Skip to content

Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI)

Mae Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru a'i ddogfennaeth ategol yn rhoi fframwaith i'r sector cyhoeddus, y trydydd sector a darparwyr yn y gwasanaethau preifat er mwyn iddynt allu datblygu protocolau i lywodraethu’r modd yr eir ati i rannu gwybodaeth bersonol ar gyfer dibenion penodol.

Mae'n cael ei ddatblygu er mwyn darparu’r "safon aur" ar gyfer unrhyw Rannu Gwybodaeth Bersonol yng Nghymru. Mae'r cytundeb yn darparu sail ar gyfer protocolau sy'n sylfaen i gydweithio effeithiol ar draws sefydliadau i sicrhau bod eu staff yn gallu rhannu gwybodaeth yn ddiogel ac yn gyfreithlon.

Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth Christopher Graham wedi rhoi ei gefnogaeth lawn i WASPI, gan nodi ei fod yn darparu “dull ystyriol a strwythuredig” a “safon gyffredin, a ddylai helpu i sicrhau dull cyson o weithredu ond hefyd gydymffurfiaeth cyfreithiol, ac felly mae manteision gwirioneddol i’w fabwysiadu ar draws Cymru”.

I gael rhagor o wybodaeth, copïau o fframwaith y Cytundeb a chyngor ar sut i'w ddefnyddio, ewch i Gwefan Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru.