Skip to content

Cynllun Cymorth Ariannol Brys

Cynllun dewisol yw'r Cynllun Cymorth Ariannol Brys (y cynllun Bellwin gynt) sy'n bodoli er mwyn rhoi cymorth ariannol arbennig i'r awdurdodau lleol (gan gynnwys yr awdurdodau tân ac achub a’r heddlu) a fyddai fel arall yn wynebu baich ariannol trwm o ganlyniad i ddarparu cymorth ac ymgymryd â gwaith uniongyrchol mewn ymateb i argyfwng ar raddfa fawr.

Mae'r cynllun yn ymdrin â chostau refeniw yn unig ac mae'r costau sy'n gymwys yn amodol ar drothwy sydd wedi'i osod ar 0.2% o'r gyllideb refeniw ym mhob awdurdod. Mae hyn yn cydnabod y ffaith bod disgwyl i'r awdurdodau lleol wneud darpariaethau wrth gefn ar gyfer digwyddiadau o'r fath yn eu cyllidebau.

Nid oes unrhyw hawl awtomatig i gymorth ariannol at argyfwng. O dan adran 155 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i benderfynu a ddylid rhoi cynllun ar waith neu beidio ar ôl ystyried amgylchiadau pob achos unigol.

Mae'r canllawiau a'r trothwyon ar gyfer yn pennu'r telerau y byddai Llywodraeth Cymru fel arfer yn eu defnyddio er mwyn rhoi cymorth ariannol i'r awdurdodau lleol yn unol â sefydlu cynllun o'r fath.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun cysylltwch â’r tîm Cyllid Llywodraeth Leol drwy ffonio 029 2082 3619 neu anfonwch neges e-bost i LGF3L@wales.gsi.gov.uk.