fod angen protocol o gwmpas CAFCASS yn mynychu MARAC oherwydd materion dadleniad. Maent yn aml ar goll oddi ar rhestr y sefydliadau sydd i fod i fynychu. 

Eitem 5 ar yr Agenda -  Cynllun Drafft Gweithredol ar Briodasau Gorfodol 

22. Dywedodd fod Cynllun Gweithredu drafft 3 mlynedd Llywodraeth y Cynulliad Cymru ar briodasau gorfodol wedi cael ei rhannu ymhlith y Gr?p i gael eu sylwadau ond dim ond 2 ymateb a dderbyniwyd. Mae gofyn iddi hi dderbyn pob sylw oddi fewn i'r bythefnos nesaf.  Mae'n amlygu holl waith y dymunai Llywodraeth y Cynulliad  ei ddatblygu ar y mater hwn a bod angen is-gr?p i gynorthwyo gyda'r gwaith. Dywedodd Peter Jones, yn ddarostyngedig i  ymgynghori â'r Gweinidog, y bydd yr is-gr?p yn cael ei ffurfio o blith aelodau'r Gr?p hwn, yn arbennig; mae gofyn i'r holl gydweithwyr o sefydliadau'r BME i fod yn rhan ohono. Cytunir ar amodau gorchwyl i'r Gr?p, a ffurfir y Gr?p yn fuan.

23. Dywedodd Peter Jones fod secondiad Lian i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn dod i ben yn Mis Tachwedd. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar arweiniad i Gymru a chyn gynted ag y bydd y drafft yn barod bydd yn cael ei rannu ymhlith y Gr?p er mwyn gwneud sylwadau. Gweithredu: Arweiniad Drafft i'w rannu ymhlith y Gr?p 
                                                                          
24. Dywedodd Kevin Gibbs y dylid cynnwys y Sector Wirfoddol yn y pennawd yn Amcan 3 o'r Cynllun Gweithredu ac y dylid ystyried hyfforddiant cyfredol ar briodasau gorfodol yng nghyd-destun fforymau ar drais yn y cartref hefyd.  

25. Gofynnodd Ingrid Zammit  os oedd yn fwriad gweithio gyda'r carcharau ar hyn, ond dywedodd Lian mai dim ond y prif sefydliadau statudol e.e. addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol oedd yn rhan o hyn ar hyn o bryd ond gellid cynnwys eraill yn y cam nesaf.   
      
26. Dywedodd Shahien Taj fod gan y sector gwirfoddol ran allweddol i'w chwarae ond y cyfundrefnau statudol oedd y grym sy'n gyrru'r cyfan ac mae angen cynorthwyo ymarferwyr i'w ddefnyddio. Cytunodd Peter Jones a dywedodd fod angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru arwain i wthio'r materion yn eu blaen.   

27. Dywedodd Martyn Dew fod gorgyffwrdd rhwng diogelwch cyhoeddus a thrais yn y cartref yn yr Heddlu. Dywedodd Jan Pickles fod angen iddo fod yn fater o warchod y cyhoedd yn fwy na diogelwch cymuned. Cytunodd Martyn fod angen eglurder ar hyn a bydd yn ei drafod gyda Gr?p Heddlu Cymru gyfan ym Mis Hydref. Gweithredu: Martyn Dew i drafod gyda Gr?p Heddlu Cymru gyfan ac adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf. 

Eitem 6 ar yr Agenda - Gwybodaeth  Diweddaraf ar faterion y Swyddfa Gartref 

28.  Gofynnodd Peter Jones i gydweithwyr y Swyddfa Gartref am ddiweddariad. Dywedodd Sheila Hill fod y swyddfa Gartref wedi cadarnhau fod cyfanswm o  £200k ar gael yn y flwyddyn ariannol bresennol ar gyfer prosiectau ar gyfer cam-drin yn y cartref a bod llythyrau wedi eu hanfon allan heddiw yn gofyn am geisiadau yn enwedig ar gyfer prosiectau rhanbarthol. Mae pob un o ardaloedd y SDVC yng Nghymru wedi bod yn llwyddiannus i gael £15k yr un i gefnogi MARAC. Mae rhai yn dal i ddisgwyl am dermau ac amodau'r grant wedi'u harwyddo. Roedd dwy ardal nad oedd yn ardaloedd SDVC - Dyfed/Powys a Gogledd Cymru wedi cael dyraniad o £15k ar gyfer MARAC. Roedd Ardaloedd nad oeddent yn SDVC hefyd wedi cael cyfle ffurfiol i fynegi  diddordeb mewn datblygu SDVC ac y mae'r Swyddfa Gartref yn ystyried y ceisiadau.  Ni dderbyniwyd eto dirprwyaeth am y £20k a gymeradwyid i'r Cynghorwyr Annibynnol ar Drais yn y Cartref (IDVA) i bob SDVC.
 
29. Eglurodd Sheila Hill y byddai Timau Cam-drin yn y Cartref a cham-drin rhywiol yn cynnal sioe deithiol yn Llandrindod ar Fedi 27 i drafod ehangu SDVC ac IDVA, datblygu MARAC, rheoli data, priodasau gorfodol, ehangu Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs) ac adolygiadau troseddwyr rhywiol yn erbyn Plant. Mae lleoedd yn brin. Yn ychwanegol, mae Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (HMCS) yn cynnal cynhadledd "Sharing Prospectives" ar system SDVC yn Central Hall yn San Steffan ar Hydref 31. Ychydig o leoedd gwag sydd ar ôl ond cysylltwch â HMCS yn uniongyrchol i weld os oes lle ar gael. Cynhelir cynhadledd debyg yng Ngwesty'r Copthorne, Caerdydd ar Tachwedd 26. Disgwylir agenda'r wythnos nesaf ac fe'i rhennir ymhlith y Gr?p. Er gwybodaeth, arweinwyr yr HMCS Cymreig yw  Edwina Jones, Dyfed/Powys, Martyn Waygood o De Ddwyrain Cymru a Glesni Carter, Gogledd Cymru. Gweithredu: Sheila Hill i anfon agenda o'r agenda o'r Gynhadledd Gymreig i Aelodau'r Gweithgor ar Gam-drin yn y Cartref
                                                                                                                             
30. Dywedodd Julie Jordan wrth y Gr?p fod Gillian Baranski wedi sefydlu gr?p SDVC Cymru gyfan. Ei bwrpas yw trafod a rhannu ymarfer da ar draws llysoedd Cymru. Mae'r trydydd cyfarfod i fod i ddigwydd ar Tachwedd 9fed .
      
31. Dywedodd  Martyn Dew fod ganddo bryderon y bydd y CJSSS newydd  yn cael effaith andwyol ar y SDVCs sydd eisoes yn bodoli. Bydd yn e-bostio Peter Jones gydag adborth ar hyn a bydd Peter yn codi'r mater gyda'i gydweithwyr yn y Swyddfa Gartref. Gweithredu: Martyn Dew i e-bostio Peter Jones gydag adborth ar y CJSSS newydd.                                              

Eitem 7 ar yr Agenda - Gwybodaeth Ddiweddaraf ar Gynhadledd Codi Safonau

32. Cadarnhaodd Peter Jones y byddai'r gynhadledd ar 8/9 Hydref yn Guernsey. Mae tua 20 o gynadleddwyr o Gymru. Gan fod Llywodraeth y Cynulliad yn cyllido Sefydliadau Gwirfoddol byddai'n gwerthfawrogi pe byddai'r holl anfonebau'n cael eu hanfon i'w swyddfa o fewn mis o'r gynhadledd.    

Eitem 8 ar yr Agenda - Blaenoriaethau Gweinidogion Llywodraeth y DU i Wragedd.

33. Dywedodd Peter Jones fod y papur hwn wedi'i rannu ymhlith y Gr?p er mwyn cael sylwadau a'r dyddiad cwblhau yw Medi 14eg. Os oes unrhyw sylwadau pwysig anfonwch hwy ymlaen, os gwelwch yn dda, i Janet Darch erbyn diwedd yfory.

Eitem 9 ar yr Agenda - Papur i nodi - "Ymchwilio a Darganfod Troseddau o Drais Rhywiol a Recordiwyd"

34. Eglurodd Peter Jones fod y papur hwn wedi'i anfon i aelodau ar ffurf electroneg. Mae'r adroddiad yn crynhoi darganfyddiadau astudiaeth o athreuliad yn y troseddau a recordiwyd mewn trais rhywiol o fenywod yn Lloegr a Chymru yn 2003/04. Bydd o ddiddordeb arbennig i sector Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC).     

Eitem 10 ar yr Agenda - Unrhyw Fater arall

35. Gofynnwyd i'r aelodau os oedd ganddynt unrhyw fater i'w godi. Dywedodd Ingrid Zammit  fod ganddi hi ddwy eitem. Y cyntaf yw rhaglen cam-drin yn y cartref ar gyfer troseddwyr yn y carchar. Nid oes rhaglen ymyriadau ffurfiol yn cael eu cynnig mewn carcharau yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag mae rhaglen IDAP yn cael ei chyflwyno gan y Gwasanaeth Prawf ond nid yw wedi'i achredu i'w chyflwyno mewn carcharau. Wrth sefydlu NOMS mae'r sefyllfa'n newid a  bydd cynnig yn cael ei gyflwyno i Banel Achredu'r Gwasanaeth Cywiro  ym Mis Hydref  i achredu'r IDAP er mwyn ei gyflwyno mewn carcharau. Byddai NOMS yn hoffi rhoi'r trefniant newydd ar brawf yng Ngharchar Caerdydd a Phrawf De Cymru ac maent ar hyn o bryd yn brysur gweithio ar gynlluniau i wneud hyn.  Mae'r galw am IDAP yn arwyddocaol ac y mae ardaloedd prawf yn brwydro i gyfarfod y galw. Gall carcharau a'r Gwasanaeth Prawf ymuno â'i gilydd i gynorthwyo i leddfu'r sefyllfa.

36. Dywedodd Jan Pickles ei bod hi'n credu nad oedd y rhai sy'n cyflawni troseddau cam-drin yn y cartref yn cael mynd ar gyrsiau yn y carchar. A fu unrhyw newid yn y meini prawf? Dywedodd Ingrid y byddai'n cael goleuni ar y mater ac yna'n adrodd yn ôl i Jan.
      
37. Dywedodd Ingrid mai'r menter newydd arall gan NOMS Cymru yw Prosiect Merched sy'n anelu at sefydlu a gweithredu rhaglen arloesol i wragedd sy'n droseddwyr a gwragedd oedd mewn perygl o droseddu. Mae hwn yn gallu delio ag anghenion merched, gan gydnabod fod rhain yn wahanol i anghenion dynion a chyflwyno lleihad cynaladwy yn nhroseddau merched a lleihau carcharu y gwragedd hynny nad ydynt yn fygythiad i gymdeithas. Dywedodd Ingrid fod NOMS ar hyn o bryd yn chwilio am gyllid ar gyfer y fenter. Gofynnodd Peter Jones iddi e-bostio manylion y prosiect iddo a chaiff ei anfon allan gyda'r cofnodion. Gweithredu: Ingrid Zammit i anfon
e-bost i Peter Jones ac anfonir hwn yn cael ei anfon gyda'r cofnodion. 
                                                                                        
38. Dywedodd Peter Jones ei fod wedi derbyn copi gan Jill Richards o gynnig gan Prospect i Gynhadledd Undebau Llafur Cymru eleni ar bolisi man gwaith. Dywedodd fod cyhoeddi'r daflen man gwaith generig ar gam-drin yn y cartref yn enghraifft dda o hyn. Mae DIS ar hyn o bryd yn brysur gweithio gydag Ymddiriedolaethau Iechyd a BILIs i gael polisi man gwaith wedi'u gwthio ar eu agenda.   

39. Dywedodd Jan Pickles fod y Tîm Oedolion sy'n Agored i Niwed yn Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd wedi bod yn casglu data am y 6 mis olaf ac mae'n dangos arwyddion o gynnydd yn nifer y rhai hyn sy'n dioddef o gam-drin yn y cartref. Gofynnodd a ellid ei gynnwys yn y monitro a wneir gan ASGC Dywedodd Peter Jones y byddai'n cysylltu â hwy. Dywedodd nad oedd digon o waith wedi'i wneud ar gam-drin pobl h?n ac mae angen i hyn gael ei ystyried yn unol â'r Strategaeth. Gweithredu: Peter Jones i gysylltu â ASGC am data ar gam-drin pobl h?n.

Eitem 11 ar yr Agenda - Dyddiadau'r cyfarfodydd nesaf 

40. Gofynnodd Peter Jones i'r aelodau i nodi dyddiadau'r cyfarfodydd nesaf yn 2007/08  
                            
Dydd Iau, 13 Rhagfyr 2007 - Ystafell Gyfarfod Cribyn, Merthyr Tydfil 2pm - 4pm

Dydd Mercher, 12 Mawrth 2008 - Ystafell Gyfarfod Cribyn, Merthyr Tydfil 2pm- 4pm

Dydd Mercher, 11 Mehefin2008 -Ystafell Gyfarfod Cribyn, Merthyr Tydfil 2pm - 4pm