Skip to content

Camddefnyddio sylweddau

Dolenni perthnasol

Adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wnaed i roi ar waith strategaeth camddefnyddio sylweddau.
Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
13 Rhagfyr yn ddiwrnod i gydnabod colled unigol a chodi ymwybyddiaeth o atal gorddos.
Wnaeth y Prosiect yma ymglymu darpariaeth hyfforddiant i ddefnyddwyr cyffuriau a'i teuluoedd, a'r mater o gitiau Cymryd Adref Naloxone i ddefnyddwyr opioid sydd yn cyflawni'r hyfforddiant.
Amlinellu agenda genedlaethol glir ar gyfer mynd i'r afael a lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru.
Canllawiau ar gyfer clinigwyr, yn enwedig y rheini sy'n darparu ymyriadau fferyllol i gamddefnyddwyr cyffuriau fel rhan o'r driniaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau.
Roedd yr ymchwil yn gwerthuso pum prosiect peilot a oedd yn cynnig ymyriadau gyda rhieni sy'n gamddefnyddwyr sylweddau.
Amrywiaeth o gyffuriau.
'Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed' yw cynllun deng mlynedd Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r problemau sy’n cael eu hachosi gan gyffuriau ac alcohol yng Nghymru.

Mae’r Strategaeth yn rhoi amlinelliad o’n dull o fynd i’r afael â’r ystod lawn o sylweddau sy’n cael eu camddefnyddio yng Nghymru, ac mae’n cynnwys:

  • alcohol
  • cyffuriau anghyfreithlon megis heroin, cocên, ecstasi, amffetaminau, LSD a chanabis
  • meddyginiaethau ar bresgripsiwn yn unig megis steroidau anabolig a bensodiasepinau
  • meddyginiaethau dros y cownter megis paratoadau sy’n cynnwys codin
  • sylweddau anweddol megis chwistrellau aerosol, bwten, toddyddion a glud.

Mae gan y Strategaeth bedwar maes gweithredu:

  • Atal niwed – helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i wrthsefyll neu leihau camddefnyddio sylweddau, trwy ddarparu gwybodaeth am y niwed y gall camddefnyddio sylweddau ei wneud i’w hiechyd, eu teuluoedd a’r gymuned yn ehangach.
  • Cynorthwyo camddefnyddwyr sylweddau – i wella’u hiechyd a rhoi cymorth iddynt ymadfer a dal ati a lleihau’r niwed y maent yn ei achosi iddynt eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau.
  • Cynorthwyo teuluoedd – lleihau’r risg o niwed i blant ac oedolion yn sgil camddefnyddio sylweddau gan un o’r teulu.
  • Mynd i’r afael â’r ddarpariaeth ac amddiffyn unigolion a chymunedau – lleihau’r niwed a achosir gan droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn sgîl camddefnyddio sylweddau, trwy fynd i’r afael â’r ddarpariaeth gyffuriau anghyfreithlon ac â darparu alcohol a sylweddau eraill mewn modd amhriodol.