Skip to content

Cymru a’r Undeb Ewropeaidd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Baner yr Undeb Ewropeaidd - cylch o sêr melyn ar gefndir glas
Ym mis Mai 2012, lansiodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Ar 9 Mai 2012, lansiodd Prif Weinidog Cymru “Cymru a’r Undeb Ewropeaidd – Strategaeth UE Llywodraeth Cymru”.

Mae’r Strategaeth yn disgrifio’r buddiannau sy’n dod i Gymru o fod yn aelod o’r UE a’r cyfleoedd y mae’r UE yn eu rhoi i’r economi yng Nghymru dyfu.  Mae’n dangos sut mae dull gweithio a pholisïau Llywodraeth Cymru, fel y’u disgrifir yn ei Rhaglen Lywodraethu, yn gyson â rhai’r UE.  Mae’r strategaeth yn disgrifio hefyd sut mae Llywodraeth Cymru’n ymgysylltu â materion yr UE.