Skip to content

18. Bwrdd Gwasanaethau Lleol Rhondda Cynon Taf

O'r dudalen hon, gallwch gael gafael ar wybodaeth benodol am Fwrdd Gwasanaethau Lleol Rhondda Cynon Taf.

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol (BGLl) yn ymdrechu i:

  • Weithio’n gydweithredol ar draws ffiniau sefydliadol er mwyn ychwanegu gwerth a hwyluso modelau cyflenwi newydd i fynd i’r afael â sialensiau ‘sylfaenol ac sydd heb eu bodloni’ o safbwynt y dinasyddion a sicrhau ymateb system gyfan, effeithiol i anghenion dinasyddion.
  • Cryfhau arweinyddiaeth y sector cyhoeddus lleol er mwyn mynd i’r afael â’r sialensiau cyflenwi gwasanaethau o safbwynt cwsmeriaid/ defnyddwyr, sialensiau na ellir ond rhoi sylw iddynt drwy weithio mewn partneriaeth.

Gan gydnabod y sialensiau cyffredin y mae Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, fel ei gilydd, yn eu hwynebu, cynhelir hefyd gyd-gyfarfodydd o’r ddau BGLl; ac ystyried cyd-ffiniau’r Heddlu a’r Gwasanaethau Iechyd, mae’n ddatblygiad naturiol i ni, gan greu cyfrwng pwerus ar gyfer datblygu gwasanaethau.

Am wybodaeth yn ymwneud â’u partneriaeth leol/strategaeth gymunedol, cliciwch ar y ddolen hon:

Swyddog Llywodraeth Cymru yn yr ardal hon yw: Karin Phillips, Pennaeth Diogelu’r Gymuned.