Skip to content

Dysgu gyda'n Gilydd

Creëwyd nifer o rwydweithiau er mwyn helpu i gysylltu polisi cenedlaethol a chyflenwi gydag arloesi lleol.

Mae'r rhwydweithiau arloesi hyn yn tynnu ynghyd y Byrddau Gwasanaethau Lleol sy'n gweithio ar faterion tebyg gyda'r rhai sy'n arwain y gwaith ar bolisi cenedlaethol o fewn Llywodraeth Cymru a sefydliadau allweddol eraill megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Y nod yw rhannu'r dysgu ar draws y Byrddau Gwasanaethau Lleol a rhyngddynt, pennu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu a darparu gwybodaeth er mwyn datblygu polisi cenedlaethol.  

Mae rhwydweithiau wedi’u sefydlu yn y meysydd canlynol:

  • Integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol
  • Dadansoddi a rhannu gwybodaeth
  • Ymgysylltu â’r dinesydd
  • Y newid yn yr hinsawdd a datblygu cynaliadwy
  • Craffu ar wasanaethau cyhoeddus