Skip to content

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)

Dolenni perthnasol

Mae’r Datganiad yn amlinellu sut y bydd arolygu, archwilio a rheoleiddio gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gallu cyfrannu tuag at ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i ddinasyddion.
Logo Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)

Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn annog gwelliannau ym meysydd gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Mae AGGCC yn cyflawni ei swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, ac er ein bod yn rhan o Adran o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru mae nifer o fesurau diogelu ar waith i sicrhau ein hannibyniaeth.
Rydym yn annog gwelliannau: 

  • Trwy reoleiddio, arolygu ac adolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol
  • Trwy ddarparu cyngor proffesiynol.

Rydym yn gwneud hyn drwy ein tri rhanbarth (Gogledd Cymru; De-ddwyrain Cymru a De-orllewin Cymru) sy’n ganolbwynt i gynnal asesiadau a gwneud dyfarniadau proffesiynol ynghylch gwasanaethau a sefydliadau. Maent yn arolygu ac adolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, ac yn rheoleiddio ar arolygu lleoliadau ac asiantaethau gofal.

Mae ein timau cenedlaethol yn arwain ym maes rheoli a dadansoddi gwybodaeth i gyflawni adolygiadau Cymru gyfan ac yn ddarparu cyngor proffesiynol er mwyn gwella gwasanaethau.

Yn Ebrill 2009 cyflwynwyd fframwaith cyffredinol newydd ar gyfer arolygu, adolygu a gwerthuso gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Mae hwn yn ddull cymesur ac integredig, wedi’i gynllunio i ganolbwyntio ar y dinesydd gan annog gwelliant, arloesedd a pherchnogaeth dros newid gan lywodraeth leol.

Rydym yn rheoleiddio:

  • Cartrefi gofal i oedolion – gan gynnwys cartrefi gofal sy’n darparu gofal nyrsio 
  • Asiantaethau gofal cartref 
  • Cynlluniau lleoli oedolion 
  • Asiantaethau nyrsys 
  • Cartrefi plant 
  • Gwasanaethau gofal dydd plant – gwarchodwyr plant, gofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol, gofal y tu allan i’r ysgol, darpariaeth crèche a chwarae mynediad agored 
  • Asiantaethau maethu sector cyhoeddus ac annibynnol 
  • Asiantaethau mabwysiadu sector cyhoeddus a gwirfoddol
  • Ysgolion preswyl, ysgolion arbennig preswyl a cholegau addysg bellach sy’n lletya myfyrwyr o dan 18 oed 
  • Canolfannau preswyl i deuluoedd

Rydym yn cyhoeddi adroddiadau ar ganfyddiadau ein hasesiadau.

Cliciwch ar y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am AGGCC: 

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (Dolen allanol)