Skip to content

2011




Gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub.

W-FRSC(11)24 - Trefniadau Ariannol

05/12/11
Mae’r cylchlythyr hwn yn gofyn i bob Awdurdod Tân ac Achub gwblhau’r adrannau ariannol a’r rhai nad ydynt yn ariannol o’r ffurflen bensiynau amgaeedig erbyn 20 Ionawr 2012.
 

W-FRSC(11)23 - Canllawiau i Ddiogelwch Tân mewn Fflatiau a Adeiladwyd i’r Pwrpas

05/12/11
Mae’r cylchlythyr canllawiau hwn yn anstatudol ac yn ategu’r canllawiau cyfredol ar ddiogelwch tân.
 

W-FRSC(11)22 - Adran 13/16 o’r Cytundeb Cydgymorth Enghreifftiol – Cywiriad

28/11/11
Mae’r cylchlythyr hwn yn cyfeirio’r Awdurdodau Tân ac Achub at gywiriad o ran Cymalau 6 a 9 o’r cytundeb enghreifftiol.
 

W-FRSC(11)21 - Apeliadau i'r Bwrdd Canolwyr Meddygol: Ail-leoli Rheoli Iechyd Dinas Cyf

26/09/11
Mae'r cylchlythyr hysbysu Gwasanaeth Tân ac Achub 'o ail-leoli Rheoli Iechyd Dinas Ltd.
 

W-FRSC(11)20 - Proses Asesu Sicrwydd Gweithredol ar gyfer Darparu Gwasanaethau 2011-12

02/08/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn amlinellu'r trefniadau ar gyfer proses asesu "Sicrwydd Gweithredol ar gyfer Darparu Gwasanaethau" 2011-12.
 

W-FRSC(11)19 - Dangosyddion Perfformiad Awdurdodau Tân ac Achub 2010-11 – gwybodaeth ychwanegol

01/08/11
Roedd Cylchlythyr W-FRSC (2010)10, a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2010, yn pennu'r dangosyddion perfformiad ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub a oedd yn berthnasol i 2010-11.
 

W-FRSC(11)18 - Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân: ffactorau Addasu Debydau Pensiwn a ffactorau Ymddeoliad Cynnar

01/08/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn cynghori Awdurdodau Tân ac Achub ynghylch ffactorau yn ymwneud ag ymddeoliad cynnar ar gyfer Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân a'r ffactorau addasu debydau pensiwn diweddaraf ar gyfer Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân a Chynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân.
 

W-FRSC(11)17 - Y diweddaraf ynghylch Cau Firebuy

20/07/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn cynnwys manylion y trefniadau ar gyfer cynnal contractau prynu Firebuy.
 

W-FRSC(11)16 - Y Bil Lleoliaeth

23/06/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y Bil Lleoliaeth.
 

W-FRSC(11)15 - Y diweddaraf am Sigaréts nad ydynt yn Berygl Tân

17/06/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt gwaith yr Undeb Ewropeaidd o lunio safonau sy'n ymwneud â sigaréts a sicrhau bod sigaréts yn cydymffurfio â'r safonau hynny.
 

W-FRSC(11)14 Trefniadau ariannol ar gyfer pensiynau diffoddwyr tân – ffurflenni grantiau atodol 2011-12

26/05/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Tân ac Achub lenwi'r ffurflenni pensiwn atodedig (ffurflenni FPF2 ac FPF3) erbyn 24 Mehefin 2011.
 

W-FRSC(11)13 Cynlluniau Pensiwn Diffoddwyr Tân – Ffactorau Actiwaraidd: Effaith gostyngiad y Cyfraniadau Pensiwn a Addesir i ystyried Profiad

17/05/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn rhoi gwybod i Awdurdodau Tân ac Achub am effaith gostyngiad y Cyfraniadau Pensiwn ar ffactorau actiwaraidd y cynllun.
 

W-FRSC(11)12 Trefniadau Ystadegau Gweithredol Tân ac Achub 2010-2011

14/04/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn nodi'r trefniadau ar gyfer casglu Ystadegau Gweithredol ar gyfer 1 Ebrill 2010 tan 31 Mawrth 2011, ac mae hefyd yn dangos y setiau data y bydd eu hangen ar gyfer 2011-12.
 

W-FRSC(11)11 Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 1992 – Ffactorau Cyfnewid Diwygiedig

13/04/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn cynghori'r Awdurdodau Tân ac Achub ar y ffactorau cyfnewid diwygiedig a baratowyd gan Actiwari'r Llywodraeth at ddibenion cyfrifo'r cyfandaliadau sy'n daladwy o dan Reol B7 o Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 1992.
 

W-FRSC(11)10 Cynhyrchion a hen asedau o brosiect FiReControl

12/04/11
Mae'r ymgynghoriad presennol – The future of fire and rescue control services in England - yn amlygu nifer o hen asedau o brosiect FiReControl, a fydd o werth sylweddol i'r Gwasanaethau Tân ac Achub yn y dyfodol.
 

W-FRSC(11)09 Yr wybodaeth ddiweddaraf am gau cwmni Firebuy

11/04/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gau cwmni Firebuy.
 

W-FRSC(11)08 Methiant gosodiadau cebl mewn tanau

10/04/11
Diben y cylchlythyr hwn yw rhoi gwybod i Brif Swyddogion Tân am berygl methiant gosodiadau cebl mewn tân, a allai roi diffoddwyr tân mewn perygl mawr yn ystod ymdrechion i ddiffodd tân.
 

W-FRSC(11)07 Canllawiau Diogelwch Tân ar gyfer Fflatiau sydd wedi'u Hadeiladu'n Bwrpasol

09/04/11
Diben y cylchlythyr hwn yw rhoi gwybod bod gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu canllawiau diogelwch tân ar gyfer fflatiau sydd wedi'u hadeiladu'n bwrpasol, gan gynnwys rhai uchel.
 

W-FRSC(11)06 Asesiad Risg Generig

08/04/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn ceisio helpu'r Gwasanaeth Tân ac Achub i lunio eu hasesiadau risg eu hunain ac annog gwasanaethau tân ac achub y DU i gydweithio.
 

W-FRSC(11)05 Manyleb am Gyfarpar Diogelu Personol Chwilio ac Achub ar gyfer amgylcheddau llychlyd ac amgylcheddau cemegol, biolegol a radiolegol

08/04/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn rhoi gwybod bod dau adroddiad ymchwil wedi'u cyhoeddi ar fanyleb am Gyfarpar Diogelu Personol Chwilio ac Achub ar gyfer amgylcheddau llychlyd ac amgylcheddau cemegol, bioldegol a radiolegol.
 

W-FRSC(11)04 Dangosyddion Perfformiad Awdurdodau Tân ac Achub o 2011-12 ymlaen

31/03/11
Mae’r cylchlythyr hwn yn amlinellu’r Fframwaith Dangosyddion Perfformiad a’r dangosyddion perfformiad ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub o 2011-12 ymlaen.
 

W-FRSC(11)03 Cynlluniau Pensiynau Diffoddwyr Tân – y cynnydd mewn pensiynau 2011

04/03/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn hysbysu'r Awdurdodau Tân ac Achub ynghylch y cynnydd mewn pensiynau o fis Ebrill 2011 ymlaen.
 

W-FRSC(11)02 Apelau i'r Bwrdd Canolwyr Meddygol: Prosesu Apelau Meddygol

23/02/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn pennu'r newidiadau y bydd angen eu gwneud o ran delio ag apelau meddygol.
 

W-FRSC(11)01 Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân a Chynllun Iawndal y Diffoddwyr Tân 2006 - Canllawiau ar gyfer Ymarferwyr Meddygol Cymwysedig Annibynnol

08/02/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn amlinellu diwygiadau i'r canllawiau ar gyfer Ymarferwyr Meddygol Cymwysedig Annibynnol i adlewyrchu'r gyfraith ar roi iawndal am anafiadau yn fwy cywir.