Skip to content

Digwyddiadau Rhanbarthol – Mawrth 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cymerodd dros 200 o bobl ran yn y digwyddiadau a gynhaliwyd yn Abertawe, Llandudno a Chasnewydd i godi ymwybyddiaeth o'r Rhaglen Rhannu Gwybodaeth Bersonol a Chytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru.

Siaradodd David Middleton, Llywodraeth Cymru, am y Rhaglen. Siaradodd Anne Jones, Comisiynydd Gwybodaeth Cynorthwyol, am y Canllawiau Statudol newydd ar Rannu Gwybodaeth, a rhoddodd Richard Howells, o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan, gyflwyniad llawn gwybodaeth am Fframwaith Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru. Mae pob un o'r tri chyflwyniad ar gael isod.

Yn y digwyddiad, gofynnwyd am adborth gan y sawl oedd yn bresennol ynghylch yr hyn a glywon nhw, er mwyn llywio'r gwaith o ddatblygu'r rhaglen yn y dyfodol. Ceir isod grynodeb o'r materion allweddol a godwyd yn ystod y digwyddiadau.