Skip to content

Gwerthuso’r Rhaglen Rhannu Gwybodaeth Bersonol a Chytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru

Dolenni perthnasol

Yr adroddidau ymchwil cymdeithasol diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru werthusiad o’r ffordd y gweithredwyd y Rhaglen Rhannu Gwybodaeth Bersonol a Chytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) a’u heffeithiau hyd yn hyn, a chyflwynwyd adroddiad ym mis Mawrth 2013.

Mae’r dystiolaeth sy’n deillio o’r gwerthusiad yn cael ei ddefnyddio i gynllunio dyfodol y fenter hon.

Mae’r Atodiad i’r prif adroddiad ar y Gwerthusiad Ffurfiannol o’r Rhaglen Rhannu Gwybodaeth Bersonol a WASPI yn cynnwys adroddiadau cryno ar arferion rhannu gwybodaeth ar ffurf chwe astudiaeth achos o Gymru, sef:

  • Dechrau’n Deg yn Nhorfaen
  • Prosiect Eiddilwch Gwent
  • Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig Hafan Lles
  • Cynhadledd Asesu Risg Aml-asiantaeth (MARAC) yng Nghaerdydd
  • Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed ym Mhowys
  • Diogelu’r Cyhoedd ac Iechyd Meddwl yng Nghaerffili

Mae’r rhai a gymerodd ran yn yr astudiaethau achos wedi cymeradwyo pob adroddiad cryno.

Hoffai tîm gwerthuso SQW a Llywodraeth Cymru ddiolch i’r partneriaid lleol a gymerodd ran ym mhob astudiaeth achos am eu cyfraniad i’r gwerthusiad.

Rydym yn croesawu eich ymateb. Cysylltwch â ni – sharingpersonalinformation@wales.gsi.gov.uk.