Skip to content

Y Rhaglen Rhannu Gwybodaeth Bersonol

Dolenni perthnasol

Diben Byrddau Gwasanaethau Lleol (BGLlau) yw sicrhau budd i ddinasyddion, drwy annog mwy o gydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Pobl fusnes yn sefyll ac yn dal byrddau sy'n dangos marciau cwestiwn
Nod y Rhaglen Rhannu Gwybodaeth Bersonol yw sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â darparwyr priodol yn y trydydd sector a’r sector preifat, yn hyderus wrth rannu gwybodaeth bersonol ynghylch unigolion gan sicrhau bod y dull y maent yn ei ddefnyddio’n gyfreithiol ac yn ddiogel.

Mae'r rhaglen Rhannu Gwybodaeth Bersonol yn hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cynnal ac yn gwella safonau ac effeithlonrwydd, yn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn gydlynol ac yn gydweithredol ac wedi’u seilio ar angen a’u bod yn diogelu unigolion pan fo angen. Mae'n rhaid i bobl fod yn hyderus ynghylch y gwasanaethau a ddarperir iddynt ac mae'n rhaid iddynt fod yn fodlon â'r gwasanaethau hyn hefyd.

Nod y rhaglen yw:

  • mabwysiadu Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) fel yr unig "Safon Aur" a'r sail bendant ar gyfer Rhannu Gwybodaeth Bersonol yn genedlaethol
  • sicrhau bod sefydliadau'n cydweithio'n lleol i ddarparu'r cymorth, y cyngor a'r hyfforddiant y mae eu hangen ar ymarferwyr a'u rheolwyr er mwyn iddynt allu rhannu gwybodaeth bersonol yn briodol
  • sicrhau bod cymorth ar gael yn genedlaethol i helpu i weithredu'r Cytundeb, gan gynnwys hyfforddiant, cyngor a sicrwydd ansawdd arferion a phrotocolau, sy'n gysylltiedig â'r gwaith o ddatblygu'r broses o lywodraethu gwybodaeth ar lefel Cymru gyfan
  • sicrhau bod y Rhaglen yn cael ei lywio gan randdeiliaid, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, er mwyn ymdrin â’r rhwystrau i rannu ar lefel genedlaethol lle bo’n ofynnol.
  • sicrhau y gellir dangos cynnydd trwy systemau adrodd a monitro presennol, gyda thystiolaeth o ganlyniadau gwell ar gyfer y rheini sy’n derbyn gwasanaethau.