Skip to content

Ymyriad Ynys Môn

Dolenni perthnasol

Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ar 15 Gorffennaf, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad hynod feirniadol am lywodraethu corfforaethol yng Nghyngor Sir Ynys Môn.

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at nifer o fethiannau o ran llywodraethu corfforaethol ac arweiniad, ac roedd yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymyrryd i sicrhau adferiad. www.wao.gov.uk (dolen allanol) 

Derbyniodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yr argymhelliad hwn, ac ar 12 Awst cyhoeddodd gyfarwyddyd ffurfiol i Gyngor Sir Ynys Môn gan ddefnyddio ei bwerau o dan Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999.

Dyma amodau'r cyfarwyddyd:

  • ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gydymffurfio'n llawn ac yn gynaliadwy â holl argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol, cyn gynted â phosibl
  • atal y Cyngor rhag arfer ei swyddogaethau o dan Adran 4(1) o Dddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i benodi pennaeth y gwasanaeth cyflogedig / rheolwr gyfarwyddwr am gyfnod o ddwy flynedd
  • gwahardd y Cyngor rhag diwygio ei gynllun dirprwyo (sy'n nodi'r swyddogaethau y mae ei Aelodau, pwyllgorau a swyddogion yn eu cyflawni) oni bai bod Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd gwahanol
  • ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gydweithredu â Bwrdd Adfer, a gaiff ei benodi i fonitro cynnydd ac i gynghori'r Gweinidog a'r Cyngor ar y cynnydd hwnnw.