Skip to content

Datblygiadau Polisi

Dolenni perthnasol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am weithgareddau sy'n rhan o Faterion Rhyngwladol.

Ar y dudalen hon ceir gwybodaeth am y datblygiadau polisi yr ydym wedi bod yn cyfrannu atynt. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyfrannu at bolisi Ewropeaidd drwy wahanol ddulliau.

Mae polisi'r UE yn fater nad yw wedi'i ddatganoli a llywodraeth y DU sy'n parhau i fod â'r cyfrifoldeb ffurfiol drosto ac yn cynrychioli'r DU yng nghyfarfodydd swyddogol yr UE. Fodd bynnag, mae'r UE yn llunio cynigion mewn llawer o feysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru, megis amaethyddiaeth, yr amgylchedd, diwylliant a pholisi rhanbarthol, felly mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydweithio'n agos â llywodraeth y DU i ddatblygu "safbwynt y DU" o ran materion o'r fath a sicrhau bod safbwyntiau Cymru yn cael eu cynnwys.

Rydym yn gwneud hyn drwy:

  • ymgynghori â llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig ar bolisïau'r UE sy'n cael eu llunio
  • ymatebion ffurfiol i Ymgyngoriadau, yn uniongyrchol i sefydliadau'r UE a thrwy gyfrannu at ymateb y DU
  • digwyddiadau polisi – yng Nghymru ac yn Ewrop
  • ymweliadau gan Weinidogion a thrafodaethau rhwng llywodraethau
  • sianeli rhwydweithio anffurfiol

Yn ogystal â'r gwaith y mae tîm Polisi'r UE yn ei wneud ar ddeddfwriaeth yr UE, rydym hefyd yn gweithio ar nifer o feysydd polisi trawsbynciol yr UE sy'n bwysig i Gymru. Ymhlith y meysydd sy'n cael blaenoriaeth ar hyn o bryd mae:

  • Ewrop 2020
  • Cyllideb yr UE
  • Y Polisi Cydlyniant
  • Ariannu yn y Dyfodol
  • Cydgysylltu polisi gyda Llywodraeth y DU.

Gan mai llywodraeth y DU sy'n parhau i fod â'r cyfrifoldeb ffurfiol dros bolisi'r DU, mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn amlinellu'r ffordd y gall y gweinyddiaethau datganoledig gyfrannu eu barn i bolisi'r UE a sut y gallwn ni gymryd rhan mewn cyfarfodydd ar lefel yr UE fel rhan o ddirprwyaethau'r DU.

Craffu ar Ddeddfwriaeth a Pholisi'r UE

Mae Senedd y DU yn craffu ar bolisi a deddfwriaeth arfaethedig yr UE. Mae'r holl ddeddfwriaeth ac unrhyw beth sy'n llywio cyfeiriad deddfwriaeth yn y dyfodol (megis Gohebiaeth y Comisiwn, Papurau Gwyrdd, Cynlluniau Gweithredu) ac unrhyw beth sy'n wleidyddol bwysig yn cael eu cadw yn y Senedd i'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad graffu arnynt.

Mae Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd yn archwilio cynigion yr UE sy'n cael effaith yng Nghymru neu sydd â'r potensial i gael effaith yng Nghymru.

Mae'r Is-adran Materion Ewropeaidd ac Allanol yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ei bod yn rhoi gwybod i'r bobl gywir am holl ddatblygiadau'r UE. Gallwch chi ein helpu ni drwy roi gwybod i ni os oes angen i ni ddiweddarau ein cysylltiadau neu os oes gennych ddiddordeb mewn maes penodol.