Skip to content

Cofnodion cyfarfod y Gweithgor Cam-drin Domestig yng Nghymru a gynhaliwyd ym mis 11 Mehefin 2008

Cofnodion cyfarfod y Gweithgor Cam-drin Domestig yng Nghymru a gynhaliwyd ym mis 11 Mehefin 2008.

Presennol:        

Cadeirydd

Peter Jones – Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru  

Aelodau

  • Jon Trew - Cymorth i Ddioddefwyr
  • CDI Martyn Dew - Heddlu Gwent
  • Jan Pickles OBE- Rheolwr, Adran Ddiogelwch Caerdydd
  • Rachel Morgan - CLlLC
  • Tiana Williams -Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Jill Richards - TUC Cymru
  • Jo Roberts - UCM, Cymru
  • Matthew Pinnell - CAFCASS, Cymru
  • Mutale Nyoni - Prif Weithredwr, BAWSO
  • Sam Ali - BAWSO
  • Lynne Sanders, Cymorth i Fenywod Abertawe
  • Sally Shepherd, Cymorth i Fenywod Cymru
  • Ingrid Zammit - Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr Cymru
  • Immy Lee - Cyd-gysylltydd Cam-drin Domestig, Tor-faen
  • Owen Davies - Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Phil Guy - Tîm Datblygu Polisi Camddefnyddio Sylweddau, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Janet Thompson - Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Sheila Hughes - Tîm y Swyddfa Gartref ar Droseddu
  • Anna Slatter - Cynghorydd Polisi Iechyd Arbenigol, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Emma Towers - Cyfarwyddiaeth Polisi Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Iechyd, Llywodraeth Cynulliad Cymru

Sylwedydd

Dr Siriol David - Pennaeth Gwasanaethau Seicoleg Fforensig, Carchardai Cymru

Ysgrifenyddiaeth

Jane Andrews - Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru

Ymddiheuriadau

  • Christine Elmitt - Fforwm Cam-drin Domestig Gogledd Cymru
  • Elen Pierce, Cyfarwyddwr, Cymorth i Fenywod Cymru
  • Karen Bathgate - Refuge, Cangen Ceiswyr Lloches, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Dr Aideen Naughton - Ysbyty Neville Hall
  • Stacey Holland - Y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Clara Swinglehurst - Y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Naz Malik - Prif Weithredwr, AWEMA
  • Libby Jones - Cyfarwyddwr, Llwybrau Newydd
  • Mike Goldman - Tîm Troseddau Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot
  • Kevin Gibbs - NSPCC
  • Cathy Davies - Prif Weithredwr, Tai Hafan
  • Jason Lintern - Tîm y Swyddfa Gartref ar Droseddu
  • Polly Ferguson - Swyddfa'r Brif Nyrs, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Mike Burns - Cangen Diogelu Plant, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Carolyn Seymour - Gwasanaeth Prawf

Cyflwynydd:

Mutale Nyoni - Prif Weithredwr, BAWSO

Eitem agenda 1 - Cyflwyniadau ac Ymddiheuriadau

1. Cafwyd gair o groeso gan Peter Jones i agor y cyfarfod ac aeth ati i gyflwyno. Cyflwynodd Emma Towers ac Anna Slater oedd yn cynrychioli agenda iechyd y Cynulliad, Immy Lee oedd yn cynrychioli Cyd-gysylltwyr Cam-drin Domestig, Owen Davies, Is-adran Diogelwch Cymunedol a Dr Siriol David fel sylwedydd. Wedyn cyflwynodd yr ymddiheuriadau.

Eitem agenda 2 - Cofnodion y cyfarfod diwethaf a Materion sy'n Codi

2. Gofynnodd Peter Jones i'r aelodau gadarnhau cofnodion cyfarfod 12 Mawrth 2008. Wedyn, cyflwynodd y newyddion diweddaraf ar faterion oedd wedi codi yn y cyfarfod diwethaf:

(i) Newyddion diweddaraf ar Brotocol Datgeliad Teuluol CAFCASS CYMRU
 
Gofynnodd Peter Jones i Matthew Pinnell am y newyddion diweddaraf. Dywedodd Matthew fod y ddogfen yn nwylo'r Heddlu o hyd. Cytunwyd ar y ddogfen mewn egwyddor ond mae'n rhaid ei llofnodi ac nid oes dyddiad wedi cael ei bennu ar gyfer hyn. Ar ôl i'r ddogfen gael ei chymeradwyo, anfonir copi at holl aelodau'r Grwp. Gweithredu: Dosbarthu'r ddogfen i aelodau'r Grwp ar ôl iddi gael ei chymeradwyo.

(ii) Newyddion diweddaraf ar y Cynllun Gweithredu ar Briodasau dan Orfod

Dywedodd Peter Jones fod y Gweinidog, Dr Brian Gibbons, wedi lansio'r cynllun gweithredu 3 blynedd ar briodasau dan orfod a throseddau ar sail anrhydedd ym mis Ebrill yng nghanolfan allgymorth BAWSO yn Wrecsam. Cafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ac fe'i cymeradwywyd yn amodol ar ambell i ddiwygiad bach. Bydd is-gr?p yn cael ei sefydlu yn y man a bydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal ddechrau mis Gorffennaf. Prif eitemau agenda'r cyfarfod hwnnw fydd y cylch gorchwyl, nifer y cyfarfodydd a sut i gyflawni'r Cynllun Gweithredu. Gofynnir i BAWSO, Henna, MEWN Cymru a Chymorth i Fenywod Cymru anfon cynrychiolwyr a gwahoddir yr Heddlu (Uwcharolywgyr Neil Kinrade a Chris Adams), Jan Pickles, Libby Jones a chydweithwyr yn y Cynulliad o'r adrannau Addysg, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Cydraddoldeb a Chydlyniant Cymunedol i fynychu. Bydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei gadeirio gan Peter Jones ac Owen Davies. Owen fydd yn cadeirio'r cyfarfodydd dilynol.

(iii) Adborth ar y CJSSS newydd

Soniodd Martyn Dew yn y cyfarfod diwethaf am y problemau sy'n cael eu hachosi rhwng CJSSS a'r SDVC a dywedodd y byddai'n hoffi trafod y sefyllfa gyda Jason Lintern. Gan nad oedd Jason yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod hwn, gofynnodd Peter Jones i Martyn ysgrifennu at Jason i nodi ei bryderon a byddai'r mater yn cael ei drafod yn y cyfarfod SDVC nesaf ar 20 Mehefin.
  Gweithredu: Martyn Dew i ysgrifennu at Jason Lintern a'r mater i'w drafod yn y cyfarfod SDVC
     
(iv) Newyddion diweddaraf am Gyllid Posibl gan y Swyddfa Gartref i Fenywod heb atebolrwydd i arian cyhoeddus

Dywedodd Peter Jones ei fod wedi mynychu cyfarfod Grwp Rhyng-Weinidogol yn Whitehall ar gam-drin domestig a bod y Swyddfa Gartref yn cynnig arian newydd a fydd ar gael i Gymru. Bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu drwy Awdurdodau Lleol yn Lloegr ond awgrymodd Peter ei fod yn mynd i sefydliadau Gwirfoddol yng Nghymru. Mae'r drafodaeth hon yn parhau. Codwyd y mater mewn Cyfarfod Llawn gyda'r Prif Weinidog lle dywedodd fod trafodaethau'n parhau rhwng y Cynulliad a'r Swyddfa Gartref ac y byddai Dr Gibbons yn ymateb ar ôl derbyn y newyddion terfynol. Gweithredu: Peter Jones i e-bostio'r Grwp pan oedd ffordd ymlaen wedi'i chytuno gyda Dr Gibbons a'r Swyddfa Gartref.

(v) Newyddion diweddaraf am Gynrychiolaeth Cyd-gysylltwyr Cam-drin Domestig ar y Gweithgor Cam-drin Domestig

Roedd hon yn eitem ar agenda'r cyfarfod diwethaf o Gyd-gysylltwyr Cam-drin Domestig Cymru gyfan pan benodwyd Immy Lee yn gynrychiolydd am gyfnod o flwyddyn.

Dywedodd Peter Jones wrth y Grwp am nodi'r pwyntiau canlynol -

  • Mae Peter Jones wedi cyfarfod Martyn Dew i drafod y posibilrwydd o gyflwyno gwaith Steve Connor, sef cynorthwyo dioddefwyr i gael gwaharddeb llys, yng Nghymru. Mae yna drafodaethau'n parhau gyda Steve a lansiad, o bosibl, yn hwyrach eleni ond nid yw'r manylion wedi cael eu cytuno eto. Dywedodd John Trew ei fod wedi mynychu darlith ym Mhrifysgol Abertawe yn ddiweddar a'u bod yn awyddus iawn i fynd â'r gwaith yn ei flaen. Dywedodd Immy Lee fod llawer yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-gysylltwyr Cam-drin Domestig yn awyddus i gael gwybod pryd y bydd y fenter yn cychwyn yng Nghymru am fod ganddynt gysylltiadau da â chyfreithwyr eisoes. Cytunwyd y byddai Martyn Dew yn cysylltu â Chyd-gysylltwyr Cam-drin Domestig pan oedd ganddo ragor o wybodaeth. Dywedodd Jan Pickles ei bod yn bwysig gwahodd pob cyfreithiwr priodol i'r lansiad ac efallai y byddai'n syniad ysgrifennu at Bennaeth Cymdeithas y Cyfreithwyr. Cytunodd Tiana Williams. Gweithredu: Gwahodd Tiana Williams ac Immy Lee i'r cyfarfod nesaf gyda Martyn Dew a Peter Jones.
  • Roedd llythyr Kate Bennett i Gyd-gysylltwyr Cam-drin Domestig wedi cael ei ail anfon.
  • Nid oedd Safonau Gofynnol ar gyfer Cyd-gysylltwyr Cam-drin Domestig wedi cael eu dosbarthu i'r Gr?p o ganlyniad i ddatblygiadau newydd. Mae'r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant wrthi'n cynnal ymchwiliad i gam-drin domestig ac mae'r Gweinidog wedi cytuno bod angen gweithredu o ran Strategaeth Cam-drin Domestig Cymru gyfan - datblygu Cynllun Gweithredu Strategol newydd yn hytrach nag ailysgrifennu. Bydd y cynllun yn ystyried unrhyw argymhellion sy'n codi o'r ymchwiliad. Bydd secondiai yn cael ei benodi i ddatblygu'r gwaith hwn. Bydd y Gr?p yn cael y newyddion diweddaraf am y datblygiadau. Dywedodd Sally Shepherd nad oedd Cymorth i Fenywod Cymru wedi derbyn cais i roi tystiolaeth yn yr Ymchwiliad a bod eu Cyd-gysylltydd Cyfreithiol wedi cyfrannu trwy gyfrwng Cymorth i Fenywod Caerdydd. Dywedodd Jon Trew nad oedd Cymorth i Ddioddefwyr Cymru wedi derbyn cais chwaith, dim ond cangen Caerdydd. Dywedodd Peter Jones bod y Pwyllgor yn gwybod pwy oedd aelodau'r Gweithgor ond nad oedd yn rhan o'r broses o ddewis pwy oedd yn cael eu gofyn i gyfrannu gan fod hwnnw'n fater i'r Pwyllgor. Roedd wedi rhoi cyngor ar bennu amserlen ar gyfer cyflwyno gwybodaeth yn y cyfarfod blaenorol ac roedd yn falch o weld bod ymateb da i hyn. Dywedodd fod y Pwyllgor Datblygu Cynaliadwy yn dilyn yr ymchwiliad drwy'r adysgrifau a bod y rhain ar gael ar y wefan.

3. Wedyn cytunwyd bod y cofnodion yn gywir.

Eitem agenda 3 - Cyflwyniad gan Mutale Nyoni, Prif Weithredwr BAWSO ar argymhellion ar gyfer y Rhaglen Priodasau dan Orfod a Masnachu mewn Menywod a Phlant

4. Gofynnodd Peter Jones i Mutale roi ei gyflwyniad. Dosbarthodd Mutale lyfryn gwybodaeth a gofynnodd i'r Grwp edrych ar eu hamcanion ar gyfer y Cynllun Gweithredu ar Briodasau dan Orfod. Dywedodd Mutale eu bod yn croesawu'r Cynllun Gweithredu a'u bod yn hapus iawn pan lansiodd Dr Gibbons ef yn swyddogol yn eu gwasanaethau allgymorth yn Wrecsam. Maen  nhw wedi argymell amcanion, canlyniadau ac amserlenni a fydd yn cael eu trosglwyddo i'r is-grwp priodasau dan orfod. Mae'n hanfodol bod sefydliadau statudol allweddol fel Byrddau Diogelu Plant Lleol a Fforymau Diogelu Oedolion yn gwneud eu rhan i ddarparu dull cyfannol i gynorthwyo dioddefwyr priodasau dan orfod. Dylai Cyngor Ffoaduriaid Cymru hefyd gyfrannu at yr is-grwp a gofynnodd Peter Jones i Mutale am eu manylion cyswllt. Gweithredu: BAWSO i roi manylion cyswllt Cyngor Ffoaduriaid Cymru i Peter Jones.

5. Dywedodd Peter Jones ei fod yn fater cymhleth a bod y Cynulliad yn ymrwymedig i sicrhau bod arweiniad yn cael ei roi i wasanaethau  iechyd, addysg a chymdeithasol. Efallai bydd angen tendro elfen hyfforddi'r gwaith a bydd sefydliadau fel BAWSO a Sefydliad Henna yn cael gwybod am hyn. Mae'n hanfodol bod yr holl sefydliadau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig allweddol fel BAWSO a Henna yn cydweithio ar yr agenda hon a bod Byrddau Diogelu Plant Lleol a Fforymau Diogelu Oedolion yn rhan o unrhyw drafodaethau.

6. Dywedodd Mutale fod angen i ni edrych ar ddulliau atal ac ôl-ofal a chynnwys athrawon a gweithwyr cymunedol. Mae angen defnyddio dulliau gwahanol i ymdrin â'r holl faterion, ac ar ôl datblygu arweiniad, bydd angen adnoddau i gyflawni a gweithredu.

7. Dywedodd Peter Jones y bydd y Cynllun Gweithredu'n weithredol nes 2011 i ddechrau ond nad oedd amserlenni penodol wedi cael eu pennu ar gyfer gweithredoedd unigol - bydd yr is-grwp mewn sefyllfa dda i gynghori ar hyn. Gellir cyflwyno llyfryn BAWSO i'r is-grwp. Mae'r Cynllun yn ymrwymo'r Cynulliad i gyhoeddi'r arweiniad, codi ymwybyddiaeth, cynnal cynhadledd a hyfforddiant i staff rheng flaen. Mae safbwynt BAWSO yn y llyfryn yn adleisio'r hyn y mae'r Cynulliad am ei gyflawni.

8. Roedd Mutale wedi rhoi cyflwyniad ar fasnachu mewn menywod a phlant mewn Gweithgor Trawsbleidiol gyda Dr Gibbons yn bresennol a gofynnwyd iddynt ddarparu argymhellion allweddol. Mae angen gweithdrefnau byd-eang i osgoi anghysondebau. Mae grwpiau bach yn cael trafferth ac mae angen monitro a gwerthuso darparwyr cymorth presennol i gael gafael ar arian neilltuedig. Mae angen darparu hyfforddiant priodol i godi ymwybyddiaeth ac mae angen cyfeiriad clir gan y Cynulliad ar hyn, gydag arian wedi'i glustnodi ar gyfer yr agenda hon.

9. Dywedodd Jan Pickles fod Llywodraeth Iwerddon yn edrych ar fasnachu mewn pobl yn Iwerddon. Mae llawer o fenywod yn dod i Gymru drwy Iwerddon ond mae'r Llywodraeth yn cysylltu â'r Unol Daleithiau ac nid Cymru. Dywedodd Peter Jones bod cynrychiolydd o'r Iwerddon ar y Grwp Codi Safonau ac y bydd yn codi'r mater hwn yn y cyfarfod nesaf ar 4 Gorffennaf. Dywedodd John Trew nad yw Iwerddon yn gallu atgyfeirio'n uniongyrchol a'u bod yn gofyn i ddioddefwyr siarad â gwasanaethau uniongyrchol. Gofynnodd Peter i Jon anfon e-bost ato gyda gwybodaeth am y mater hwn. Gweithredu: Jon Trew i e-bostio Peter a Peter i godi'r pryderon hyn gyda'r Grwp Codi Safonau ar 4 Gorffennaf.

10. Dywedodd Peter Jones fod masnachu mewn pobl yn berthnasol i bortffolio llawer o Weinidogion a bod llety diogel ar y gweill i fenywod sy'n ffoi rhag puteindra a masnachu mewn menywod yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe. Mae'r prosiect hwn yn cael ei reoli gan Adran Dai'r Cynulliad. Dywedodd Peter ei fod wedi mynychu'r Gweithgor Trawsbleidiol ac nad oedd yn cynghori sefydlu is-gr?p arall i edrych ar yr agenda hon ar hyn o bryd. Bydd rhan hon y gwaith yn cael ei chynnwys wrth ddatblygu'r Cynllun Gweithredu Strategol newydd. Agwedd gymhleth bellach yw nad yw mewnfudo yn fater datganoledig ond rydym yn cael gwybod am bob datblygiad drwy Dr Gibbons sy'n aelod o'r IMG.

11. Dywedodd Peter Jones fod yr Adroddiad Amnest yn dangos bod Cymru yn gwneud mwy nag eraill parthed yr agenda hon. 

12. Diolchodd Peter i Mutale am ei chyflwyniad.

Eitem agenda 4 - Newyddion diweddaraf am Ymgyrch Menywod UCM Cymru sy'n mynd i'r afael â Cham-drin Domestig a Myfyrwyr a'u Prosiect Allgymorth i Fyfyrwyr

13. Gofynnodd Peter Jones i Jo Roberts roi'r newyddion diweddaraf. Dywedodd Jo fod UCM Cymru wedi cyflawni gwaith sylweddol ar gam-drin domestig yn ddiweddar. Roeddent wedi trefnu diwrnod hyfforddi ymwybyddiaeth ar sail Cymru gyfan a gwahodd myfyrwyr i fynychu er mwyn codi ymwybyddiaeth a thrafod sut all cam-drin domestig effeithio ar fyfyrwyr. Maen nhw wedi bod yn gweithio ar brosiect allgymorth sy'n gynllun peilot yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd ac yn rhoi cyngor ar sut i gael gafael ar wasanaethau. Cafwyd £20k gan y Swyddfa Gartref ar gyfer hyn ac roeddent wedi cydweithio â Chymorth i Fenywod Caerdydd i gynnal gweithdai. Fe brynwyd posteri, larymau ymosod a rhoi rhifau ffôn llinellau cymorth, dyddiaduron diogelwch a phamffledi.

14. Maen nhw hefyd wedi bod yn cydweithio ar brosiect ymchwil gydag Amnesti Rhyngwladol ar safbwyntiau myfyrwyr ar drais yn erbyn menywod. Mae'r adroddiad ar ffurf drafft ond bydd yn cael ei ddosbarthu rhwng y Grwp wedi iddo gael ei gwblhau. Mae'r arolwg o 733 myfyriwr yn rhoi canlyniadau diddorol ac mae UCM Cymru yn gobeithio cynnal cynhadledd i'r wasg ym mis Gorffennaf. Gweithredu: Dosbarthu'r adroddiad i'r Grwp.

15. Dywedodd Jan Pickles fod yr arolwg yn berthnasol i stori ddiweddar ar raglen deledu Hollyoaks sy'n targedu pobl ifanc rhwng 14 a 17 mlwydd oed. Gofynnodd Sam Ali a oedd myfyrwyr duon a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynnwys yn yr arolwg, ond dywedodd Jo nad oeddent wedi nodi'r canlyniadau mewn categorïau, dim ond dynion a menywod ac nid oedd gwaith ymchwil penodol wedi cael ei wneud ar briodasau dan orfod. Dywedodd Mutale eu bod yn derbyn nifer o atgyfeiriadau gan golegau ar briodasau dan orfod felly efallai y dylid ymdrin â hyn maes o law. Gofynnodd Martyn Dew a oedd y canfyddiadau wedi cael eu rhoi yn y System Cyfiawnder Troseddol drwy'r Swyddfa Gartref, ond nid oedd hyn wedi'i wneud eto. Dywedodd Peter Jones y byddai'r Adroddiad yn cael ei anfon i'r IMG wedi iddo gael ei orffen. Dywedodd Jan Pickles mai dim ond ychydig o atgyfeiriadau myfyrwyr a gafwyd y llynedd ond nad oedd hyn yn adlewyrchiad cywir. Cytunodd Jo a dywedodd bod myfyrwyr yn cysylltu'n gyntaf gyda'u tiwtor personol ac nad yw arwyddion o gam-drin domestig yn cael eu canfod. Dywedodd Jan ei bod yn poeni nad oes stradegaeth ymadael ar waith pan fydd myfyrwyr yn gadael y system. Mae angen holiadur rhag ofn bod angen cymorth a dylai sefydliadau gymryd rhan mewn ffeiriau wythnos y glas.

16. Dywedodd Peter Jones fod atal yn allweddol i gyflawni'r Strategaeth a bod y Cynulliad yn ymdrechu i ledu'r neges mewn ysgolion a lleoliadau ieuenctid drwy gyhoeddi'r llyfryn Ysgol ac ariannu prosiect "Sbectrwm" Tai Hafan. Mae Rhaglen Ysgolion Cymru Gyfan y Cynulliad yn cynnwys modiwl am gam-drin domestig ac mae hwn yn cael ei ddilyn mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Cafodd y llyfryn Ysgol ei drafod yn yr Ymchwiliad Pwyllgor diweddar ac efallai bydd yn cael ei ddiweddaru o ganlyniad. Efallai bydd angen ystyried beth arall y gellir ei wneud mewn lleoliadau addysg pan gyhoeddir adroddiad UMC.

Eitem agenda 5 - Y Newyddion diweddaraf am Faterion y Swyddfa Gartref

17. Gofynnodd Peter Jones i Sheila Hughes am y newyddion diweddaraf. Mae £350k ar gael gan y Gyllideb Troseddau mewn Mannau Preifat ar gyfer Llysoedd Trais Domestig Arbenigol a Chynadleddau Asesu Risg Amlasiantaethol er mwyn llenwi bylchau yn y ddarpariaeth. Credir bod angen fforwm erbyn hyn ar gyfer Cynghorwyr Trais Domestig Annibynnol i drafod problemau ac arferion gorau. Ni chafwyd cadarnhad hyd yma fod arian i Gynghorwyr Trais Domestig Annibynnol yn parhau. Dywedodd Jon Trew fod peth ymchwil wedi cael ei wneud yn ardal Powys a phan ofynnwyd a fyddai'n well gan bobl fynychu Llys Trais Domestig Arbenigol yng Nghaerdydd neu fynd i lys lleol, dywedodd 28 allan o 30 y byddai'n well ganddynt deithio i Lys Trais Domestig Arbenigol. Dywedodd Jan Pickles fod Llysoedd Trais Domestig Arbenigol yn gweithio'n dda mewn ardaloedd gwledig a bod Hwlffordd yn enghraifft dda o hynny.

18. Dywedodd Sheila wrth y Grwp fod Sir y Fflint wedi derbyn achrediad o Lys Trais Domestig Arbenigol, ond bod Bro Morgannwg wedi cael cyfweliad a bod angen mwy o waith a byddai'r sefyllfa'n cael ei asesu eto ym mis Medi.

19. Atgoffwyd y Grwp am y Sioe Deithiol ar droseddau ar sail anrhydedd oedd yn cael ei chynnal ar 15 Gorffennaf yn Stadiwm y Mileniwm. Mae hon ar gyfer Cymru a De-ddwyrain Lloegr. Gellir cofrestru ar-lein.

20. Eglurodd Peter Jones bod Tîm y Swyddfa Gartref ar Droseddau a'r Pwyllgor Datblygu Cynaliadwy wedi'u lleoli ym Merthyr a'u bod yn cyfarfod yn rheolaidd i gyd-gysylltu'r agenda cam-drin domestig.

Eitem agenda 6 - Newyddion diweddaraf ar faterion Camddefnyddio Sylweddau

21. Gofynnodd Peter Jones i Phil Guy am y newyddion diweddaraf. Dywedodd Phil fod yr ymgynghoriad ar Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru wedi cael ei gwblhau a bod ymatebion yn cael eu hadolygu. Mae un o brosiectau y Fframwaith Triniaethau Camddefnyddio Sylweddau eleni ar gyfer modiwl cam-drin domestig a chamddefnyddio sylweddau i ddatblygu protocolau rhwng y ddau wasanaeth i greu cysylltiadau atgyfeirio cryf. Sefydlwyd is-grwp i ddatblygu'r gwaith hwn ac bydd y cyfarfod cyntaf ar 17 Mehefin.

Eitem agenda 7- Newyddion diweddaraf ar Faterion Iechyd

22. Eglurodd Peter Jones fod y Dirprwy Weinidog dros Iechyd, Gwenda Thomas, mewn Ymchwiliad Pwyllgor diweddar, wedi rhoi tystiolaeth ac wedi pwysleisio'r angen am wella ymgysylltiad cydweithwyr ym maes Iechyd yn yr agenda hon. O ganlyniad roedd Anna Slatter ac Emma Towers wedi cael eu gwahodd i ymuno â'r Grwp. Roedd Anna Slatter yn croesawu'r cyfle hwn ac yn dweud eu bod wedi edrych ar wasanaethau menywod a'r cysylltiad rhwng cam-drin domestig ac iechyd. Gwelwyd bod hwn yn fater polisi sylweddol oedd angen mewnbwn iechyd cryfach. Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Edwina Hart, wedi egluro bod angen diddordeb iechyd mewn cam-drin domestig a bod angen i'w chydweithwyr fynychu'r Grwp hwn. Maen nhw wedi bod yn datblygu gwaith ar Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol ac mae grwp trawsadrannol wedi cael ei greu ac mae Peter wedi derbyn cais i fynychu. Bydd Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yn eitem parhaol ar yr agenda. Dywedodd Anna ei bod yn ymddeol ar ddiwedd mis Mehefin ond y byddai Paul Parker yn cymryd ei lle yn y Grwp. Ei hymrwymiad yw atgyfnerthu'r berthynas waith hon rhwng yr Adrannau cyn iddi ymddeol.

23. Dywedodd Jan Pickles ei bod yn croesawu'r maes Iechyd i'r Grwp. Roedd wedi rhoi tystiolaeth yn yr Ymchwiliad Pwyllgor am hyn. Eglurodd yr angen am ddata iechyd da ar Gynadleddau Asesu Risg Amlasiantaethol. Eglurodd BAWSO hefyd fod angen i gydweithwyr ym maes Iechyd ymgysylltu.

Eitem agenda 8 - Newyddion diweddaraf am Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant

24. Dywedodd Peter Jones ei fod wedi ymdrin â hyn o dan y materion sy'n codi.

Eitem agenda 9 - Newyddion diweddaraf am Gyllid Cyfalaf

25. Eglurodd Peter Jones bod gwariant y gyllideb refeniw cam-drin domestig eisoes wedi cael ei wario'n llawn eleni ond bod ychydig o gyllid cyfalaf ar gael. Mae llythyr wedi cael ei anfon at holl aelodau'r Gr?p, Cyd-gysylltwyr Cam-drin Domestig a Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol yn gwahodd ceisiadau am ddatblygiad parhaus y siopau un stop a Chanolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol.

Eitem agenda 10 - UFA

26. Gofynnwyd i aelodau a oeddent am godi unrhyw faterion. Dywedodd Ingrid Zammit eu bod newydd gyflawni prosiect peilot i droseddwyr yng ngharchar Caerdydd sydd am gael ei werthuso ac maent yn gobeithio y bydd yn cael ei ddefnyddio yn holl garchardai Cymru. Mae yna weithdrefn asesu risg gwell a fyddai'n gallu cael ei gweithredu ac maent yn gobeithio y caiff ei chymeradwyo gan y gwerthusiad. Gofynnodd Peter Jones i Ingrid gyflwyno'r prosiect i'r Grwp ar ôl y gwerthusiad. Gweithredu: Ingrid Zammit i gyflwyno'r prosiect i'r Grwp.

27. Gofynnodd Immy Lee a oedd unrhyw arian ar gael ar gyfer rhaglenni i droseddwyr yn y gymuned ond dywedodd Peter Jones bod prosiect "Caring Dads Cymru" yr NSPCC yn cael ei ariannu ar hyn o bryd a'i werthuso'n fuan felly nid oedd unrhyw arian ar gael ar hyn o bryd.

28. Dywedodd Jon Trew eu bod yn edrych ar ddefnyddio mesurau arbennig mewn llysoedd e.e. ystafelloedd cyswllt fideo, a'u bod yn  effeithiol yn y gogledd ond nid oedd hyn yn gyson drwy Gymru gyfan. Mae'n ceisio casglu ystadegau am eu heffeithiolrwydd drwy ganlyniadau'r achosion a gofynnodd i aelodau am unrhyw ystadegau neu hanesion am achosion. Dywedodd Martyn Dew fod hyn wedi cael ei godi gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol ac nad oedd rhai pobl  yn cefnogi defnyddio mesurau arbennig, ond roedd hyn yn gyngor gwael oherwydd y dylent gael eu defnyddio lawer mwy. Gweithred: Aelodau i roi ystadegau i Jon.

29. Dywedodd Jan Pickles fod RELATE am gael ei ail-lansio yng Nghymru ac efallai byddai gan y Grwp ddiddordeb clywed eu cynlluniau. Byddant yn recriwtio gwirfoddolwyr ledled Cymru ac mae Prif Weithredwr newydd gael ei benodi. Dywedodd Peter Jones y byddai'n cysylltu â nhw ac yn eu gwahodd i gyfarfod mis Medi. Gweithredu: Peter Jones i gysylltu â RELATE i'w gwahodd i gyfarfod mis Medi.

30. Dywedodd Jan Pickles ei bod wedi bod yn gweithio gydag ACPO ar offeryn arwain asesu risg effeithiol a fydd yn cynnwys 4 cwestiwn ychwanegol ar droseddau ar sail anrhydedd a phriodasau dan orfod a mwy ar faterion diogelu plant. Bydd hwn yn cael ei dreialu mewn 4 ardal yn y DU ac mae ACPO yn chwilio am Heddluoedd sy'n barod i wirfoddoli. Dywedodd Martyn Dew fod Heddlu Gwent wedi cynnig gwirfoddoli. Eglurodd pa mor bwysig yw cael un offeryn asesu risg ar gyfer pawb. Cytunodd Peter Jones gan ddweud bod angen arferion cyson ledled Cymru.

31. Dywedodd Jan Pickles fod gwerthusiad gan yr adran Iechyd o waith nyrsus yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Prifysgol Cymru wedi cael ei gwblhau. Bydd yn ei roi i Peter ar gyfer ei ddosbarthu i'r Grwp gyda'r cofnodion. Gweithredu: Jan Pickles i anfon gwerthusiad i'w ddosbarthu i'r Grwp gyda'r cofnodion.

32. Cadarnhaodd Martyn Dew bod Caerffili wedi penodi gweinyddwr Cynadleddau Asesu Risg Amlasiantaethol yn ystod yr wythnos honno.

33. Dywedodd Peter Jones wrth y Grwp fod Elen Pierce yn ymddeol yn yr haf a bod Paula Hardy yn cymryd ei lle. Diolchodd i Elen am ei gwaith caled ar ran y Grwp.

Eitem agenda 11 - Dyddiadau'r cyfarfodydd nesaf

34. Gofynnodd Peter Jones i aelodau nodi dyddiadau cyfarfodydd nesaf y Gweithgor ar gyfer 2008

  • Dydd Mercher,  10 Medi  2008 - ystafell gyfarfod Cribyn, Merthyr Tudful 2pm - 4pm
  • Dydd Mercher, 14 Ionawr 2009 - ystafell gyfarfod Cribyn, Merthyr Tudful 2pm - 4pm