Skip to content

Cofnodion cyfarfod y Gweithgor Cam-drin Domestig yng Nghymru a gynhaliwyd ym mis 14 Ionawr 2009

Cofnodion cyfarfod y Gweithgor Cam-drin Domestig yng Nghymru a gynhaliwyd ym mis 14 Ionawr 2009.

Presennol 

Cadeirydd

  • Peter Jones - Yr Isadran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru

Aelodau

  • Jon Trew – Cymorth i Ddioddefwyr
  • Rachel Morgan - CLlLC
  • Mutale Nyoni OBE - Prif Weithredwr, BAWSO
  • Paula Hardy, Prif Weithredwr, Cymorth i Fenywod
  • Immy Lee – Cydlynydd Cam-drin Domestig, Torfaen
  • Dr Aideen Naughton - Paediatregydd, Ysbyty Neville Hall 
  • Libby Jones MBE – Cyfarwyddwr, New Pathways
  • Cathy Davies – Prif Weithredwr, Tai Hafan
  • Carolyn Seymour – Gwasanaeth Prawf 
  • CDI Martyn Dew – Heddlu Gwent 
  • Jan Pickles OBE - Rheolwr, Uned Ddiogelwch Caerdydd
  • Owen Davies – Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Christine Elmitt – Fforwm Cam-drin Domestig Gogledd Cymru  
  • Clara Hunt – Cyfarwyddiaeth Tai, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Paul Parker – Uned Fusnes Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Iechyd, Llywodraeth Cynulliad Cymru   
  • Simon Jones – Cynghorydd Polisi, NSPCC Cymru
  • Steve Bartley – Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed, Cyngor Dinas Caerdydd
  • Phil Guy – Tîm Datblygu Polisi Camddefnyddio Sylweddau, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Deborah Rogers – Gwasanaeth Erlyn y Goron 
  • Lynne Sanders – Cadeirydd Cymorth i Fenywod

Sylwedydd

  • Sarah Mallorie – Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol

Ysgrifenyddiaeth

  • Jane Andrews – Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Nadine Citric-Williams – Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru

Ymddiheuriadau

  • Katie Dalton- UCM, Cymru
  • Tiana Williams – Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Matthew Pinnell - CAFCASS, Cymru
  • Janet Thompson – Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Emma Towers – Uned Busnes Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Iechyd, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Gaynor Thomas – Datblygu Polisi Camddefnyddio Sylweddau, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Mike Goldman – Timau Troseddau Ieuenctid, Castell Nedd Port Talbot
  • Jason Lintern - Tîm Troseddau’r Swyddfa Gartref
  • Polly Ferguson – Swyddfa’r Prif Nyrs, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Suzanne Chisolm – APADGOS

Cyflwynwyr

  • Paula Hardy - Prif Weithredwr, Cymorth i Fenywod
  • Jim A'Herne - NOMS, Cymru

Eitem agenda 1 – Cyflwyniadau ac Ymddiheuriadau

1. Agorodd Peter Jones y cyfarfod a chroesawu’r rhai a oedd yn bresennol. Cyflwynodd yr aelodau newydd, Simon Jones, NSPCC yn cymryd lle Kevin Gibbs tra mae ar secondiad 12 mis, Steve Bartley, Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed oherwydd ei arbenigedd ym maes cam-drin yr henoed, Deborah Rogers, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Sarah Mallorie, Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol  yn ymuno â’r cyfarfod heddiw fel sylwedydd ar ran Tiana Williams. Cyflwynodd Jim A'Herne, Rheolwr Gomisiynydd ar gyfer NOMS Cymru. Yna cyflwynodd yr ymddiheuriadau.

Eitem agenda 2 – Cofnodion y cyfarfod diwethaf a Materion yn Codi

2. Ceisiodd Peter Jones gytundeb yr aelodau ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Medi 2008 a rhoddodd ddiweddariadau ar faterion a oedd yn codi o’r cyfarfod diwethaf fel a ganlyn:

(i) Diweddariad ar brotocol Datgeliad Teulu CAFCASS CYMRU  

 
Roedd Matthew Pinnell wedi cyflwyno ei ymddiheuriadau ond roedd wedi darparu diweddariad ysgrifenedig ac fe’i darllenwyd i’r Gweithgor. Mae’r Protocol Datgeliad rhwng CAFCASS Cymru a’r Heddlu wedi ei arwyddo – mae goblygiadau ymarferol a threfniadau gwaith yn parhau i gael eu datblygu gyda phob un o awdurdodau’r Heddlu. Gweithredwyd y Pecyn Adnoddau Cam-drin Domestig ar 1 Hydref 2008 ac mae’n cyflwyno prosesau asesu risg systematig yn yr holl achosion cyfraith breifat. Mae Rhestr Wirio Asesu Lles Plant a Phobl Ifanc (CC-CAWAC) gan CAFCASS Cymru yng nghamau olaf ei datblygiad. Mae mwyafrif yr ymarferwyr wedi derbyn hyfforddiant achrededig ar sut i’w defnyddio. Bwriad y pecyn cymorth, a luniwyd gan yr Athro Gordon Harold (gynt o Brifysgol Caerdydd) mewn ymgynghoriad â CAFCASS Cymru, yw cynorthwyo ymarferwyr i asesu effaith y gwrthdaro rhwng rhieni, ar blant unigol. Mae angen gwaith pellach er mwyn gweithredu a sefydlu’r pecyn cymorth hwn yn ymarferol.                

(ii) Diweddariad ar Ariannu Posibl gan y Swyddfa Gartref ar gyfer Merched sydd heb atebolrwydd i gronfeydd cyhoeddus

Er ei fod yn parhau i fod o dan drafodaeth, disgwylir i’r taliad fod yn swm a delir unwaith gan Asiantaeth Ffiniau’r DU i’r sefydliad cefnogol. Fodd bynnag, oherwydd y nifer posibl o sefydliadau cefnogol, mae angen i gydweithwyr Asiantaeth Ffiniau’r DU drafod gyda’u cydweithwyr cyllid, beth yw goblygiadau creu sefydliadau newydd ar eu system daliadau. Fel y disgwyliwyd, mae hyn yn mynd i fod yn swm sylweddol o waith a bydd angen amserlen hirach ar ei gyfer.  

Daethpwyd i gytundeb gyda chydweithwyr gwaith achos Cam-drin Domestig yn Asiantaeth Ffiniau’r DU y dylid anelu i wneud penderfyniad ar geisiadau a gyflwynir o dan y cynllun o fewn 20 diwrnod gwaith o’u derbyn, gan gymryd fod yr holl wybodaeth gefnogol angenrheidiol wedi ei chyflwyno gyda’r cais.

Bydd y cynllun hefyd yn gofyn am ddatblygu canllawiau clir ar gyfer yr holl asiantaethau (gan gynnwys awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol, eiriolwyr lleol a Chynghorwyr Trais Domestig). Mae’r canllaw drafft hwn wedi ei anfon at Grŵp Llywio’r Swyddfa Gartref er mwyn derbyn eu sylwadau a chaiff ei gwblhau cyn bo hir.

Bydd y Swyddfa Gartref yn cyfarfod yn fuan gyda chynghorwyr cyfreithiol o Gymdeithas Ymarferwyr Cyfreithiau Mudo er mwyn trafod y posibilrwydd o gael cynghorwyr cyfreithiol i oruchwylio coladu gwybodaeth gefnogol a chymryd cyfrifoldeb dros gwblhau rhestr wirio cyn anfon y cais at Asiantaeth Ffiniau’r DU.

Nid oes gan y Swyddfa Gartref ddyddiad ar gyfer gweithredu’r cynllun hyd yma. Dywedodd Peter Jones y byddai’n rhoi gwybod i’r Gweithgor ynglŷn ag unrhyw ddatblygiadau. Gweithred: Y gweithgor i dderbyn gwybodaeth am ddatblygiadau.

(iii) Delio mewn Merched o Iwerddon      


Cododd Jon Trew fater rhannu data gyda’r Gweithgor fis Mehefin diwethaf. Mae’r mater bellach wedi ei ddatrys oherwydd i Peter Jones gysylltu â chydweithiwr RTS o Ddulyn.        

(iv) Diweddariad ar yr Ymgyrch Gyhoeddusrwydd

Trefnwyd ymgyrch gyhoeddusrwydd dros gyfnod y Nadolig er mwyn codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig ac er mwyn hyrwyddo’r Llinell Gymorth. Lansiodd y Gweinidog yr ymgyrch yn siop un alwad newydd Torfaen, “Chrysalis” ac yna ymwelodd ag Uned Ddiogelwch Caerdydd a Chanolfan Merched y Rhyl. Gyda’r nos ar 19 Rhagfyr, ymwelodd ag uned symudol yng Nghanol Dinas Caerdydd. Gosodwyd hysbysebion yn y wasg hefyd. Rydym yn aros am ystadegau gan y Llinell Gymorth er mwyn gweld a gafodd yr ymgyrch unrhyw effaith ar nifer y galwadau. Gwneir cymariaethau rhwng nifer y galwadau yn ystod mis Rhagfyr 2007 a mis Rhagfyr 2008 a mis Ionawr 2008 a mis Ionawr 2009. Rhoddir gwybod i’r Gweithgor am y canlyniadau. Gweithred: Y Gweithgor i gael gwybod am y canlyniadau.

(v) Diweddariad ar y Cyhoeddusrwydd yn ymwneud â Digwyddiadau Chwaraeon

Eglurodd Peter Jones fod y Gweinidog wedi gofyn am gael cynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd o amgylch digwyddiadau chwaraeon gan fod adroddiadau’n dweud fod cam-drin domestig ar gynnydd ar yr adegau hyn. Gofynnodd Peter i Martyn Dew am ddiweddariad ar ddatblygiadau sydd eisoes mewn lle. Eglurodd Martyn fod 4 o awdurdodau’r Heddlu wedi bod yn gweithio gydag URC a chytunwyd y bydd ymgyrch yn cael ei chynnal yn ystod gemau rygbi’r chwe gwlad. Bydd lansiad i’r wasg yn cael ei gynnal ar 27 Ionawr gyda chyflwyniad i’r cyfryngau. Gofynnir i bob clwb rygbi yng Nghymru enwebu chwaraewr er mwyn cael tynnu llun ohonynt yn gwisgo crys rygbi Cymru gyda rhuban gwyn arnynt a chynhyrchir murlun i’w osod ar wefan. Dangosir y murlun hwn ar y sgrin yn Stadiwm y Mileniwm yn ystod gêm Cymru/Iwerddon ym mis Mawrth. Ar 14 Chwefror yn ystod gêm Cymru/Lloegr gobeithir y bydd yr holl chwaraewyr, y wasg a’r cytundebwyr yn gwisgo’r rhuban gwyn. Awgrymodd Martyn fod Peter yn cysylltu â’r Ditectif Uwch-arolygydd Rhiannon Kirk sy’n delio â materion cyhoeddusrwydd.                                                                                          
                                                     
3. Yna, cytunwyd ar y cofnodion.

Eitem agenda 3 – Diweddariad ar Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant

4 Rhoddodd Peter Jones wybod i’r Gweithgor, fel yr oedd nifer ohonynt yn ymwybodol, fod Adroddiad y Pwyllgor wedi ei lansio ar 4 Rhagfyr. Mae’n adroddiad cynhwysfawr iawn sy’n croestorri nifer o bortffolios Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae ganddo 28 o argymhellion  ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried ei hymateb ac fe’i rhennir gyda’r Gweithgor pan fydd yn eiddo i’r cyhoedd. Bydd y Gweinidog yn ymateb yn ffurfiol i’r Pwyllgor a chaiff ei ymateb ei gyhoeddi. Diolchodd i holl aelodau’r Gweithgor a oedd wedi rhoi tystiolaeth. Gweithred: Ymateb i’r Adroddiad i’w rannu gyda’r Gweithgor pan fydd yn eiddo i’r cyhoedd.

Eitem agenda 4 – Cyflwyniad gan Jim A'Herne, NOMS Cymru ar Brosiect Trobwynt Merched

5. Eglurodd Peter Jones fod Ingrid Zammit wedi rhoi cyflwyniad yn y cyfarfod diwethaf ym mis Medi ar Adroddiad Corston a’i bod wedi awgrymu y dylid gwahodd Jim A’Herne i roi cyflwyniad ar y Prosiect Trobwynt. Gofynodd yntau i Jim siarad.

6. Ymateb aml-asiantaeth yw’r Prosiect i anghenion troseddwyr sy’n ferched a’r rhai hynny sy’n amlwg yn agored i niwed oherwydd troseddu. Cychwynnodd yn 2007 a chyfeirir pobl ato o gyn belled ag Aberystwyth ac mae newydd gael gwybod y bydd arian yn parhau ar gyfer 2009/10 er mwyn cynorthwyo i ehangu i Ogledd Cymru. Ers 2007 mae wedi derbyn 197 o gysylltiadau ac mae llwyth achosion 56 o ferched ar waith ganddo. Caiff cleientiaid eu cyfeirio at New Pathways sy’n darparu gwasanaethau cwnsela i’r prosiect ar hyn o bryd. Cynhyrchwyd gwerthusiad llawn o flwyddyn gyntaf y Prosiect gan Brifysgol Morgannwg a bydd Jim yn danfon hwn yn ei flaen i Peter er mwyn ei ddosbarthu ymysg y Gweithgor. Gweithred: Jim A’Herne i ddanfon yr adroddiad gwerthuso yn ei flaen i Peter er mwyn ei ddosbarthu ymysg y Gweithgor

7. Dywedodd Mutale ei bod yn hoffi’r syniad o wasanaeth cyfannol sy’n seiliedig ar anghenion a heb fod yn fiwrocrataidd nac yn strwythuredig.

8. Gofynnodd Simon Jones faint o gleientiaid sydd â phlant a beth sy’n digwydd iddyn nhw. Dywedodd Jim fod gan y rhan fwyaf blant ac yn gyffredinol eu bod mewn gofal neu eu bod yn byw gyda pherthnasau eraill. Maent yn gobeithio gallu ail uno merched â’u plant o ganlyniad i hyn. Mynegodd Aideen Naughton rybudd yma na ddylid gweld plant fel gwobrau. Mae’r merched hyn yn fregus iawn ac ni ddylid codi eu gobeithion ac yna eu chwalu gan ei bod yn bosibl nad ail uno’r plant gyda’u mamau yw’r peth gorau ar eu cyfer. Dywedodd Jim eu bod yn ymdrin â hyn yn sensitif ac yn ymchwilio i bob mater.  

9. Dywedodd Jim eu bod yn ffodus o gael eu lleoli yn yr un adeilad ag Uned Ddiogelwch Caerdydd a chytunodd Jan Pickles fod sawl achos wedi codi a oedd yn gorgyffwrdd.  

10. Diolchodd Peter i Jim am ei gyflwyniad.

Eitem agenda 5 – Cyflwyniad gan Paula Hardy, Prif Weithredwr Cymorth i Fenywod ar y Rhaglen Rhyddid

11.  Eglurodd Peter Jones fod Joyce Watson AC, yn y Cyfarfod Llawn ym mis Tachwedd 2008, wedi codi mater y Rhaglen Rhyddid yng Nghymru a bod y Gweinidog wedi cytuno y byddai cyflwyniad yn digwydd yn y Gweithgor nesaf. Gofynnodd i Paula siarad ynglŷn â hyn.        

Cynlluniwyd y Rhaglen 10 mlynedd yn ôl ac mae’n berchen i Pat Craven, ymgynghorydd. Mae’n rhaglen sy’n rhedeg dros 12 wythnos yn seiliedig ar fodel Deluth ac mae’n ceisio rhoi’r nerth i ferched drwy eu cynorthwyo i ddeall y credoau sydd gan y rhai sy’n cyflawni troseddau ac er mwyn eu cynorthwyo i adennill eu hunan barch a’u hyder er mwyn gwella ansawdd eu bywydau. Mae Cymorth i Fenywod wrthi’n mapio darpariaeth y Rhaglen ar hyn o bryd.

12. Gofynnodd Martyn Dew pa ddata a gesglir o’r rhaglen hon, er enghraifft, ydym ni’n gwybod a yw’r rhai hynny sydd wedi cwblhau’r rhaglen yn dychwelyd i’r system fel dioddefwyr. Dywedodd Paula nad oes data’n cael ei gadw yn ganolog ar y funud ond y byddai gan bob Grŵp Cymorth i Ferched eu data eu hunain, ond maent yn y broses o gasglu rhagor o ddata. Dywedodd Cathy Davies, er nad oes cyllid wedi bod ar gael er mwyn rhedeg y rhaglen hon, mae’n arf mor bwerus i atal merched rhag cychwyn ar berthynas arall o gamdriniaeth a bod mecanwaith yn cael ei roi mewn lle er mwyn casglu data. Dywedodd Lynne Sanders a Mutale Nyoni fod y rhaglen yn cael ei rhedeg mewn rhai ardaloedd ar gyfer dioddefwyr sy’n ddynion. Dywedodd Jan Pickles ei bod yn rhaglen wych ond bod angen ei hachredu. Roedd ganddi rai pryderon ei bod wedi clywed am rai ardaloedd yn rhedeg y rhaglen ar gyfer dioddefwyr benywaidd ynghyd â throseddwyr gwrywaidd.

13. Gofynnodd Immy Lee a oedd unrhyw un â gwybodaeth am raglen arall o’r enw Newid Patrymau. Roedd Paula yn gwybod amdani a dywedodd fod angen edrych ar bob model o fewn eu gwaith mapio fel y bydd amrediad o becynnau cymorth ar gael i’w defnyddio.      

14. Dywedodd Chris Elmitt fod y Rhaglen Rhyddid wedi bod yn cael ei chynnal ar draws Gogledd Cymru ers 2000 ond nid oes unrhyw adolygiad wedi ei gynnal. Mae deng mlynedd yn amser hir i gynnal rhaglen heb werthusiad. Gofynnodd am gael sefydlu grŵp aml-asiantaeth er mwyn ei gwerthuso. Gofynnodd Peter Jones i Cymorth i Fenywod gwblhau eu gwaith mapio yn gyntaf ac adrodd ar y canlyniadau i’r Gweithgor yn eu cyfarfod nesaf ym mis Mawrth. Diolchodd Peter i Paula am ei chyflwyniad. Gweithred: Cymorth i Fenywod i adrodd am ddarganfyddiadau eu gwaith mapio yn y cyfarfod nesaf.

Eitem agenda 6 - Diweddariad ar Faterion Camddefnyddio Sylweddau gan gynnwys y ddogfen ymgynghorol “Fframwaith Gwasanaeth i ateb anghenion pobl sydd â phroblemau Cam-drin Domestig a Chamddefnyddio Sylweddau”

15. Gofynnodd Peter Jones i Phil Guy siarad ynglŷn â hyn. Dywedodd Phil fod Strategaeth 10 mlynedd Camddefnyddio Sylweddau wedi ei lansio fis Gorffennaf diwethaf a rhoddodd wybod i’r Gweithgor ynglŷn â Chynhadledd a gynhelir ar 19 ac 20 Ionawr yn yr Holiday Inn, Casnewydd er mwyn mynd â’r Strategaeth yn ei blaen. Os oes gan unrhyw un diddordeb mae croeso iddynt e-bostio Janet Angel ar janet.angel@wales'gsi.gov.uk.

16. Ceisiodd Phil gadarnhad fod pob aelod o’r Gweithgor wedi derbyn copi o’r ddogfen ymgynghorol. Eglurodd mai dogfen yn seiliedig ar broses yw hi ynglyn â ffurfioli cysylltiadau cryf rhwng gwasanaethau cam-drin domestig a gwasanaethau cam-drin sylweddau. Cynhaliwyd cyfres o weithdai ymgynghorol ar draws Cymru yn ystod mis Rhagfyr ac mae’r sylwadau ddaeth i law hyd yma wedi bod yn ffafriol iawn. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 27 Chwefror. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn cael eu coladu a’u hanfon i’r Is-grŵp Arbenigol ac yn eu blaenau at y Gweinidog i gael eu cymeradwyo. Dylai’r ddogfen gael ei chyhoeddi ym mis Mawrth a chynhelir 5 gweithdy gweithredu ar draws Cymru yn ystod mis Mai. Y drefn arferol ar gyfer y dogfennau Fframwaith hyn yw i’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol ddilyn ymhen 12 mis o’u cynhyrchu.  

17. Mae dau o’r prif sylwadau a dderbyniwyd yn ymwneud â mynediad i lety lloches ar gyfer cleientiaid ag anghenion cymhleth a mater sefydliadau allweddol yn cael eu cynrychioli mewn MARAC. Daeth yn amlwg fod nifer o wasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru heb wybod am y system MARAC ac y byddent yn falch o’r cyfle o gael mynychu pe bai’n berthnasol. Cytunodd Steve Bartley fod y gwasanaeth hwn yn weithredol wrth geisio mynediad i gartrefi er mwyn gosod larymau mwg ayyb a’i fod yn debygol o gael datgeliadau. Mae’n hanfodol eu bod yn cael mynediad i gyrsiau hyfforddi MARAC.

18. Dywedodd Phil ei bod yn amlwg nad yw gweithwyr achos camddefnyddio sylweddau’n mynychu MARACau mewn sawl ardal chwaith. Mae angen mwy o drafod. Dywedodd Jan Pickles fod angen rhoi caniatâd i’r gweithwyr achos hyn yn aml er mwyn iddynt gael rhannu gwybodaeth. Dywedodd Phil y dylai darparwyr triniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau gyfeirio at Gymru’n Gytûn ar Rannu Gwybodaeth Bersonol (WASPI). Cadarnhawyd wedyn y bydd MARACau yn cael eu hachredu cyn hir ac y bydd safonau’n cael eu pennu.

Eitem agenda 7 – Diweddariad ar Faterion Iechyd

19. Gofynnodd Peter Jones i Paul Parker am ddiweddariad. Dywedodd Paul fod Mrs Hart AC yn arbennig o bryderus y dylai cydweithwyr Iechyd gael eu hatgoffa o’u cyfrifoldeb a’u bod yn ymwneud yn llawn â materion cam-drin domestig. Mae gweithgor traws Adrannol ar gam-drin domestig wedi ei sefydlu er mwyn cyflwyno’r agenda honno ac mae’r cyfarfod nesaf ar 29 Ionawr. Mae swyddogion yn edrych ar ba Ddangosyddion Perfformiad Allweddol y gellir eu sefydlu ar gyfer sefydliadau Iechyd er mwyn datblygu manyleb gwasanaethau Cymru gyfan ar gyfer SARC. Bwriedir cynnal gweithdy (gweithdai) ym mis Chwefror er mwyn i randdeiliaid allweddol drafod y mater hwn.

20 Ychwanegodd Peter Jones fod datblygiad Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol hefyd yn ganolbwynt pwysig i’r gweithgor ac mae’n gadarnhaol nodi fod Swyddogion o Dîm Troseddau’r Swyddfa Gartref yn aelodau.  

21.Gofynnodd Jan Pickles am roi ystyriaeth pe deuai unrhyw arian ar gael a hwnnw wedi ei glustnodi ar gyfer iechyd rhywiol.

Eitem agenda 8 – Diweddariad ar briodas dan orfod

22. Gofynnodd Peter Jones i Owen Davies roi diweddariad. Dywedodd Owen fod Is Grŵp Priodasau Dan Orfod wedi ei sefydlu a’i fod wedi cyfarfod er mwyn trafod y Cylch Gorchwyl. Mae’r cyfarfod nesaf ar 22 Ionawr. Amcanion allweddol y Cynllun Gweithredu yn y tymor byr ac yn y tymor hir yw hyfforddi, Cynadleddau a Chanllawiau. Mae Uned Priodas Dan Orfod y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad wedi dechrau llunio dogfen arweiniol gynhwysfawr ar gyfer ymarferwyr ond cytunwyd y bydd swyddogion y Cynulliad a sefydliadau allanol yn ystyried y drafft nesaf ac yn cysylltu gyda’r Uned Priodas Dan Orfod er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r gwahanol drefniadau yn ardaloedd datganoledig Cymru a’i fod yn cynnwys cyfeiriadau priodol at ddogfennau a sefydliadau Cymreig.                        

23. Ychwanegodd Peter Jones fod y syniad gwreiddiol o gael canllawiau ar wahân ar gyfer Iechyd, yr Heddlu a’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi mynd heibio yng nghanol digwyddiadau eraill a chadarnhaodd mai un canllaw fydd yna ar gyfer yr holl ddisgyblaethau. Mae trafodaethau wedi digwydd gyda’r Heddlu ynglyn â materion data gwybodaeth a bellach mae angen cynnal trafodaethau gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Eitem agenda 9 – Diweddariad ar faterion y Swyddfa Gartref

24. Gan fod Tîm Troseddau’r Swyddfa Gartref wedi anfon ymddiheuriadau, darllenodd Jane Andrews ddiweddariad. Nid oes cadarnhad byth ar Gyllideb Trais Man Preifat ar gyfer 2009/10. Bydd Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig sydd ar eu trydedd flwyddyn o ariannu yn 2008/09 ar eu blwyddyn olaf o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ystyrir Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig eraill i’w hariannu yn 2009/10 yn ôl gwybodaeth a dderbynnir gan wasanaeth y Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig fel ag yr oedd yn ofynnol ar gyfer 2008/09 yn ogystal â chadarnhad o ddyraniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Cynhelir cyfarfod agoriadol o Fforwm y Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig ar ddydd Gwener, 13 Chwefror 2009 yn Llandrindod.  

25. Yn ystod hanner cyntaf 2009, bydd gweithredu cydlynol yn erbyn cam-drin domestig (CAADA) yn cychwyn ar y broses sicrhau ansawdd ar gyfer MARACau. Bydd y 30 MARAC cyntaf (dim un o Gymru) yn cael eu cwblhau yn ystod y cyfnod hwn a byddant yn defnyddio’r cyfle hwn i fireinio’r broses. Bydd 11 o safonau’n ymdrin â phob cam o’r broses MARACau. Bydd y gwaith sicrhau ansawdd yn amlygu’r gweithredoedd allweddol mewn MARAC y mae angen iddynt fod mewn lle er mwyn gwneud y broses yn gynaliadwy. Pedair prif amcan y broses sicrhau ansawdd yw:

a. Sicrhau fod MARACau yn cael eu gweithredu mewn modd mor gyson â phosibl ar draws Cymru a Lloegr.  
b. Sicrhau fod effaith y MARACau yn canolbwyntio ar ddiogelwch.
c. Dod â rhagor o eglurder i’r broses MARAC drwy nodi ei chydrannau ac egluro sut mae’r rhain yn gweithio’n ymarferol.      
d. Arddangos yr angen i wneud y MARACau’n system ddibynadwy, sy’n gweithio dro ar ôl tro er mwyn lleihau’r pwysau ar gyfranogwyr presennol i arddangos hyn.

Mae copi o safonau’r MARAC wedi eu hatodi i’r cofnodion hyn.

26. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am achrediad fel Llys Arbennig Trais Domestig yw hanner dydd ar ddydd Gwener, 16 Ionawr 2009. Dylid anfon yr holl geisiadau at Brett Gable brett.gable@justice.gsi.gov.uk.

Eitem agenda 10 – Diweddariad ar ariannu

27. Mae’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi ei chymeradwyo ac nid oes newid o 2008/09. Anfonwyd llythyr at y rhanddeiliaid i gyd yn rhoi gwybod iddynt ynglyn â hyn. Mae £700,000 o arian cyfalaf heb ei ddyrannu ar gael ar gyfer 2009/10 a rhoddir ystyriaeth ar y ffordd orau o’i ddefnyddio. Edrychir ar argymhellion Adroddiad y Pwyllgor ac mae’n bosibl y caiff ei ddefnyddio er mwyn llenwi bylchau yn y ddarpariaeth. Roedd Cathy Davies yn dymuno diolch i’r Is-adran Strategaeth Plant am roi gwybod yn fuan am ariannu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Eitem agenda 11 – Cynhadledd Codi Safonau          

28. Cynhelir y Gynhadledd RTS yn Jersey ar 11 a 12 Mai 2009. Danfonwyd hysbyseb at gynrychiolwyr posibl. Nid oes prif siaradwr o Gymru ar yr achlysur hwn ond bydd tri gweithdy â blas Cymreig iddynt. Bydd un yn canolbwyntio ar blant a phecyn cymorth CAFCASS, un arall ar lwybr gofal ar ôl geni a’r trydydd ar Brosiect DYN. Mae’r Gynhadledd am ddim ac, yn unol â’n hawdurdodaethau eraill, mae Llywodraeth y Cynulliad yn gobeithio ariannu’r costau teithio a chynhaliaeth er mwyn i nifer cyfyngedig o sefydliadau’r sector gwirfoddol fynychu. Bydd Peter Jones yn rhoi gwybod i’r bobl berthnasol cyn gynted a bo modd. Gweithred: Peter Jones i roi gwybod i sefydliadau ynglyn ag arian posibl ar gyfer teithio a chynhaliaeth i deithio i Jersey.

Eitem agenda 12 – Digwyddiad Partneriaeth Diogelwch Cymunedol ar 11 Chwefror 2009

29. Mae digwyddiad blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn cael ei gynnal yn yr Holiday Inn yng Nghasnewydd ar 11 Chwefror. Gan y bydd yr agenda yn cynnwys trafodaethau ar ddrafft cynnar y cynllun gweithredu strategol, byddai o gymorth pe bai unrhyw aelodau o’r Gweithgor nad ydynt wedi derbyn gwahoddiad gan eu Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn ceisio mynychu. Danfonir e-bost at aelodau gyda’r agenda cyn gynted â bo modd. Gweithred: E-bost i’w danfon at y Gweithgor gydag agenda ar gyfer digwyddiad y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

Eitem agenda 13 – Secondiad Cam-drin Domestig ar gyfer datblygu’r  Cynllun Gweithredu Strategol        

30. Gyrrwyd hysbysebion ynglyn â’r swydd hon a fydd yn cynnwys rhoi’r cynllun gweithredu strategol ar waith. Cyfnod y secondiad yw 2 flynedd a’r dyddiad cau yw 14 Ionawr.

Eitem agenda 14 - UFA

31. Gofynnwyd i’r aelodau a oedd ganddynt unrhyw faterion eraill yr oeddent am eu codi. Dywedodd Jon Trew ei fod wedi derbyn e-bost yn cynnwys cyngor drafft ar amddiffyn plant “Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan: Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc gaiff eu heffeithio gan Gam-drin Domestig” ac roedd yn bryderus a oedd unrhyw sefydliadau gwirfoddol wedi eu cynrychioli ar y grŵp a’i datblygodd. Dywedodd Aideen Naughton ei fod wedi ei ddatblygu gan Fwrdd Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru a dywedodd Simon Jones fod yr NSPCC wedi ei gynrychioli ar y grwp ond nid oedd yn gwybod a oeddent wedi bwydo’r broses hon. Cytunodd Peter Jones y byddai’n gwirio hyn gydag Adran Plant a Theuluoedd y Cynulliad ac yn adrodd yn ôl. Gweithred: Peter Jones i gysylltu â’r Adran Plant a Theuluoedd i ddarganfod a oedd y Sector Gwirfoddol wedi eu cynnwys wrth ddrafftio’r ddogfen hon.

32. Rhoddodd Paula Hardy wybod i’r grŵp fod Cymorth i Fenywod yn cynnal lansiad ail frandio yn y Senedd ar 28 Ionawr am 6yh.

33. Ar ran y Gweithgor, llongyfarchodd Peter Jones Libby Jones ar dderbyn anrhydedd yr MBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.

Eitem agenda 15 – Dyddiadau pwyllgorau’r dyfodol

35. Gofynnodd Peter Jones i’r aelodau nodi dyddiad cyfarfod nesaf y Gweithgor yn 2009 ac i nodi’r newid yn y dyddiad o 16 Medi i 7 Hydref.

  • Dydd Mercher, 18 Mawrth 2009 – Ystafell Gyfarfod Cribyn, Merthyr Tudful 2pm - 4pm
  • Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2009 – Ystafell gyfarfod Cribyn, Merthyr Tudful 2pm - 4pm
  • Dydd Mercher, 7 Hydref 2009 – Ystafell gyfarfod Cribyn, Merthyr Tudful 2pm - 4pm