Skip to content

Camddefnyddio sylweddau

Dolenni perthnasol

Mae’r strategaeth yn ymdrin â’r defnydd o alcohol, cyffuriau anghyfreithlon a chyfreithlon o fewn ei chylch gwaith.
Amlinellu agenda genedlaethol glir ar gyfer mynd i'r afael a lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru.
Adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wnaed i roi ar waith strategaeth camddefnyddio sylweddau.
Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Amrywiaeth o gyffuriau.
'Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed' yw cynllun deng mlynedd Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r problemau sy’n cael eu hachosi gan gyffuriau ac alcohol yng Nghymru.

Haf 2013 – cynnwys a strwythur newydd ar gyfer y we


Drwy gydol yr haf, byddwn yn graddol olygu ac ailstrwythuro ein cynnwys am Gamddefnyddio Sylweddau. Bydd hyn yn sicrhau bod:

  • ein blaenoriaethau,
  • cynnydd ym mhob maes polisi, a
  • dogfennau pwysig

yn hawdd mynd atynt.

Mae’n bosib eich bod wedi sylwi nad yw rhai o’r ffefrynnau sydd wedi’u storio neu rai o’r hen ddolenni bellach yn gweithio. Byddwn ni’n rheoli’r broses er mwyn osgoi hyn.

Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi wrth chwilio am wybodaeth, cysylltwch â’r blwch neges euon e-bost ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau: substance.misuse@wales.gsi.gov.uk.

Strategaeth camddefnyddio sylweddau

Mae’r Strategaeth yn rhoi amlinelliad o’n dull o fynd i’r afael â’r ystod lawn o sylweddau sy’n cael eu camddefnyddio yng Nghymru, ac mae’n cynnwys:

  • alcohol
  • cyffuriau anghyfreithlon megis heroin, cocên, ecstasi, amffetaminau, LSD a chanabis
  • meddyginiaethau ar bresgripsiwn yn unig megis steroidau anabolig a bensodiasepinau
  • meddyginiaethau dros y cownter megis paratoadau sy’n cynnwys codin
  • sylweddau anweddol megis chwistrellau aerosol, bwten, toddyddion a glud.

Mae gan y Strategaeth bedwar maes gweithredu:

  • Atal niwed – helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i wrthsefyll neu leihau camddefnyddio sylweddau, trwy ddarparu gwybodaeth am y niwed y gall camddefnyddio sylweddau ei wneud i’w hiechyd, eu teuluoedd a’r gymuned yn ehangach.
  • Cynorthwyo camddefnyddwyr sylweddau – i wella’u hiechyd a rhoi cymorth iddynt ymadfer a dal ati a lleihau’r niwed y maent yn ei achosi iddynt eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau.
  • Cynorthwyo teuluoedd – lleihau’r risg o niwed i blant ac oedolion yn sgil camddefnyddio sylweddau gan un o’r teulu.
  • Mynd i’r afael â’r ddarpariaeth ac amddiffyn unigolion a chymunedau – lleihau’r niwed a achosir gan droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn sgîl camddefnyddio sylweddau, trwy fynd i’r afael â’r ddarpariaeth gyffuriau anghyfreithlon ac â darparu alcohol a sylweddau eraill mewn modd amhriodol.