Skip to content

Llinell gymorth cyffuriau ac alcohol

DAN 24/7 Llinell Cymorth Cymru ar Gyffuriau ac Alcohol 0808 808 2234.

Llinell gymorth cyffuriau ac alcohol Cymru gyfan yw DAN 24/7. Mae hefyd yn bwynt cyswllt ar gyfer cleientiaid y Rhaglen Ymyriadau Cyffuriau.

Mae'r llinell gymorth ddwyieithog ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ac mae galwadau o linellau tir y DU am ddim (efallai y bydd rhai rhwydweithiau ffonau symudol yn codi tâl).

 

Mae'r llinell gymorth yn cynnig cymorth a chyngor i:

  • bobl sy'n camddefnyddio cyffuriau ar hyn o bryd, a'r rheini y mae perygl iddynt wneud hynny
  • teuluoedd, rhieni a gofalwyr
  • cleientiaid y Rhaglen Ymyriadau Cyffuriau
  • gweithwyr proffesiynol ym maes camddefnyddio cyffuriau o Gymru a thu hwnt.

Mae wedi'i hintegreiddio â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau lleol a rhanbarthol ledled Cymru. Mae cynnig un rhif ffôn yn eu gwneud yn haws i gamddefnyddwyr sylweddau gael gafael ar wasanaethau, ac felly'n ei gwneud yn fwy tebygol y byddant yn dechrau cael triniaeth ac yn ei chwblhau.

Mae gan y llinell gymorth y potensial i gael effaith sylweddol ar y ffordd y mae unigolion yn cael gafael ar driniaeth, a bydd hyn o fantais i deuluoedd a gofalwyr.

Gwefan: Dan247