Skip to content

Gwella sgiliau a gallu caffael

Mae Gwerth Cymru, cangen gaffael Llywodraeth Cymru, wedi sicrhau cyllid gwerth £5.7m o Raglen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer prosiect 4-5 mlynedd i wella dulliau caffael ledled gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd y prosiect Trawsnewid Caffael drwy Dalent Cynhenid yn gwella sgiliau a gallu caffael ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Wrth wraidd y prosiect fydd creu cnewyllyn o swyddogion hyfforddedig a phrofiadol - yn raddedigion ac yn staff presennol - a fydd yn datblygu i fod yn arweinwyr ym maes caffael yn y dyfodol.

Mae pum maes i'r prosiect.

1. Codi ymwybyddiaeth ymysg arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus 

Helpu arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys uwch-reolwyr, i ddeall sut all gweithwyr proffesiynol sicrhau'r buddion mwyaf o safbwynt cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o'r £4.3 biliwn a fuddsoddir bob blwyddyn mewn nwyddau a gwasanaethau allanol. Caiff hyn ei gyflawni trwy gyfres o gyrsiau a digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth a rhannu arferion gorau.

2. Datblygu sgiliau a galluoedd staff presennol gwasanaethau cyhoeddus

Teilwra sgiliau a gwybodaeth i gyd-fynd ag anghenion unigolion a/neu fudiadau a'u lefelau cymhwysedd. Caiff hyn ei gyflawni drwy adeiladu ar y rhaglen hyfforddiant presennol a gynigir trwy Gwerth Cymru.

3. Cyflwyno Rhaglen Weithredol Caffael i Hyfforddeion (TPEP)

Dod o hyd i bobl ddawnus newydd ar gyfer y proffesiwn caffael yng Nghymru, a darparu rhaglen hyfforddiant a mentora caffael sy'n cynnig cyfres o leoliadau i hyfforddeion ledled y gwasanaeth cyhoeddus wrth ddarparu prosiectau. 

Roedd dau gohort - cafodd 12 o raddedigion newydd eu recriwtio yn 2010, a chafodd 12 o secondeion o'r sector cyhoeddus eu recriwtio yn ystod yr haf (2011). Bydd yr hyfforddeion yn gweithio tuag at gael eu hachredu'n Aelodau o'r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (MCIPS), a hynny wrth weithio ar brosiectau caffael cydweithredol ar draws nifer o sefydliadau. Byddant hefyd yn cael eu hyfforddi i reoli prosiectau a rhaglenni.  Disgwylir i'r unigolion hyn ddatblygu'n arweinwyr ym maes caffael gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

4. Cyflymu ac ehangu e-gaffael 

Defnyddio arbenigedd rheoli newid a rheoli prosiectau i helpu sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus i sefydlu a chynnal systemau e-gaffael. Bydd hyn yn eu cefnogi i gyflawni buddion amgylcheddol ac economaidd. Caiff hyn ei gyflawni trwy ddefnyddio timau gweithredu aml-sgiliau i gyflwyno e-gaffael ledled sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru trwy'r rhaglen cyfnewidcymru.

5. Dod o hyd i ddulliau arloesol o wella caffael 

Treialu dulliau newydd o wella caffael, e.e. prosiectau cydweithredol, prosiectau gyda'r trydydd sector, a datblygu cronfeydd sgiliau fesul categori. Sylwer mai'r bwriad erbyn hyn yw rhoi'r maes hwn ar waith o flwyddyn 4 y prosiect ymlaen, h.y. o fis Gorffennaf 2013.