Skip to content

Datblygu'r gweithlu

Dolenni perthnasol

Mae'r cylchlythyr hwn yn cynnig Fframwaith Rhinweddau a Phriodoleddau Personol ar gyfer staff gweithredol ar y tair lefel reoli yn y System Datblygiad Personol Integredig.
Ceir yn y cylchlythyr hwn yr wybodaeth ddiweddaraf am y System Datblygu Personol Integredig yng Nghymru. Bydd hefyd yn cynnwys yr hyn a wnaed hyd yma a’r camau nesaf yn y gwaith o roi’r system ar waith.

Mae'n rhaid i staff y gwasanaeth tân ac achub gael y sgiliau priodol i sicrhau diogelwch a bod yn effeithiol.

Mae'r newidiadau a'r gwelliannau a wnaed i rôl aelodau staff y gwasanaeth tân ac achub yn rhoi bri ar hyblygrwydd a sgiliau personol a chymwyseddau.  Mae hyn yn wir am holl aelodau staff y gwasanaeth tân ac achub ym mha faes bynnag o'r gwasanaeth y maent yn gweithio a ph'un ai a ydynt yn gwisgo iwnifform ai peidio.

System Datblygu Personol Integredig 

Logo System Datblygu Personol Integredig.Y System Datblygu Personol Integredig yw'r cyfrwng sy'n cael ei ddefnyddio gan y Gwasanaeth Tân ac Achub i ddatblygu'r gweithlu. Mae wedi'i seilio ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a chymwyseddau i hybu datblygiad personol.

Gwefan y System Datblygu Personol Integredig yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth am system datblygu gweithlu'r Gwasanaeth Tân ac Achub. Ceir ynddi wybodaeth am wahanol elfennau o'r system gan gynnwys Nodweddion a Rhinweddau Personol a Chanolfannau Datblygu Asesu.

Ewch i: Gwefan Fire Service College (gwefan allanol)