Skip to content

Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus

Dolenni perthnasol

Cytundeb sy'n arwydd o'u hymrwymiad ar y cyd i ddiwygio, er mwyn darparu gwasanaethau gwell a mwy cost-effeithiol i gymunedau ledled Cymru.
Diben Cyngor Partneriaeth Cymru yw hyrwyddo cydweithio a chydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.

Mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus yn rhoi arweiniad cenedlaethol ar gyfer cydweithio, ac yn ysgogi’r gwaith o wella gwasanaethau i bobl Cymru.

Mae’r gwaith a wneir ar y cyd â phartneriaid o bob rhan o wasanaeth cyhoeddus Cymru yn cael ei adlewyrchu’n genedlaethol yng ngweithgarwch Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae’r Grŵp hwn, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths AC, yn cynnwys arweinwyr uwch sy’n cynrychioli gwasanaethau cyhoeddus ac ardaloedd daearyddol ledled Cymru.

Er mwyn sicrhau arweiniad ac atebolrwydd gwleidyddol, mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus yn gweithio gyda’r Cyngor statudol diwygiedig, sef Cyngor Partneriaeth Cymru.