Skip to content

Y Dimensiwn Newydd

Dechreuodd Rhaglen y Dimensiwn Newydd yn 2003 yn sgil yr ymosodiadau gan derfysgwyr yn yr Unol Daleithiau ym mis Medi 2001.

Ar y pryd, roedd Gwasanaethau Tân ac Achub y DU o dan Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog. Ym mis Tachwedd 2004, cafodd y cyfrifoldeb dros y Gwasanaethau hyn ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, sydd wedi rhoi ei chefnogaeth lwyr i’r gwaith o weithredu Rhaglen y Dimensiwn Newydd.

Mae’r Rhaglen yn darparu cyfarpar, gweithdrefnau a hyfforddiant ar gyfer y Gwasanaethau Tân ac Achub i’w helpu i ymateb i amrywiaeth o fygythiadau, gan gynnwys:

  • Bygythiadau oddi wrth derfysgwyr
  • Damweiniau diwydiannol a domestig
  • Cemegau yn gollwng ac adeiladau yn dymchwel
  • Trychinebau naturiol
  • Llifogydd a daeargrynfeydd, a hefyd ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â chemegau, ynni niwclear a  ffrwydradau.

Elfennau pellach Rhaglen y Dimensiwn Newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw:

  • Chwilio ac Achub Trefol
  • Rheoli Galluogrwydd Hirdymor a Rheolwyr Contractau
  • Tîm Cymru Gydnerth
  • Tîm Sicrhau Cydnerthedd Cenedlaethol

Mae Tîm Cymru Gydnerth yn gweithio’n agos â’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ac yn cysylltu â’r holl wasanaethau brys i sicrhau y byddai dull gweithredu cydgysylltiedig ar waith pe bai argyfwng. Mae cyfarpar Dimensiwn Newydd wedi cael ei ddefnyddio yn y blynyddoedd diwethaf i ymateb i nifer o ddigwyddiadau uchel eu proffil, gan gynnwys y tân yn depo Olew Buncefield ym mis Rhagfyr 2005, y llifogydd yng Nghaerloyw yn haf 2007, ac yn ddiweddarach y tân yn y ffatri teiars yn Fforestfach Abertawe ym mis Mehefin 2011.