Skip to content

Y Cynllun Mentora Cymheiriaid

Logo Cronfa Gymdeithasol Ewrop
Nod y cynllun mentora cymheiriaid, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yw helpu pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau i feithrin sgiliau a magu hyder iddynt fod yn economaidd annibynnol.

Beth yw Cynllun Mentora Cymheiriaid Cronfa Gymdeithasol Ewrop?

Mae hwn yn gynllun newydd ar gyfer Cymru gyfan i ddarparu cymorth cofleidiol ychwanegol ar gyfer pobl sy'n defnyddio gwasanaeth camddefnyddio sylweddau i oedolion sydd eisoes wedi cwblhau eu triniaeth neu wrthi'n mynd drwy driniaeth. Cynigir Mentoriaid Cymheiriaid yn rhan o'r cynllun.

Bydd y Mentoriaid Cymheiriaid yn helpu'r bobl hynny sy'n cymryd rhan yn y cynllun drwy:

  • Lenwi bwlch amlwg yn y gwasanaeth a ddarperir drwy roi cymorth parhaus i ddefnyddwyr y gwasanaeth sy'n dod i ben â'u triniaeth
  • Rhoi cyngor a chymorth i bobl sy'n rhan o'r cynllun i fanteisio ar gyfleoedd dysgu, hyfforddi ac addysg
  • Rhoi cymorth parhaus i alluogi pobl sy'n rhan o'r cynllun i fod yn annibynnol yn economaidd drwy gael swydd gyflogedig a'i chadw
  • Helpu i atal unigolion rhag llithro'n ôl
  • Cynnig ffocws i rieni, y teulu ehangach a rhwydweithiau cymorth yn dilyn y driniaeth
  • Rhoi cyfle posib i gyn-ddefnyddwyr y gwasanaeth ddatblygu eu gyrfa drwy fod yn fentoriaid cymheiriaid.