Skip to content

Dolenni

Gwefannau defnyddiol.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw awdurdod annibynnol y DU sydd wedi'i sefydlu i gynnal hawliau ynghylch gwybodaeth er lles y cyhoedd, gan annog cyrff cyhoeddus i fod yn agored a phreifatrwydd data i unigolion.

Y Ganolfan Wybodaeth

Mae’r grŵp ar-lein, Grŵp Rhannu Gwybodaeth a Llywodraethu Gwybodaeth Cymru, yn berthnasol i bawb sydd â diddordeb mewn llywodraethu gwybodaeth, rheoli gwybodaeth a’r materion a’r heriau sy’n ymwneud â rhannu gwybodaeth, ynghyd â’r Rhaglen Rhannu Gwybodaeth Bersonol sydd dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Rydym ni’n croesawu aelodau newydd – felly ymunwch heddiw.

Arfer Da Cymru

Mae Porthol Arfer Da Cymru yn ei gwneud yn haws cael gafael ar wybodaeth a dod i wybod am arferion da a nodedig ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru (gan gynnwysCytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru).