Skip to content

Sail gydweithredol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Adroddiad yn rhoi eglurhad ar y ffyrdd y dylai gwasanaethau cyhoeddus gydweithredu yng Nghymru.
Cytundeb sy'n arwydd o'u hymrwymiad ar y cyd i ddiwygio, er mwyn darparu gwasanaethau gwell a mwy cost-effeithiol i gymunedau ledled Cymru.
Ym mis Mawrth 2011, cyhoeddwyd adroddiad ar pa wasanaethau yw'r rhai gorau i'w darparu ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Map
Cytunodd y Cabinet ar y Sail Gydweithredol ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2011, ac fe’i cyflwynwyd i Gyngor Partneriaeth Cymru y mis hwnnw.
Mae’r sail hon, sy’n seiliedig ar ardaloedd y Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau’r Heddlu, yn cynnig:
  • fframwaith y gall gwasanaethau cyhoeddus weithio oddi fewn iddo wrth ddatblygu dulliau cyson o lunio trefniadau cydweithredu newydd;
  • eglurder ynghylch sut y dylai gwasanaethau cyhoeddus gydweithio;
  • mwy o sefydlogrwydd a llai o gymhlethdod.

Roedd y sail gydweithredol yn pennu chwe ardal:

Gogledd Cymru

  • Cyngor Sir Ynys Môn
  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Gwent

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Cyngor Sir Fynwy
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen 
  • Cyngor Dinas Casnewydd

Cwm Taf

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Bae Abertawe

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
  • Cyngor Dinas a Sir Abertawe

Y Canolbarth a’r Gorllewin

  • Cyngor Sir Powys
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyngor Sir Caerfyrddin 
  • Cyngor Sir Penfro

Caerdydd a’r Fro

  • Cyngor Caerdydd 
  • Cyngor Bro Morgannwg

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r angen am arweiniad ar yr agwedd hon ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yw’r Sail Gydweithredol ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus; nid yw’n batrwm ar gyfer ad-drefnu. Mae hefyd yn adlewyrchu'r egwyddorion a'r ethos a ysgogwyd gan Gynllun Gofodol Cymru sy'n canolbwyntio ar bobl, llefydd a'r dyfodol.

Mewn trafodaethau blaenorol gyda’n partneriaid darparu ar draws Sectorau yng Nghymru, tynnwyd sylw at y ffaith bod darparu gwasanaethau yn mynd yn gymhleth pan fo yna wahanol ‘seiliau’ ar gyfer gwahanol feysydd polisi a sefydliadau, a’r pryder oedd y byddai hyn yn dod yn fwy cymhleth fyth yn sgil gweithredu’r newidiadau sy’n deillio o Gompact Simpson ac Adolygiad Vivian Thomas ‘Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru’ a’r datganiad polisi Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru, Fframwaith Gweithredu.  

Nid yw’r sail gydweithredol yn golygu bod yn rhaid dod â’r trefniadau cydweithredu cyfredol, sy’n profi’n effeithiol, i ben. Mae yna ddisgwyliad ar bob ochr y bydd y cydweithio yn y dyfodol yn cydweddu â’r sail gydweithredol, gan gynnwys cyfuno’r ardaloedd hyn pan fo hi’n ofynnol neu’n briodol darparu gwasanaethau rhanbarthol ar raddfa ehangach.

Mae gan bob un o’r 6 ardal arweinydd rhanbarthol ar lefel Prif Weithredwr, sy’n eistedd ar Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus.