Skip to content

Cylch Gorchwyl

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sefydlwyd Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus i roi arweiniad cenedlaethol ar ddiwygio’r gwasanaethau cyhoeddus a chydweithredu, ac i gyflymu’r gwaith o wella gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Caiff y Grŵp ei gadeirio gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, a’r prif gyfrifoldebau yw:

  1. sicrhau cydlyniaeth wrth weithredu’r agenda gyffredinol ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan oruchwylio’r gwaith o weithredu’r Compact a chryfhau cydlyniaeth â’r diwygiadau mewn addysg, gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a meysydd eraill;
  2. cefnogi ac awdurdodi camau gweithredu cenedlaethol i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau cyhoeddus; a
  3. datblygu arweinyddiaeth ranbarthol effeithiol ar gyfer cydweithredu, gan adeiladu ar y strwythurau arwain rhanbarthol presennol, ac ôl troed daearyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer cydweithredu rhanbarthol.