Skip to content

2009




Gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub.

.

W-FRSC(09)25 Cynlluniau Pensiwn Diffoddwyr Tân – Ffactorau Actiwaraidd ar gyfer Cyfnewid

21/10/09
Yn y cylchlythyr hwn, mae canllawiau ynghylch rhoi’r ffactorau actiwaraidd newydd ar waith er mwyn cyfnewid pensiynau am gyfandaliad o dan Gynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân 1992.
 

W-FRSC(09)24 Adeiladau Ffram Bren

27/07/09
Mae'r Cylchlythyr Tân ac Achub hwn yn tynnu sylw’r Gwasanaethau Tân ac Achub at beryglon a risgiau sy'n gysylltiedig â thannau mewn adeiladau ffrâm bren.
 

W-FRSC(09)23 Creu'r Cysylltiadau – Enillion Effeithlonrwydd 2008-09

29/06/09
Mae'r cylchlythyr hwn yn ymwneud â thargedau Creu'r Cysylltiadau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer enillion effeithlonrywdd o ran Gwasanaethau Tân ac Achub ar gyfer 2008-09 ymlaen.
 

W-FRSC(09)22 Trosglwyddo’r cyfrifoldeb o gyhoeddi Rhestri Codau Gweithredu Mewn Argyfwng ar gyfer Nwyddau Peryglus

26/06/09
Hysbysu’r Awdurdodau Tân ac Achub mai Canolfan Genedlaethol Argyfyngau Cemegol (Harwell) fydd yn cyhoeddi Rhestri Codau Gweithredu Mewn Argyfwng ar gyfer Nwyddau Peryglus (Hazchem) o 2009 ymlaen ac nid yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.
 

W-FRSC(09)21 Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA)

26/06/09
Mae’r cylchlythyr hwn yn tynnu sylw’r Awdurdodau Tân ac Achub at ymgynghoriad diweddar y Swyddfa Gartref ar Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000.
 

W-FRSC(09)20 Fframwaith Gwella Cydraddoldeb

26/06/09
Mae’r cylchlythyr hwn yn hysbysu Awdurdodau Tân ac Achub ynghylch mabwysiadu Fframwaith Gwella Cydraddoldeb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru.
 

W-FRSC (09) 19 Y Trefniadau Sicrwydd Gweithredol 2009-2010

02/06/09
Mae'r cylchlythyr hwn yn pennu'r trefniadau ar gyfer proses asesu "Sicrwydd Gweithredol y Gwasanaethau a Gyflenwir" 2009-2010.
 

W-FRSC (09) 18 Trefniadau ariannol ar gyfer pensiynau diffoddwyr tân – ffurflen grant atodol

30/04/09
Mae'r cylchlythyr hwn yn gofyn i bob Awdurdod Tân ac Achub gwblhau'r ffurflenni pensiynau amgaeëdig (FPF2 a FPF3) erbyn 4 Mehefin 2009.
 

W-FRSC (09) 17 Ffurflen y Gronfa Ddata Ddigwyddiadau ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2007 a 31 Mawrth 2008

30/04/09
Mae'r cylchlythyr hwn yn gofyn am ddata ar ddigwyddiadau ar gyfer y cyfnod pymtheg mis rhwng 1 Ionawr 2007 a 31 Mawrth 2008 gan y Gwasanaethau Tân ac Achub.
 

W-FRSC (09) 16 Newidiadau yn y trefniadau cymorth ar gyfer y System Datblygu Personol Integredig (IPDS)

30/04/09
Ar 1 Ebrill 2009, ymunodd Gwasanaeth Tân ac Achub y DU â'r Cyngor Sgiliau Sector Sgiliau er Cyfiawnder.
 

W-FRSC (09) 15 Diogelwch Diffoddwyr Tân mewn Achosion Gweithredol

30/04/09
Mae'r cylchlythyr yn esbonio sefyllfa cyngor a chanllawiau cyfredol ynghylch hyfforddiant, goruchwylio a gwisgo cyfarpar anadlu a'r peryglon posibl sydd ynghlwm â phanelau haenog mewn adeiladau mewn achos o dân.
 

W-FRSC (09) 14 Cyhoeddi adroddiadau ymchwil – Modelu cyfrifiadurol ar gyfer tanau islawr

30/04/09
Mae'r cylchlythyr hwn yn cyhoeddi dau adroddiad ymchwil sy'n ymchwilio i effaith gwneud twll awyr i dân ar islawr fel drwy dorri golau palmant.
 

W-FRSC (09) 13 Trefnu Timau Chwilio ac Achub Trefol â Chŵn

30/04/09
Mae'r cylchlythyr yn disgrifio sut gall y Gwasanaethau Tân ac Achub drefnu timau chwilio ac achub trefol â chŵn drwy Ganolfan Gydgysylltu Genedlaethol y Gwasanaeth Tân ac Achub.
 

W-FRSC (09) 11 Datganiadau Ystadegol Gweithredol y Gwasanaethau Tân ac Achub 2008-09

10/04/09
Ceir yn y cylchlythyr hwn fanylion am y broses o gasglu Data Ystadegol Gweithredol y Gwasanaethau Tân ac Achub am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2008 - 31 Mawrth 2009.
 

W-FRSC (09) 10 Tai - Canllawiau Diogelwch Tân ar ddarpariaethau diogelwch tân ar gyfer mathau penodol o dai sydd eisoes yn bod

09/04/09
Ceir yn y cylchlythyr fanylion am ddogfen gyfarwyddyd genedlaethol newydd ynghylch llety preswyl ac fe'i bwriedir ar gyfer landlordiaid, asiantau rheoli, tenantiaid a gweithredwyr.
 

W-FRSC (09) 09 Cyswllt â'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch mewn Safleoedd Peryglus

08/04/09
Ceir yn y canllawiau fanylion am yr egwyddorion a disgrifir y trefniadau cydweithio a chysylltu rhwng y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a'r Gwasanaethau Tân ac Achub.
 

W-FRSC (09) 08 Diogelwch Tân mewn Tai neu Fflatiau sy'n cael eu defnyddio i Warchod Plant

07/04/09
Lluniwyd y llyfryn gwybodaeth hwn gan Gymdeithas y Prif Swyddogion Tân gyda'r bwriad o helpu gwarchodwyr plant i sicrhau bod eu tai a'u fflatiau yn ddiogel rhag tân a'u bod yn cydymffurfio â'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.
 

W-FRSC (09) 07 Llyfryn ar gydymffurfio â'r gyfraith ar ddiogelwch tân - Do you have paying guests?

06/04/09
Mae'r Cylchlythyr hwn yn cyflwyno llyfryn ar ddefnyddio'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005 i safleoedd bychan sy'n darparu llety (e.e. sefydliadau gwely a brecwast, tai llety a llety gwyliau hunanddarpar.
 

W-FRSC (09) 06 Cynllun Pensiwn y Difforddwyr Tân: Darpariaethau newydd ar gyfer Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod - Canllawiau Terfynol

05/04/09
Ceir yn y cylchlythyr hwn ganllawiau ynghyd â'r ffactorau actiwaraidd i gyfrifo Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod ar gyfer Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 1992 a Chynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân 2007 o 1 Hydref 2008 ymlaen.
 

W-FRSC (09) 05 Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2009; a Gorchymyn Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2009

04/03/09
Mae'r cylchlythyr hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 1992 a Chynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân 2007 er mwyn caniatáu i ymdrin â phroblemau â phensiynau, sy'n deillio o ddirwyn y cynyddran Gwasanaeth Hir i ben a chyflwyno taliadau Datblygiad Proffesiynol Parhaus, drwy gyfl ...
 

W-FRSC (09) 04 Systemau Adfer Balistig mewn Awyrennau

19/02/09
Mae'r cylchlythyr hwn yn cynnwys gwybodaeth y gall y Gwasanaethau Tân ac Achub ei defndyddio i gynorthwyo personél y Gwasanaethau Tân ac Achub i adnabod awyrennau sy'n cynnwys Systemau Adfer Balistig.
 

W-FRSC (09) 03 Sylwadau ar Ymddeoliadau oherwydd Salwch

23/01/09
Yn y cylchlythyr hwn mae canllawiau newydd, anffurfiol ar y rheoliadau sy’n caniatáu dyfarnu pensiynau ymddeol oherwydd salwch yng nghynlluniau Pensiynau Dynion Tân a Phensiynau Dynion Tân Newydd Cymru.
 

W-FRSC (09) 02 Canllawiau ar Recriwtio a Chyflogi Diffoddwyr Tân a Staff Ystafell Reoli sydd â Diabetes

23/01/09
Mae Diabetes UK, mewn cydweithrediad â Chymunedau a Llywodraeth Leol a phartneriaid eraill sy’n randdeiliaid wedi datblygu canllawiau manwl i’r Gwasanaeth Tân ac Achub ar recriwtio a chadw diffoddwyr tân a staff ystafell reoli sydd â diabetes.
 

W-FRSC (09) 01 Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân: Penderfyniad ynghylch Anghydfod Mewnol (IDRP)

23/01/09
Mae'r cylchlythyr hwn yn hysbysu’r Awdurdod Tân ac Achub bod y trefniadau ynghylch Anghydfod Mewnol wedi cael eu diwygio a bod newidiadau wedi cael eu gwneud gyda chytundeb Pwyllgor Pensiynau Dynion Tân er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â Deddf Pensiynau 1995, fel y'i diwygiwy ...