Skip to content

Cynghorau tref a chymuned

Dolenni perthnasol

Mae cymeradwyaeth benthyca yn ganiatâd ffurfiol a roddir gan Lywodraeth i Gynghorau Cymuned a Thref sydd am fenthyca arian at ddibenion cyfalaf.
Mae’r papur hwn yn rhoi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar yr astudiaeth ymchwil i rôl a swyddogaethau cynghorau cymuned a thref yng Nghymru a’u potensial i’r dyfodol.
Mae'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn darparu ystod eang o wasanaethau.
Pobl

Y Cynghorau Tref a Chymuned yw llais llywodraeth leol ar lawr gwlad yng Nghymru.

Ceir dros 730 o gynghorau tref a chymuned ledled Cymru. Mae rhai yn cynrychioli ardaloedd ag iddynt boblogaeth sy’n llai na 200 o bobl, mae eraill yn cynrychioli ardaloedd ag iddynt boblogaethau sydd dros 45,000 o bobl. Ond maen nhw i gyd yn gweithio i wella ansawdd bywyd ac amgylchedd y bobl sy’n byw yn eu hardaloedd.  

Mae’r cynghorau tref a chymuned yn atebol i’r bobl leol ac mae ganddynt ddyletswydd i gynrychioli buddiannau’r gymuned gyfan yn gyfartal.  

Mae tua 8,000 o bobl yng Nghymru yn rhoi gwasanaeth gwirfoddol fel cynghorwyr tref a chymuned. Yn achos rhai ohonynt, dyma’r cam cyntaf ar hyd y ffordd at yrfaoedd gwleidyddol ar y lefelau uwch ym maes llywodraeth leol neu lywodraeth ganolog.

Drwy hyn, gallwch gael gwybodaeth fanylach ynghylch y cynghorau tref a chymuned, sut i ddod yn gynghorydd cymuned neu’n gynghorydd tref a sut i ddweud eich dweud wrth y cyngor. Hefyd, gallwch ddod o hyd i gyhoeddiadau am y cynghorau tref a chymuned a’r gwaith y maent yn ei wneud. Hefyd, gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar gyfer cynghorwyr cymuned a chynghorwyr tref, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth ac ymgyngoriadau perthnasol.