Skip to content

Ariannu a chyllid

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu’r rhan fwyaf o gyllid yr awdurdodau lleol yng Nghymru, gan gynnwys yr:

  • awdurdodau unedol (y cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol)
  • awdurdodau'r heddlu 
  • awdurdodau'r parciau cenedlaethol 
  • awdurdodau tân ac achub.

Mae awdurdodau lleol yn cael ei hariannu drwy nifer o ffynonellau. Daw’r rhan fwyaf o'r arian oddi wrth Lywodraeth Cymru ar ffurf grantiau y gall yr awdurdodau eu defnyddio at unrhyw ddiben y maent yn ei ddewis mewn perthynas â darparu’r gwasanaethau y maent yn gyfrifol amdanynt. Gelwir y grantiau hyn yn grantiau heb eu neilltuo sy'n cynnwys y grant unigol mwyaf y maent yn ei dderbyn, y Grant Cynnal Refeniw.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu llywodraeth leol ar ffurf grantiau wedi’u neilltuo. Dim ond ar gyfer y rhesymau penodol y cawsant eu darparu ar eu cyfer y gellir defnyddio’r grantiau hyn.

Yn ogystal â’r arian y mae awdurdodau’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, maent yn derbyn grantiau wedi’u neilltuo gan gyrff eraill y llywodraeth. Maent hefyd yn derbyn incwm o ardrethi busnes annomestig a bennir yn genedlaethol ac o’r dreth gyngor a bennir yn lleol.

Mae awdurdodau lleol yn derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwariant cyfalaf. Hefyd, gallant bennu faint o gyllid y gallant fforddio ei fenthyg, drwy gynnal asesiad darbodus o'u sefyllfa ariannol gan ddefnyddio codau ymarfer proffesiynol. Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol a'r is-ddeddfwriaeth (a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru) yn darparu fframwaith cyffredinol ar gyfer y 'system ddarbodus'. Serch hynny, mae'r system yn pwysleisio bod gofyn i'r awdurdodau lleol gynllunio eu hanghenion o ran gwariant cyfalaf mewn ffordd synhwyrol a hirdymor drwy reoli eu hasedau a'u harian yn ddoeth.