Skip to content

Gwell gwerth am arian

Dolenni perthnasol

Nod y Gronfa yw helpu prosiectau gwella sector cyhoeddus.
Llun yn dangos Logo Gwerth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau’r gwerth gorau am arian yn ein holl wasanaethau cyhoeddus. Mae Is-adran Gwerth Cymru o Lywodraeth Cymru yn gallu helpu sefydliadau yn y sector cyhoeddus i gael mwy am y bunt Gymreig.

Mae Gwerth Cymru yn gweithio fel catalydd ar gyfer newid, trwy roi arweiniad, cyfeiriad strategol, hyfforddiant mewn caffael a chanllawiau ar gyfer yr arferion gorau i helpu sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau gwelliannau real a chynaliadwy.

Caffael callach

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sector cyhoeddus Cymru i hyrwyddo proffesiynoldeb ac i wella gwerth am arian wrth ddilyn prosesau caffael. Mae hynny’n hwyluso’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus ac yn dod â budd i dirlun economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol Cymru.

Rydym yn helpu swyddogion Llywodraeth Cymru, ei phartneriaid a rhanddeiliaid i gyflawni eu hamcanion busnes, gan sicrhau bod yr arferion gorau ar waith a hefyd sicrhau gwerth am arian wrth weithio ar gynlluniau, trefniadau a pholisïau er lles pobl Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am y canllawiau ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i Lywodraeth Cymru ar gael o dan Gafael ar Gaffael Llywodraeth Cymru.

Amcangyfrifir bod cyrff gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gwario tua £4 biliwn bob blwyddyn ar brynu nwyddau a gwasanaethau oddi wrth gyflenwyr. Mae’n bwysig bod pob punt sy’n cael ei gwario yn cael ei gwario’n ddoeth, gan sicrhau’r gwerth gorau i bobl Cymru. Dyna pam rydym wedi cyflwyno mentrau fel Cerdyn Pryniant Cymreig ar gyfer lleihau biwrocratiaeth ac arbed arian.

Mae’r cerdyn ar gael am ddim i’r sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae’n helpu staff i brynu nwyddau yn gyflym ac yn ddiffwdan. Mae hefyd yn gwella’r llif arian ar gyfer y cyflenwr trwy warantu y bydd yn cael ei dalu o fewn 3-4 diwrnod gwaith.

Mae Cerdyn Pryniant  Cymru yn un ymhlith nifer o fentrau caffael sydd â’r nod o wneud y broses yn fwy effeithlon gan arbed arian ar draws y sector cyhoeddus, Mae rhaglen cyfnewidcymru yn cynnig systemau cyrchu, archebu a thalu electronig a all sicrhau arbedion a chreu manteision o fwy na £70m dros gyfnod o 5 mlynedd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan cyfnewidcymru.