Skip to content

Fframwaith Triniaethau Camddefnyddio Sylweddau

Dolenni perthnasol

Mae WIISMAT yn gyson â'r Broses Asesu Deg ac Unedig a dyma felly gam cyntaf dull systemataidd arbenigwyr o ddarparu gofal.
Canllaw i helpu Partneriaethau Diogelwch Cymunedol i gynllunio sut i gomisiynu gwasanaethau sy'n mynd i'r afael yn effeithiol â phroblemau sy'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau.
Mae cyflenwi triniaethau priodol i’r rheini sydd ag anhwylderau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau o bwys cynyddol i'r cyhoedd, i glinigwyr ac i lunwyr polisi.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r fframwaith hwn yn rhoi arweiniad o ran darparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar angen o safon uchel ar gyfer pobl sy'n camddefnyddio sylweddau. Y mae wedi'i anelu at awdurdodau cyfrifol a'u partneriaid mewn Partneriaethau Diogelwch Cymunedol.

Mae'r canllawiau hyn yn seiliedig ar y farn broffesiynol mewn perthynas â'r hyn sy'n gweithio orau ar gyfer y bobl hynny sy'n camddefnyddio sylweddau. Cafodd y gwaith o ddatblygu'r canllawiau ei reoli gan fwrdd prosiect sy'n cynnwys swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru, aelodau o'r Panel Cynghori ar Gamddenfyddio Sylweddau a chynrychiolydd o Dîm Oedolion sy'n Agored i Niwed Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru.

Mae elfennau unigol y Fframwaith yn cael eu datblygu gan is-grwpiau arbenigol sydd ag aelodau o Gymru gyfan ac sy'n adlewyrchu'r holl broffesiynau a sefydliadau amrywiol ym maes triniaethau ar gyfer camddefnyddio sylweddau.

I gael rhagor o wybodaeth am y Fframwaith Triniaethau Camddefnyddio Sylweddau, neu i gael copïau electronig o ddogfennau ymgynghori blaenorol, cysylltwch â  substance.misuse@wales.gsi.gov.uk.

Lawrlwytho Dogfen