Skip to content

Setliad yr Heddlu 2010-11

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae setliad yr heddlu wedi'i rannu'n ddwy ran.

1. Setliad Dros Dro yr Heddlu 2010-11

Mae setliad dros dro yr heddlu yn rhoi cychwyn ar yr ymgynghori â phedwar Awdurdod Heddlu Cymru. Rhoddir ystyriaeth i'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyn cytuno ar y setliad terfynol.

Mae'r Llythyr ar Setliad Dros Dro yr Heddlu at Glercod a Thrysoryddion Awdurdodau Heddlu Cymru yn nodi manylion setliad refeniw dros dro yr heddlu ar gyfer 2010-11. Y mae hefyd yn rhoi cychwyn ar y broses ymgynghori.

Caiff Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol 2010-2011 (Setliad dros dro - Awdurdodau'r Heddlu)  ei wneud yn unol â gofynion Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Mae'n nodi faint o grant cymorth refeniw y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu ei ddosbarthu i awdurdodau'r heddlu yn ystod 2010-11. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi ym mha ffordd y bydd y Trethi Annomestig yn cael eu dosbarthu i awdurdodau'r heddlu.

2. Setliad Terfynol yr Heddlu 2010-11

Mae Setliad Terfynol yr Heddlu 2010-11 yn rhoi'r wybodaeth i awdurdodau'r heddlu er mwyn iddynt bennu eu praeseptau ar gyfer y gyllideb a'r dreth gyngor ar gyfer 2010-11.