Skip to content

Swyddogion Cymorth Cymunedol Llywodraeth Cymru

Dolenni perthnasol

Bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ariannu rhagor o Swyddogion Cymorth Cymunedol gam yn nes at gael ei wireddu wrth i’r Heddlu fynd ati i recriwtio yn y flwyddyn newydd.
Mae’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol (CSOs) a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei thraed o dani, meddai’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant.
Cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant fod y gwaith o hyfforddi’r garfan gyntaf o Swyddogion Cymorth Cymunedol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi dechrau.
Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant wedi pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud cymunedau’n ddiogelach, a rôl hanfodol yr heddlu i atal troseddu.
Swyddog Cymorth Cymunedol

Un o bum blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol atodol ar draws Cymru.

Cymunedau Diogelach i bawb

Ein nod yw gwneud cymunedau’n fwy diogel drwy leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu (gan gynnwys ofn troseddu), camddefnyddio sylweddau a nifer y tanau a’u heffaith, yn ogystal â chydgysylltu argyfyngau yn effeithiol.

Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol i'w gweld yn amlwg yn eu cymunedau, gan ymgysylltu â phobl, cynnig sicrwydd ac ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Maen nhw'n chware rhan hanfodol nid yn unig o ran gwneud ein cymunedau'n fwy diogel, ond hefyd o ran gwneud iddynt deimlo'n fwy diogel.

Mae'r 500 o swyddogion hyn yn ychwanegol at swyddogion yr heddlu â gwarant, nid yn eu disodli. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio'n agos â Chymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru ar wireddu'r ymrwymiad hwn.

Dechreuodd y broses o hyfforddi a rhoi'r swyddogion ar waith ym mis Tachwedd 2011. Rhagwelir y bydd holl Swyddogion Cymorth Cymunedol Llywodraeth Cymru yn eu swyddi cyn diwedd 2013/14. 

Er mwyn darganfod beth sy’n digwydd ym mhedair ardal Heddluoedd Cymru a'r Heddlu Trafnidiaeth Prydain, ewch i’w gwefannau: