Skip to content

Gwirfoddoli ymysg gweithwyr

Dolenni perthnasol

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn cefnogi ac yn hyrwyddo grwpiau gwirfoddol a chymunedol a gwirfoddolwyr.
Pobl.
Mae nifer fawr o wirfoddolwyr yn cael cefnogaeth gan eu cyflogwyr, naill ai yn ystod oriau gwaith neu y tu allan i oriau gwaith. Gelwir hyn yn wirfoddoli ymysg gweithwyr.

Mae gwirfoddoli ymysg gweithwyr yn brofiad all roi llawer o foddhad, ac mae’n fuddiol i’r gweithiwr a’r sefydliad y mae’n gwirfoddoli iddynt fel ei gilydd. Gall gweithwyr wneud gwahaniaeth mewn maes sydd o ddiddordeb mawr iddynt, a chyfrannu at adfywio eu hardal leol a/neu wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun.

Yn dibynnu ar y gweithgaredd a ddewisir, gall y gweithwyr ddefnyddio’r sgiliau sydd ganddynt eisoes neu ddysgu rhai newydd trwy ymgymryd â swyddogaethau, tasgau a chyfrifoldebau nad ydynt yn rhan o'u gwaith arferol. Bydd hyn yn cyfrannu hefyd at ddatblygiad personol y gweithiwr y tu allan i’r gweithle.

Fel rhan o dîm gwirfoddoli, gall gweithwyr ddod i adnabod eu cydweithwyr yn well trwy gymryd rhan mewn sialensiau tîm yn y gymuned mewn amgylchedd newydd ac ysgogol.