Skip to content

Ewrop

Dolenni perthnasol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am weithgareddau sy'n rhan o Faterion Rhyngwladol.
Baner yr UE
Yn y tudalennau canlynol, mae rhagor o wybodaeth am y gwaith yr ydym yn ei wneud ym Mrwsel, gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir ar hyd a lled Cymru a gwybodaeth ynghylch cysylltiad Cymru â Sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd.

Yn y tudalennau canlynol, mae rhagor o wybodaeth am y gwaith yr ydym yn ei wneud ym Mrwsel, gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir ar hyd a lled Cymru a gwybodaeth ynghylch cysylltiad Cymru â Sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd.

Er nad yw Cymru'n Aelod-wladwriaeth yn yr Undeb Ewropeaidd, mae'n chwarae rhan weithgar ym mhroses bolisi Ewrop drwy aelodaeth llywodraeth y DU.

Nod Llywodraeth Cynulliad Cymru yw bod Cymru yn chwarae rôl allweddol yn Ewrop a'i bod yn cymryd rhan fywiog fel partner yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau llais i fuddiannau Cymru ar lefel Ewropeaidd. O'n swyddfeydd yng Nghaerdydd a Brwsel, mae'r timau Ewropeaidd yn gyfrifol am:

• ymateb i ymgynghoriadau Ewropeaidd;
• sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth yr UE yng Nghymru;
• hybu proffil Cymru yn Ewrop;
• croesawu Gweinidogion i Frwsel, ac yn yr un modd, croesawu Gweinidogion Ewrop i Gymru.

Mae'r tîm digwyddiadau Ewropeaidd yn gyfrifol am hybu proffil Ewrop i'r cyhoedd ledled Cymru, gan gynnwys cynnal digwyddiadau Fforwm Ewrop bob chwarter.

Mae'r tudalennau sy'n dilyn yn rhoi gwybodaeth fanylach am y gwaith rydym yn ei wneud ym Mrwsel, yn ogystal â gwybodaeth am y digwyddiadau a gynhelir ledled Cymru. Hefyd ceir gwybodaeth gyffredinol am berthynas Cymru â sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Undeb Ewropeaidd, ei sefydliadau, ei ddogfennau a'i wasanaethau, ewch i www.europa.eu.int (cyswllt allanol).