Skip to content

Y gyfraith diogelwch rhag tân




Newidiodd y gyfraith diogelwch tân yn Hydref 2006 yn sgil cyflwyno Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.  Diddymwyd y gofyniad i fusnesau feddu ar dystysgrifau tân ac nid yw’r tystysgrifau a oedd ganddynt gynt yn ddilys erbyn hyn.

O dan y Gorchymyn, rhaid i’r person cyfrifol gynnal asesiad risgiau tân a gweithredu a chynnal cynllun rheoli tân. Mae mwy o wybodaeth am yr hyn y mae angen i chi ei wneud wrth gynnal asesiad risgiau tân ar gael yn y rhestr gyfeirio 5 cam ar gyfer asesu’r risg o dân isod.

Cewch ragor o wybodaeth am yr hyn sydd angen i chi ei wneud wrth gwblhau asesiad risg yn y rhestr wirio 5 cam ar wefan Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Yn ogystal, mae cyngor a chanllawiau manylach ar weithredu cynllun rheoli risgiau tân ar gael yn y gyfres o ddogfennau cyfarwyddyd sydd ar gael isod. Paratowyd y dogfennau cyfarwyddyd mwy technegol gyda mathau penodol o safleoedd busnes mewn golwg. Ar ôl i chi gyflawni asesiad risgiau tân, os oes arnoch angen rhagor o gyngor neu wybodaeth fanylach, efallai y bydd eich Awdurdod Tân ac Achub lleol yn gallu helpu.

Nodyn Cyfarwyddyd ar Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 : Proses penderfynu ar gais o dan erthygl 36 i awdurdodau gorfodi a phersonau cyfrifol

18/09/12
Mae hwn yn darparu cyfarwyddyd ar gyfer Cymru ar y broses penderfynu ar gais sydd ar gael i awdurdodau gorfodi a phersonau cyfrifol o dan erthygl 36 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.
 

A oes gennych westeion sy’n talu?

04/05/12
Gwybodaeth am gydymffurfio â’r gyfraith diogelwch tân i bobl sy’n darparu llety dros nos.
 

Cwestiynau cyffredin

24/09/10
Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i atebion i rai cwestiynau cyffredin ynghylch diogelwch tân.
 
Canllaw 13 - Asesiad Risgiau Diogelwch Tân Dulliau Dianc i Bobl Anabl (Canllaw Atodol)

Canllaw 13 - Asesiad Risgiau Diogelwch Tân Dulliau Dianc i Bobl Anabl (Canllaw Atodol)

19/09/08
Canllaw atodol yw hwn i'w ddarllen law yn llaw â chanllawiau eraill yn y gyfres hon.
 
Canllaw 12 - Asesiad Risgiau Diogelwch Tân - Safleoedd Anifeiliaid a Stablau

Canllaw 12 - Asesiad Risgiau Diogelwch Tân - Safleoedd Anifeiliaid a Stablau

20/06/08
Canllaw i gyflogwyr, rheolwyr, meddianwyr a pherchnogion safleoedd anifeiliaid a stablau.
 
Canllaw 11 - Asesiad Risgiau Diogelwch Tân Safleoedd a Chyfleusterau Trafnidiaeth

Canllaw 11 - Asesiad Risgiau Diogelwch Tân Safleoedd a Chyfleusterau Trafnidiaeth

19/06/08
Canllaw i gyflogwyr, rheolwyr, meddianwyr a pherchnogion safleoedd a chyfleusterau trafnidiaeth.
 
Canllaw 10 Safleoedd Gofal lechyd

Canllaw 10 - Asesiad Risgiau Diogelwch Tân - Safleoedd Gofal Iechyd

18/06/08
Mae’r canllaw hwn ar gyfer pob cyflogwr, rheolwr a pherchennog safleoedd sy’n darparu gofal iechyd (gan gynnwys safleoedd gofal iechyd preifat).
 
Canllaw 9 Asesiad Risg Diogelwch Tân - Digwyddiadau a Lleoliadau Awyr Agored

Canllaw 9 Asesiad Risg Diogelwch Tân - Digwyddiadau a Lleoliadau Awyr Agored

17/06/08
Mae'r canllaw hwn ar gyfer cyflogwyr, rheolwyr a phobl sy'n gyfrifol am ddigwyddiadau a lleoliadau awyr agored.
 
Canllaw 8 Asesiad Risg Diogelwch Tân - Theatrau, Sinemâu a safleoedd tebyg

Canllaw 8 Asesiad Risg Diogelwch Tân - Theatrau, Sinemâu a safleoedd tebyg

16/06/08
Canllaw i gyflogwyr, rheolwyr, meddianwyr a pherchnogion proffesiynol ac amaturaidd safleoedd lle caiff yr adeilad neu ran ohono ei ddefnyddio'n bennaf fel theatr, sinema neu sinema aml-sgrin neu gyfuniad o'r rhain.
 
Mannau Ymgynnull Mawr.

Canllaw 7 - Asesiad Risq Diogelwch Rhag Tân Mannau Ymgynnull Mawr

15/06/08
Canllawiau ar gyfer cyflogwyr, rheolwyr, meddianwyr a pherchenogion mannau ymgynnull mawr, hynny yw mannau lle gallai dros 300 o bobl ymgynnull.
 
Safleoedd addysgol

Canllaw 6 Asesiad Risg Diogelwch Tân - Mannau ymgynnull bach a chanolig

14/06/08
Mae'r canllaw hwn ar gyfer cyflogwyr, rheolwyr, meddianwyr a pherchnogion mannau ymgynnull bach a chanolig.
 
Safleoedd addysgol

Canllaw 5 Asesiad Risg Diogelwch Tân - Safleoedd Addysgol

13/06/08
Mae'r canllaw hwn ar gyfer pob cyflogwr, pennaeth ysgol, llywodraethwr, isganghellor, meddiannydd a pherchennog safle addysgol.
 
Canllaw 4 - Asesiad Risgiau Diogelwch Tân - Safleoedd Gofal Preswyl

Canllaw 4 - Asesiad Risgiau Diogelwch Tân - Safleoedd Gofal Preswyl

12/06/08
Canllaw yw hwn ar gyfer holl gyflogwyr, rheolwyr, personau cyfrifol, meddianwyr, cyflogeion a pherchnogion safleoedd sy'n cael eu defnyddio'n bennaf neu'n rhannol i ddarparu gofal preswyl.
 
Mannau Cysgu.

Canllaw 3 Asesiad Risq Diogelwch Rhag Tân - Mannau Cysgu

11/06/08
Mae'r canllaw hwn yn ymwneud â lle i staff gysgu, mannau cyffredin ar gyfer trigolion a lle cysgu, bwyta neu lety o fath arall ar gyfer gwesteion/preswylwyr.
 
Canllaw 2 - Asesiad Risgiau Diogelwch Tân - Ffatrïoedd a Warysau

Canllaw 2 - Asesiad Risgiau Diogelwch Tân - Ffatrïoedd a Warysau

10/06/08
Canllaw yw hwn ar gyfer holl gyflogwyr, rheolwyr, meddianwyr a pherchnogion safleoedd sy'n cael eu defnyddio'n bennaf neu'n rhannol fel ffatri neu warws.
 
Swyddfeydd a Siopau.

Canllaw 1 - Asesiad Risq Diogelwch Rhag Tân Swyddfeydd a Siopau

09/06/08
Canllawiau i gyflogwyr, rheolwyr, meddianwyr a pherchenogion eiddo lle caiff yr adeilad neu ran ohono ei ddefnyddio'n bennaf fel swyddfa neu siop.