Skip to content

Cyflwyniad i Gyfrifon y Llywodraeth Gyfan

Dolenni perthnasol

Dyma’r set gyntaf erioed o ddatganiadau archwiliedig o gyfrifon ar gyfer y sector cyhoeddus yn y DU.
Mae'r adran hon yn cynnwys yr holl ddeunydd perthnasol ar gyfer ymarfer Cyfrifon y Llywodraeth Gyfan ar gyfer 2011-12.
Mae’r nodiadau cyfarwyddyd hyn yn amlinellu’r broses ar gyfer cytuno ar drafodion a balansau i gynorthwyo ymarferiad y Cyfrifon Llywodraeth Gyfan (CLlG) 2011-12.
Mae'r ddogfen cwestiynau cyffredin wedi'i llunio i helpu defnyddwyr i gwblhau proses Cyfrifon a Chytundeb y Llywodraeth Gyfan yng Nghymru ar gyfer ymarfer 2011/12.

Set gyfunol o ddatganiadau ariannol ar gyfer Sector Cyhoeddus y DU yw Cyfrifon Llywodraeth Gyfan.

Mae’n cyfuno cyfrifon archwiliedig tua 1,500 o sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys adrannau llywodraeth ganolog, awdurdodau lleol, gweinyddiaethau datganoledig, y gwasanaeth iechyd a chorfforaethau cyhoeddus, er mwyn creu darlun cynhwysfawr, yn seiliedig ar gyfrifon, o’r sefyllfa ariannol am y flwyddyn dan sylw.

Mae Cyfrifon Llywodraeth Gyfan yn seiliedig ar Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol, sydd wedi’u mabwysiadu gan yr UE. Dyma’r system gyfrifon a ddefnyddir yn rhyngwladol gan y sector preifat wedi’i addasu neu ei ddehongli ar gyfer y cyd-destun cyhoeddus. O ran y ffordd y cânt eu cyflwyno, maent yn debyg iawn i gyfrifon y sector preifat. Maent yn ategu ffigurau’r Cyfrifon Cenedlaethol, a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (yr ONS), drwy ddarparu set o ddatganiadau ariannol yn seiliedig ar safonau sy’n gyfarwydd i bobl sy’n defnyddio cyfrifon y sector preifat.

Nod y Cyfrifon Llywodraeth Gyfan yw galluogi’r Senedd a’r cyhoedd i graffu ar sut y mae arian y trethdalwyr yn cael ei wario, a deall y broses yn well. Drwy gyflwyno cyllid cyhoeddus mewn fframwaith sy’n gyfarwydd i gyfrifwyr a phobl yn y byd masnachol, mae Cyfrifon Llywodraeth Gyfan yn sicrhau bod gwybodaeth am gyllid cyhoeddus yn fwy tryloyw a hygyrch.

Y Cyfrifon Llywodraeth Gyfan ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2010 yw’r set gyntaf erioed o ddatganiadau ariannol wedi’u harchwilio ar gyfer sector cyhoeddus y DU ac, felly, maent yn garreg filltir bwysig. Gallwch ddod o hyd i’r ddogfen hon o dan ‘Cysylltiadau Perthynol / Related Links’.