Skip to content

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO)

Dolenni perthnasol

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gwahodd sylwadau ar strategaeth a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn y dyfodol (2014-2020).
Mae Alun Davies wedi lansio prosiect werth £2.5m sy’n anelu at feithrin mentergarwch a gwneud i gymunedau ffynnu mewn tair sir yn y de.
Bydd prosiect peilot sy’n cynnal ymchwil arloesol er mwyn helpu busnesau i ddatblygu cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd yn cael £1 miliwn o arian Ewropeaidd.

Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn rhan o Lywodraeth Cymru. Ei gwaith yw sicrhau bod y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon yng Nghymru.

Mae £1.9 biliwn o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd wedi cael ei neilltuo i Gymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2007 a 2013. Ar y cyd ag arian cyfatebol o amryw o ffynonellau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, mae rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol yn werth dros £3.3 biliwn i economi Cymru.

Mae Cymru yn elwa ar ERDF (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop) a / neu ESF (Cronfa Gymdeithasol Ewrop) drwy dri math o raglenni.

  • Rhaglenni Cydgyfeirio ERDF ac ESF yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd;
  • Rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Ranbarthol ERDF ac ESF yn Nwyrain Cymru; a
  • Chydweithredu Tiriogaethol, gan gynnwys raglen Drawsffiniol Cymru-Iwerddon

Caiff y cronfeydd eu rheoli gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, ac maent yn cefnogi strategaethau a pholisïau’r UE a Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar helpu pobl i gael gwaith a gwella sgiliau’r gweithlu. Maent hefyd yn rhoi cymorth i fusnesau, ymchwil a datblygu ac arloesi, seilwaith strategol a thrafnidiaeth gynaliadwy.

Caiff unrhyw raglenni Cronfeydd Strwythurol yn y dyfodol (ar ôl 2013) eu datblygu gyda phartneriaid ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector a byddant yn ceisio lleihau gwahaniaethau rhwng rhanbarthau er lles busnesau a chymunedau ledled Cymru.

Ewch i wefan WEFO i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf ar hynt y rhaglenni presennol a datblygiad rhaglenni Ewropeaidd 2014-2020.