Mae Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ystyried buddiannau llywodraeth leol ym mhob agwedd ar ei gwaith. Wrth benderfynu beth y dylid ei gynnwys yn y cynllun, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw gyngor a roddwyd iddynt, ac unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddynt gan Gyngor Partneriaeth Cymru.
Rhagair
Pan gyhoeddwyd "Creu'r Cysylltiadau" ym mis Hydref 2004 cafwyd gweledigaeth nodedig ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus, sef cydweithio yn hytrach na chystadlu. Cefnogai adolygiad Syr Jeremy Beecham o'r modd y cyflenwir gwasanaethau lleol y dull hwn ac mae wedi bod yn her sylfaenol i'r ffordd yr ydym yn rheoli'r gwasanaethau lleol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru'n pwysleisio bod angen i'r gwasanaethau cyhoeddus fod yn fwy integredig, effeithiol ac ymatebol i'r dinasyddion a'r cymunedau. Ar y lefel ranbarthol, mae'r awdurdodau lleol yn cydweithio i raddau nas gwelwyd o'r blaen ar gyflenwi gwasanaethau. Ar y lefel leol, gofynnir i'r awdurdodau lleol gynnull Byrddau Gwasanaeth lleol lle daw darparwyr gwasanaeth lleol ynghyd gan integreiddio eu rôl pan fo angen er mwyn sicrhau gwell canlyniadau a gwasanaethau ar gyfer y bobl y maent yn eu gwasanaethu. Mae "Creu'r Cysylltiadau: Cyflawni ar Draws Ffiniau " wedi bod yn fan cychwyn i daith Llywodraeth Cymru tuag at ddull newydd o weithio. Cadarnhawyd hyn yn "Rhannu Cyfrifoldeb", sef Datganiad Polisi Llywodraeth Leol, a gyhoeddwyd ar 8 Mawrth 2007, lle cydnabyddir bod gan lywodraeth leol rôl enfawr i'w chyflawni o ran gwrando ar leisiau'r dinasyddion a gweithredu arnynt. Nid ni yn unig sydd wedi ymrwymo i hyn ac mae gennym bartneriaid rhagorol yn y gwasanaeth cyhoeddus ehangach, yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Un Llais Cymru ac ar draws y teulu llywodraeth leol ehangach. Enghraifft o'r dull hwn o weithio'n bartneriaethol yw'r gwaith a wneir i baratoi ar gyfer y Byrddau Gwasanaeth Lleol a bydd yn parhau i fod yn rhan sylfaenol o'r agenda Creu'r Cysylltiadau.
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu mwy o ryddid i ni a bydd yn caniatáu bellach i ni gael yr arfau deddfwriaethol yn eu lle i gwrdd â'n hymrwymiadau.
Diwygiwyd y Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol yn sylfaenol ers pan gychwynnwyd arno yn 2000 a bellach mae'n adlewyrchu'r agenda sydd yn datblygu ar gyfer diwygio gwasanaethau lleol, gan gydnabod bod rhaid i wasanaethau lleol effeithiol gael eu darparu gan gydweithredu eang rhwng darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, a hynny ar draws ffiniau daearyddol a ffiniau sectorau.
nôl i'r brig
Pennod 1: Cyflwyniad
1.1 Bu'n ofynnol, yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 1998, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru lunio Cynllun yn nodi sut y bwriadai, wrth arfer ei swyddogaethau, gynnal a hybu llywodraeth leol yng Nghymru. Crëwyd rhaniad ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac yn sgil hynny, mae Gweinidogion Cymru'n gyfrifol am weithredu'r gwahanol ddyletswyddau a oedd gynt yn gyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu trefniadau partneriaeth statudol. Mae Deddf 2006 yn diddymu darpariaethau Atodlen 11 Deddf 1998 ac mae'r darpariaethau perthnasol erbyn hyn yn adran 73 Deddf 2006.
Y Ddarpariaeth Statudol
1.2 Mae Adran 73 o Ddeddf 2006 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru lunio Cynllun Llywodraeth Leol fel a ganlyn:
73 (1) "Rhaid i Weinidogion Cymru lunio cynllun ("y cynllun llywodraeth leol") sydd yn nodi sut, wrth arfer eu swyddogaethau, y maent am gynnal a hybu llywodraeth leol yng Nghymru.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru -
(a) barhau i adolygu'r cynllun llywodraeth leol, a
(b) gallant ei ail-lunio neu ei ddiwygio o dro i dro.
(3) Wrth benderfynu ar gynnwys y cynllun llywodraeth leol, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw gyngor a roddwyd gan y Cyngor Partneriaeth neu unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ganddo.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r cynllun llywodraeth leol pan fyddant yn ei lunio ac yn ei ail-lunio; ac os diwygiant y cynllun heb ei ail-lunio, rhaid iddynt gyhoeddi naill ai'r diwygiadau neu'r cynllun fel y diwygiwyd ef (fel yr ystyriant sydd yn briodol).
(5) Os cyhoedda Gweinidogion Cymru gynllun neu ddiwygiadau iddo yn unol ag isadran (4) rhaid iddynt osod copi o'r cynllun neu ddiwygiadau gerbron y Cynulliad.
(6) Ar ôl pob blwyddyn ariannol rhaid i Weinidogion Cymru -
(a) gyhoeddi adroddiad yn amlinellu sut y cafodd cynigion y cynllun llywodraeth leol eu gweithredu yn ystod y flwyddyn ariannol honno, a
(b) gosod copi o'r adroddiad gerbron y Cynulliad."
1.3 Mae llywodraeth leol yng Nghymru'n cynnwys y cynghorau sir/bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned a chynghorau tref, awdurdodau'r heddlu, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau'r parc cenedlaethol.
nôl i'r brig
Pennod 2: Partneriaeth
22.1 Mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru wedi ymrwymo i gydweithio mewn partneriaeth, gan ddangos parch ac ymddiriedaeth at ei gilydd a chydnabod bod rolau pob un yn llywodraethiant Cymru'n werthfawr a dilys.
2.2 Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod rhaid i'r gwasanaethau cyhoeddus gael eu darparu drwy ystod eang o gydweithrediadau rhwng darparwyr gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r dasg o gael ein dull partneriaethol yn iawn yn her o'r mwyaf ac efallai mai dyna gonglfaen ein holl weithgarwch yng Nghymru. Un agwedd allweddol ar hyn yw datblygu Byrddau Gwasanaeth Lleol a Chytundebau Gwasanaeth Lleol. Mae Byrddau Gwasanaeth Lleol yn cynnig ffordd i'r cyrff perthnasol gytuno ar weithredoedd ar y cyd, gyda Llywodraeth Cymru o gwmpas y bwrdd gyda'r partneriaid eraill. Y nod yw datblygu'r Partneriaethau Strategol Lleol er mwyn eu galluogi i fod yn fwy effeithiol o ran sicrhau gwell canlyniadau i'r dinasyddion drwy gyflenwi'r strategaeth gymunedol yn well. Byddant yn gweithio ar faterion allweddol lle mae angen i'r gwasanaethau gydweithio'n well ar draws ffiniau sectorau a sefydliadau. Eu rôl yw sicrhau arweiniad cydunol a chyfunol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau nad yw'r bobl yn cael eu taflu o'r naill wasanaeth i'r llall, a sicrhau bod y problemau mwyaf dyrys mewn gwasanaethau cyhoeddus yn cael sylw.
2.3 Mae Llywodraeth Cymru'n rhannu â llywodraeth leol ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau busnes. Bydd rôl y sector gwirfoddol / trydydd sector yn bwysig wrth gyflenwi yn ôl y drefn hon o weithio mewn partneriaeth.
2.4 Dyma'r dull a arddelir yn "Partneriaeth a Rheoli Newid", cytundeb partneriaeth ar gyfer y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, a lansiwyd ym Mawrth 2007. Mae'r cytundeb yn amlinellu gweledigaeth a rennir ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, sef eu bod:
- O safon fyd-eang ac yn enghreifftiau o lywodraethu rhagorol mewn gwlad fach;
- Yn effeithlon, effeithiol ac yn cael eu cyflwyno drwy gydweithrediad;
- Wedi eu cynllunio gyda dinasyddion yn ganolog iddynt, ac yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb;
- Wedi eu darparu gan gyflogwyr sydd yn esiampl i eraill ac yr ystyrir eu bod yn cynnig gyrfaoedd y bydd pobl yn eu dewis o flaen rhai eraill;
- Wedi eu cyflwyno gan weithlu sydd wedi ei hyfforddi, sydd yn derbyn tâl da ac sydd yn llawn cymhelliant.
2.5 Mae'r cytundeb, ynddo'i hun, yn gynnyrch partneriaeth drwy Fforwm Gweithlu Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Y Cadeirydd yw'r Gweinidog Cyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'r aelodau'n cynnwys cynrychiolwyr o gyflogwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus drwy Gymru, Cyngres Undebau Llafur Cymru a'r rhai sydd yn cynrychioli rhannau o'r gweithlu nad ydynt yn perthyn i'r TUC.
nôl i'r brig
Pennod 3: Cyngor Partneriaeth Cymru
3.1 Er mwyn cyflawni ei ymrwymiad i weithio'n effeithiol gyda holl feysydd llywodraeth leol ac yn unol â'u gofynion statudol, bydd Gweinidogion Cymru'n sefydlu ac yn cynnal corff a elwir yn Gyngor Partneriaeth Cymru ("y Cyngor Partneriaeth"). Gwelwyd o brofiad blaenorol bod y Cyngor Partneriaeth yn fforwm effeithiol i Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol gynnal trafodaethau a gweithio ar y cyd. Mae Deddf 2006 yn dweud bod rhaid i'r Cyngor Partneriaeth gynnwys aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru o fysg Gweinidogion Cymru, Dirprwy Weinidogion Cymru ac aelodau o lywodraeth leol yng Nghymru. Bydd yn cwrdd yn arferol deirgwaith y flwyddyn. Dywed Adran 72 o Ddeddf 2006 mai swyddogaethau statudol y Cyngor Partneriaeth yw:
- cynghori Gweinidogion Cymru ar faterion sydd yn effeithio ar weithredu unrhyw rai o'u swyddogaethau;
- tynnu i sylw Gweinidogion Cymru unrhyw faterion sydd yn effeithio ar y rhai sydd yn ymwneud â llywodraeth leol yng Nghymru, neu sydd yn destun pryder iddynt; a
- cynghori'r rhai sydd yn ymwneud â llywodraeth leol yng Nghymru.
O fewn y cylch gwaith hwn, bydd y Cyngor Partneriaeth yn fforwm i Weinidogion Cymru a llywodraeth leol gydweithredu i hyrwyddo themâu trawsbynciol pwysig fel cyfle cyfartal a datblygu cynaliadwy.
3.2 Caiff y Cyngor Partneriaeth hefyd sefydlu pwyllgorau a gweithgorau i gyflawni darnau penodol o waith er mwyn y Cynllun Partneriaeth. Mae'r Fforwm Ymgynghorol ar Gyllid yn weithgor sefydlog o'r Cyngor Partneriaeth ac yn gyfrifol am asesu gofynion cyfalaf a refeniw'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru, a chynghori'r Cyngor Partneriaeth yn unol â hynny. Bydd yn gwneud argymhellion i'r Cyngor Partneriaeth ar y fformwlâu ar gyfer dosbarthu adnoddau refeniw a chyfalaf.
3.3 O dro i dro gall y Cyngor Partneriaeth ddod i gasgliadau a fydd yn cyfrannu tuag at faterion partneriaethol sydd â goblygiadau ar gyfer y gweithlu gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach. Mewn amgylchiadau felly, gall y Cyngor Partneriaeth gyfeirio eitemau at Fforwm Gweithlu Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu wneud argymhellion iddo eu hystyried. Gall y Cyngor Partneriaeth hefyd gyfeirio materion at Gyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol a'r Cyngor Partneriaeth Busnes hefyd, neu dderbyn eitemau oddi wrthynt.
3.4 Bydd Llywodraeth y Cynulliad, mewn partneriaeth â llywodraeth leol, yn sicrhau bod y Cyngor Partneriaeth a'i grwpiau 'gorchwyl a gorffen' yn gweithredu'n effeithiol. Bydd y rhain yn gweithredu yn unol â Rheolau Sefydlog y Cyngor Partneriaeth ac unrhyw brotocol y cytunir arno o dro i dro rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.
nôl i'r brig
Pennod 4: Gwella Trefniadaeth ac Atebolrwydd Llywodraeth Leol
44.1 Mae Llywodraeth Cymru'n rhannu gyda llywodraeth leol yr ymrwymiad i greu democratiaeth dryloyw a modern sydd yn agored ac yn gyfranogol, lle mae polisi'n cael ei ddatblygu a'i werthuso'n agored ac mewn partneriaeth i gwrdd ag anghenion a dyheadau pobl Cymru. Yn y datganiad polisi 'Rhyddid a Chyfrifoldeb mewn Llywodraeth Leol', a gyhoeddwyd yn 2002, roedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi dulliau etholiadol arloesol a mynediad i bawb i'r broses ddemocrataidd. Adleisiwyd yr un ymdeimlad yn y Datganiad Polisi Llywodraeth Leol, 'Rhannu Cyfrifoldeb', a gyhoeddwyd ar 8 Mawrth 2007. Fe'i cryfhawyd gan ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Rhagfyr 2006 gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus y Cynulliad, sef "Y Trefniadau Etholiadol yng Nghymru". Roedd hwn yn cefnogi'r ymdrechion i gynyddu'r nifer o etholwyr sydd yn cofrestru, i wella mynediad i'r anabl a'r grwpiau a dangynrychiolir (yn arbennig pobl ifanc), i wella'r drefn bleidleisiau post, i ystyried pleidleisio electronig ac i annog yr awdurdodau lleol i dreialu dulliau etholiadol newydd.
4.2 Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol Cymru, y Comisiwn Etholiadol, Un Llais Cymru, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill ac awdurdodau lleol, wedi adfywio ac ymestyn yr Ymgyrch Ehangu Cyfranogiad a sefydlwyd cyn etholiadau llywodraeth leol 2004. Nod yr Ymgyrch yw codi ac adnewyddu ymwybyddiaeth, diddordeb a chyfranogiad mewn democratiaeth leol cyn belled ag etholiadau lleol 2008, gan gynnwys cynyddu'r nifer ac amrywiaeth yr ymgeiswyr yn yr etholiadau hyn. Mae hyn yn unol ag adroddiad Syr Jeremy Beecham Tu Hwnt i Ffiniau. Rhagwelir y bydd yr ymgyrch hwn yn parhau rhwng 2008 a 2012.
4.3 Bydd diwygio'r gwasanaethau cyhoeddus yn arwain at gynnydd yn y gwasanaethau a gyflenwir drwy bartneriaeth rhwng dau awdurdod lleol neu fwy a fydd yn cydweithio â sefydliadau eraill. Bydd datblygu Byrddau Gwasanaeth Lleol yn gofyn am fodel craffu ehangach ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried defnyddio pwerau gwneud mesurau i newid y modd y gweithredir strwythurau gwleidyddol, gan gynnwys dull dinesydd ganolog o graffu.
4.4 Yn ogystal â hynny, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn sefydlu Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol i adolygu lwfansau aelodau etholedig yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cynghorwyr yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol deg ac i leihau'r rhwystrau ariannol sydd yn atal pobl rhag cymryd rhan mewn llywodraeth leol. Yn unol ag astudiaeth Aberystwyth, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar dalu lwfans sylfaenol i gynghorwyr cymuned a thref.
nôl i'r brig
Pennod 5: Gwella Gwasanaethau Llywodraeth Leol
55.1 Dylai'r gwasanaethau cyhoeddus fod yn gydgysylltiedig â'i gilydd ac yn gydweithredol. Mae i'r awdurdodau lleol draddodiad hir o gydweithredu a bydd angen adeiladu ar hyn eto wrth iddynt gydweithredu fwyfwy ar draws ffiniau a chyda partneriaid yn eu hardal yn sgil y Byrddau Gwasanaeth Lleol.
Cydweithredu rhanbarthol
5.2 Mae cydweithredu rhanbarthol wedi datblygu'n sylweddol mewn gwasanaethau lle mae rhanbarth arall yn rhan o'r ddaearyddiaeth naturiol, neu lle mae'r gwasanaethau'n rhy arbenigol i gael eu cyflenwi gan awdurdodau sengl neu lle ceir arbedion maint o weithio ar y cyd.
5.3 Mae Gwerth Cymru'n cynnwys cefnogaeth i bartneriaethau strategol o'r fath ar ffurf cyngor, cyfarwyddyd a chefnogaeth i arferion da. Mae hefyd yn cefnogi caffael ar y cyd, lle mae'n mabwysiadu'r rôl o negodi cytundebau Cymru gyfan mewn meysydd allweddol ac yn arwain mentrau cenedlaethol lle mae budd i'w gael o gydlynu'n ganolog.
5.4 Sefydlwyd Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru (RhNgCC) yn 2004 gan Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r polisi gwasanaethau cyhoeddus Creu'r Cysylltiadau: Gwell Gwasanaethau i Gymru. Mae Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru'n cefnogi'r ymgyrch i wella gwasanaethau cyhoeddus drwy ymdrin ag anghenion datblygol rheolwyr ac arweinwyr, sefydliadau unigol o fewn y sector cyhoeddus a'r gymuned gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach. Mae RhNgCC yn cyflenwi drwy:
- ystod o wahanol ymyriadau dysgu a datblygu i ymdrin ag anghenion unigol;
- hybu datblygiad ac ymrwymiad y gweithlu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru drwy annog partneriaethau a chydweithredu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus er mwyn gwella'r arferion cyflogi;
- darparu arweiniad syniadau meddwl ym mhob rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus drwy ddarparu gwybodaeth o ansawdd uchel sydd yn arloesol.
5.5 Mae Bwrdd Ymgynghorol RhNgCC yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o sefydliadau llywodraeth leol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Mae'r bartneriaeth hon yn sicrhau uniondeb a llywodraethiant da wrth gyflenwi a dylunio cynnyrch, a chymorth i'r sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus er mwyn iddynt dyfu'n addas i'r diben.
Byrddau Gwasanaeth Lleol
5.6 Mae'r Byrddau Gwasanaeth Lleol yn ddull newydd o ymdrin ag arweiniad lleol ar wella gwasanaeth. Daw'r byrddau â darparwyr y prif wasanaethau lleol yng Nghymru ynghyd, i gytuno ar weithredu a fydd yn arwain at well canlyniadau a gwasanaethau i eraill. Yr hyn sydd yn sylfaenol iddynt yw'r angen i integreiddio'r gwasanaethau ar draws ffiniau sefydliadau, gan grynhoi'r adnoddau os bydd angen, lle bydd yn galluogi gwasanaethau mwy effeithiol, ymatebol ac, yn aml, mwy effeithlon. Cynrychiolir Llywodraeth Cymru ar y Byrddau i gefnogi eu gwaith ac i ganfod lle y gall weithredu i symud rhwystrau neu gymhlethdod. Mae gan yr awdurdodau lleol rôl allweddol o ran cynnull y Byrddau a gyrru'r agenda yn ei blaen.
5.7 Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n datblygu Cytundeb Gwasanaeth Lleol gyda phob Bwrdd, a bydd yn nodi nifer cyfyngedig a phenodol o flaenoriaethau cenedlaethol neu leol i'w cyflenwi drwy'r Byrddau Gwasanaeth Lleol. Dylai'r Byrddau Gwasanaeth Lleol arwain ar ddatblygu, ac yna ar gyflenwi'r strategaeth gymunedol a helpu i sicrhau ei bod yn ystyried strategaethau lleol eraill ac yn cysylltu'n briodol â hwy a'i bod yn seiliedig ar ymrwymiad lleol cryf i gyflenwi.
Cytundebau Gwasanaeth Lleol
5.8 Mae cytundebau polisi rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a phob awdurdod lleol yng Nghymru yn enghraifft unigryw a llwyddiannus o weithio partneriaethol rhwng gwahanol haenau o fewn llywodraeth. Maent wedi cynhyrchu gwelliannau sylweddol yn ansawdd y gwasanaethau lleol allweddol drwy Gymru. Y dasg bellach yw ymestyn y dull hwnnw ar draws darparwyr gwasanaeth lleol yn unol â'r agenda diwygio gwasanaethau cyhoeddus a datblygu cytundebau gwasanaeth lleol a fydd yn adlewyrchu cyfraniadau lleol a chenedlaethol traws-sector at wella ansawdd bywyd y dinasyddion.
5.9 Mae gan yr awdurdodau lleol gyfoeth o brofiad o'r modd y gellir defnyddio technoleg i drawsnewid mynediad at wasanaethau. O ddefnyddio'r profiad hwn i ganfod technolegau newydd gellid gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol o ran gosod cyfeiriad clir wrth ddatblygu a chyflenwi gwasanaethau o safon a hwylusir yn electronig.
5.10 Dylai'r dinasyddion gael gwybod sut y mae'r gwasanaethau'n perfformio yn eu hardal a dylai'r sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus fod yn atebol am eu perfformiad. Mae gwybodaeth o safon uchel am berfformiad yn hanfodol ar gyfer cyflenwi'r gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol. Byddwn yn gosod safonau gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer y gwasanaethau allweddol er mwyn canfod lle mae'r safon yn amrywio'n annerbyniol mewn perfformiad gwasanaeth.
5.11 Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yw'r fframwaith strategol ar gyfer codi safonau gwasanaeth llywodraeth leol a safonau corfforaethol a bod yn atebol i'r cyhoedd amdanynt. Mae'n caniatáu hyblygrwydd ac yn lleihau, cyn belled ag y gellir, y pwysau ar yr awdurdodau lleol. Mae Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella'n llwyddiant gwirioneddol - mae'r gwasanaethau'n gwella a'r lefelau o risg yn disgyn. Mae'r Fframwaith Mesur Perfformiad yn cefnogi Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella drwy gynhyrchu data sydd yn werthfawr ar gyfer gwella'r gwasanaethau. Mae Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella o'r farn bod cydraddoldeb a chynaliadwyedd yn allweddol i berfformiad effeithiol ac effeithlon a darparu gwasanaethau. Mae Fframwaith Gwella Cydraddoldeb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cael ei ddatblygu i weithio gyda Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella, a gall awdurdodau lleol ei ddefnyddio i sicrhau eu bod yn ystyried cydraddoldeb wth gynnal asesiadau risg blynyddol Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.
5.12 Mae Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 yn cyflwyno i'r Cynulliad bwerau i wneud mesurau sydd yn cynnwys y drefn 'gwerth gorau' a gellid ei ddefnyddio i ddiwygio, i gymryd lle neu i ddiddymu holl ddeddf 1999 neu ran ohoni. Gwnaeth y datganiad polisi Rhannu Cyfrifoldeb nifer o ymrwymiadau i ddefnyddio'r pwerau hyn mewn ffyrdd penodol, llawer ohonynt yn deillio o argymhellion Adolygiad Beecham o gyflenwi gwasanaeth lleol yn 2006. Bydd angen rhoi mynegiant i'r ymrwymiadau hyn wrth ddatblygu ymhellach Raglen Cymru ar gyfer Gwella.
nôl i'r brig
Pennod 6: Blaenoriathau Lleol, Rhanbarthol a Chenedlaethol
6.1 Rheolir gwasanaethau lleol ar nifer o lefelau yng Nghymru - yn genedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae angen bod yn llai ymwybodol o haenau a rhoi mwy o bwyslais ar gysylltu'r gwasanaethau â'i gilydd a'u hintegreiddio er budd y dinesydd.
6.2 Er mwyn cefnogi hynny, bydd Llywodraeth Cymru'n ymgynghori ar y posibilrwydd o wahodd y Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu er mwyn creu dyletswydd ar bartneriaid a enwyd i gydweithio.
6.3 Rhaid cael aliniad effeithiol rhwng Cynllun Gofodol Cymru, y Byrddau Gwasanaeth Lleol a'r Strategaeth Gymunedol. Y bwriad yw creu fframwaith cenedlaethol lle bydd cyswllt rhwng Cynllun Gofodol Cymru ar lefel genedlaethol a rhanbarthol a'r Strategaeth Gymunedol ar lefel cyflenwi gwasanaethau lleol.
6.4 Bydd cyfarwyddyd statudol ar gynllunio cymunedol yn creu fframwaith cliriach ar gyfer rhannu'r gweithredu lleol i gyflenwi'r blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
6.5 Bydd rôl ddatblygol Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y Canolbarth ac yng Ngogledd, De Ddwyrain a De Orllewin Cymru'n rhan bwysig o'r darlun rhanbarthol ac isranbarthol yn ystod y blynyddoedd nesaf.
nôl i'r brig
Pennod 7: Ffocws Cymunedol
7.1 Mae gan y cynghorau cymuned a thref rôl bwysig i'w chwarae o ran cyflwyno barn a phryderon eu cymunedau. Maent hefyd mewn sefyllfa dda i ganfod beth yw'r anghenion a'r blaenoriaethau cymunedol; i ddarparu arweiniad i annog y bobl a'r asiantaethau lleol i gwrdd â'r anghenion hynny; ac i gyflenwi gwasanaethau penodol lle mae'r ateb a luniwyd yn benodol ar gyfer y sefyllfa yn opsiwn gwell na dim arall er lles y gymuned.
7.2 Un o ymrwymiadau blaenaf Llywodraeth y Cynulliad yw parhau i ddatblygu perthynas effeithiol rhwng yr awdurdodau unedol a'r cynghorau cymuned a chynghorau tref. Y nod yw bod cytundeb neu siarter rhwng y ddwy ochr yn nodi sut y byddant yn cydweithredu â'i gilydd a hynny'n helpu i hyrwyddo arferion da a dileu amwysedd. Fodd bynnag gan fod y sector cynghorau cymuned a chynghorau tref yn un mor amrywiol mae'n bwysig hefyd bod perthynas dda'n cael ei datblygu rhwng y cynghorau cymuned a'r cynghorau tref, a chyda eu partneriaid llywodraeth leol eraill - awdurdodau parciau cenedlaethol, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau'r heddlu.
7.3 Gall partneriaethau agosach arwain at ddirprwyo swyddogaethau i'r cynghorau cymuned a chynghorau tref hynny sydd â'r gallu a'r awydd i'w derbyn.
7.4 O fewn yr arena partneriaeth yn ehangach mae her yn datblygu i'r sector cymuned a thref ganfod ei lle o fewn trefn Byrddau Gwasanaeth Lleol. Yn y datganiad polisi 'Rhannu Cyfrifoldeb', ceir y weledigaeth o ymestyn p?er lles i gynghorau cymuned a thref a bydd hyn yn hwyluso gwaith partneriaeth ymhellach i wella gwasanaethau lleol.
7.5 Creda Llywodraeth Cymru hefyd y dylid fod mwy o weithio mewn partneriaeth ar draws holl ystod sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol, yn cynnwys y sector gwirfoddol/trydydd sector.
7.6 Mae gan y sector gwirfoddol/trydydd sector rôl hanfodol i'w chwarae o ran cysylltu pobl â darparwyr gwasanaeth gan mai hwy yn aml yw'r rhai y daw'r dinasyddion i gysylltiad â hwy gyntaf. Mae'n gwneud synnwyr felly i ganolbwyntio ar adeiladu perthynas gryfach rhwng y sector gwirfoddol/trydydd sector a'r sectorau cyhoeddus ac i gynnwys y sector gwirfoddol/trydydd sector ar yr un lefel o ran strategaethau cymunedol a Chynllun Gofodol Cymru.
7.7 Mae'n bwysig hefyd dod o hyd i ffyrdd o ddod â'r adnoddau ynghyd er mwyn i'r dinasyddion gael gwybodaeth am berfformiad a'r wybodaeth honno'n un y bydd yr holl grwpiau yn ein cymunedau'n ei deall. Bydd Perfformiad Cymru yn darparu peth gwybodaeth sylfaenol gan goladu data perfformiad sydd ar gael ar hyn o bryd ond nad yw'n cael ei gydlynu a'i gyfuno.
nôl i'r brig
Pennod 8: Fframwaith Ariannol
8.1 Yn y Datganiad Polisi Llywodraeth Leol "Rhannu'r Cyfrifoldeb" nodir cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu fframwaith ariannol a fydd yn gwneud cydweithredu'n bosibl. Mae perthynas weithio agosach yn hanfodol yn sgil rôl allweddol llywodraeth leol mewn hyrwyddo rhannu cyfrifoldeb a gweithio traws-sector wrth i agenda "Creu'r Cysylltiadau" gyflymu.
8.2 Mae gwaith Is-gr?p Gwariant Setliad Llywodraeth Leol a'r Is-gr?p Dosbarthu Setliad, y ddau'n fforymau o'r Fforwm Ymgynghorol ar Gyllid, yn cynnwys cyswllt clòs ac adeiladol rhwng swyddogion llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru. Eu nod yw sicrhau dealltwriaeth gyffredin o'r pwysau ariannol sydd yn effeithio ar lywodraeth leol a chytuno ar y fformiwla ar gyfer dosbarthu'r mwyafrif helaeth o'r adnoddau refeniw a chyfalaf sydd heb ei neilltuo rhwng yr awdurdodau lleol.
8.3 Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gyflwyno setliadau refeniw a chyfalaf tair blynedd o 2008-09 ymlaen er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i lywodraeth leol wrth flaengynllunio'n ariannol a strategol.
8.4 Mae cydweithredu'n effeithiol yn hanfodol hefyd os am gyflawni ymrwymiadau allweddol eraill a wneir yn "Rhannu Cyfrifoldeb" sef yr hyn y mae llywodraeth leol yng Nghymru yn ei gefnogi:-
- datblygu dull strategol o ymdrin â buddsoddi cyfalaf sylweddol o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru;
- datblygu trefniadau cyfuno cyllidebau er mwyn hwyluso mwy o hyblygrwydd wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau traws-sector; a,
- hyrwyddo gwell dealltwriaeth ar ran y cyhoedd yngl?n â'r modd yr ariennir llywodraeth leol.
8.5 Pan fydd Llywodraeth y Cynulliad yn argymell mentrau newydd a allai ychwanegu at, neu dynnu oddi ar, gyfrifoldebau ariannol awdurdodau lleol, bydd yn ymgynghori, pan fo hynny'n ymarferol, ar gost goblygiadau hyn ar y cyrff sydd yn cynrychioli llywodraeth leol yng Nghymru ac yn ystyried eu sylwadau.
nôl i'r brig
Pennod 9: Cysylltu ac Ymgynghori â Llywodraeth Leol
9.1 Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ceisio sicrhau cyswllt aml ac amserol rhwng holl rannau'r Cynulliad a llywodraeth leol ar lefel aelodau etholedig a lefel y swyddogion. Yn ogystal â threfniadau ffurfiol drwy'r Cyngor Partneriaeth bydd hyn yn cynnwys:
Ymgynghori'n Aml ac Agored
9.2 Mor fuan ag y bo'n ymarferol ac o fewn cyfyngiadau cyfrinachedd priodol bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â'r cymdeithasau sydd yn cynrychioli llywodraeth leol yng Nghymru (hynny yw Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Un Llais Cymru - a chyrff a chynrychiolwyr awdurdodau'r heddlu, tân ac achub a'r parciau cenedlaethol) ar yr holl faterion sydd o ddiddordeb iddynt i gyd ac sydd yn effeithio ar lywodraeth leol (ac eithrio materion sydd yn ymwneud â diogelwch cenedlaethol a chynigion nad ydynt yn effeithio ar ddim ond awdurdodau penodol). Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ymgynghori, ar faterion sylweddol yn ymwneud â pholisi, â'r awdurdodau unigol, yn cynnwys cynghorau cymuned, am faterion sydd yn ymwneud a'u swyddogaethau, gyda chytundeb ymlaen llaw gan y cymdeithasau sydd yn eu cynrychioli.
9.3 Bydd y broses ymgynghori'n llawn, yn agored ac yn dryloyw. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried yn llawn farn llywodraeth leol gan gofio gwerth y profiad sydd ganddi wrth wneud penderfyniadau sydd yn effeithio ar lywodraeth leol. Fel arfer caniateir deuddeng wythnos ar gyfer ymgynghori. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd amgylchiadau, er enghraifft, pan fo Llywodraeth y Cynulliad yn cael ei chyfyngu gan amserlenni deddfwriaethol neu rai eraill, pan fydd angen i'r cyfnod fod yn fyrrach. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i ofalu na ddigwydd hynny'n amlach nag sydd raid, ond pan mae'n angenrheidiol gellid ystyried cyfnod o wyth wythnos yn un realistig. Er mwyn hyrwyddo ymgysylltiad a dealltwriaeth ehangach, bydd pob ymgynghoriad yn cynnwys crynodeb gweithredol gyda'r nod o alluogi pobl i ffurfio barn am graidd cynnwys y ddogfen.
9.4 Pan ymgynghorir yn gyfrinachol â'r cymdeithasau sydd yn cynrychioli llywodraeth leol, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn disgwyl iddynt anrhydeddu cyfyngiadau'r cyfrinachedd hwnnw.
9.5 Ymgynghorir yngl?n â:
i. materion ariannol sydd yn berthnasol i lywodraeth leol, yn cynnwys y trefniadau a'r canllawiau ar gyfer dosbarthu grantiau i awdurdodau lleol a threfniadau ariannol eraill.
ii. paratoi a chynllunio ar gyfer gweithredu deddfwriaeth newydd gan y Cynulliad, yn cynnwys deddfwriaeth am swyddogaethau llywodraeth leol;
iii. deddfwriaeth a materion polisi San Steffan ac Ewrop sydd yn uniongyrchol berthnasol i lywodraeth leol, lle mae'n ofynnol i'r llywodraeth ffurfio barn mewn fforymau rhyngwladol; a
iv. penodi cynrychiolwyr llywodraeth leol ar gyrff eraill, ar lefel Cymru, y DU neu'n rhyngwladol.
Cyfnewid Gwybodaeth
9.6 Dymuna Llywodraeth Cymru, yn amodol ar gyfyngiadau na ellir eu hosgoi yn sgil cyfrinachedd a gwarchod data, hybu'r arfer o ryddhau gwybodaeth yn ddilyffethair rhyngddi ei hun, ei hasiantaethau a llywodraeth leol.
9.7 Bydd Llywodraeth Cyrmu yn ceisio cymorth llywodraeth leol wrth gynhyrchu cyngor a chyfarwyddyd i lywodraeth leol ac wrth ddyfeisio mesurau ymarferol i alluogi'r awdurdodau i weithredu deddfwriaeth newydd yn effeithiol ac yn gyson. Bydd y Cynulliad yn disgwyl cymorth gan y cymdeithasau sydd yn cynrychioli llywodraeth leol i gynorthwyo i gasglu'r wybodaeth sydd yn ofynnol at bwrpas polisi ac sydd yn ymwneud â llywodraethu, ac i ddosbarthu, adolygu a diweddaru'r wybodaeth am bolisi a newidiadau mewn gweithrediad.
9.8 Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio rhoi gwybodaeth i gymdeithasau llywodraeth leol am ei gweithgareddau, ei bwriadau a'i pholisïau. Bydd llywodraeth leol hefyd yn yr un modd yn ymgymryd â'r dasg o hysbysu Llywodraeth Cymru. Pan fo'r bwriadau a'r polisïau'n deillio o adroddiadau ymgynghorwyr neu ymchwil bydd pob un, pan fo'n ymarferol, yn cyflwyno copïau o'r adroddiadau hynny ynghyd â dadansoddiadau ffeithiol eraill i'r llall.
Cydweithrediad rhwng Swyddogion
9.9 Bydd Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol Cymru'n rhannu'r broses o adolygu a datblygu polisi drwy weithgorau o swyddogion. Mae grwpiau o'r fath yn gyfleoedd amhrisiadwy ar gyfer rhannu profiadau ac arbenigedd. Ni ddylid eu hystyried yn gyfrwng i ymgynghori'n ffurfiol nac fel modd o gael cytundeb gwleidyddol rhwng Llywodraeth y Cynulliad a llywodraeth leol. Byddant yn cyd-ymrwymo i barchu cyfrinachedd yr wybodaeth.
Rhannu Cyhoeddiadau Cyhoeddus
9.10 Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio rhannu datganiadau i'r wasg a datganiadau cyhoeddus am lywodraeth leol i'r cymdeithasau sydd yn cynrychioli llywodraeth leol yng Nghymru cyn iddynt fynd allan i'r cyfryngau. Os na fydd modd rhannu testun unrhyw ddatganiad i'r wasg neu ddatganiad cyhoeddus yn llawn, bydd swyddfa'r wasg yn Llywodraeth Cymru yn cysylltu â'r swyddfeydd cyfatebol yn y cymdeithasau perthnasol i roi rhybudd ymlaen llaw y rhyddheir datganiad a gwybodaeth gan nodi pa mor fuan y'i rhyddheir a'r hyn y bydd yn debygol o'i gynnwys.
9.11 Rhennir datganiadau i'r wasg a datganiadau cyhoeddus sydd yn ymwneud yn uniongyrchol ag awdurdod lleol penodol neu'r ardal ddaearyddol honno i swyddog y wasg neu swyddog arall priodol yn yr awdurdod hwnnw cyn iddynt fynd allan i'r cyfryngau.
9.12 Pan fydd cyhoeddiadau cyhoeddus yn cael eu gwneud am gydweithredu ar bolisïau, cyhoeddiadau neu brosiectau gellir gwneud datganiadau ar y cyd yn cynnwys sylwadau gan Lywodraeth y Cynulliad a'r gymdeithas berthnasol pan fo hynny'n briodol yn hytrach na datganiadau unigol i'r wasg.
9.13 Bydd y cymdeithasau sydd yn cynrychioli llywodraeth leol yng Nghymru'n dilyn yr un drefn gyda Llywodraeth Cymru.
Ymweliadau gan Weinidogion Llywodraeth Cymru
9.14 Pan fydd un o Weinidogion y Cynulliad yn bwriadu ymweld yn swyddogol ag adeilad sydd yn eiddo i awdurdod lleol, megis ysgol, hysbysir prif weithredwr neu brif swyddog perthnasol yr awdurdod ymlaen llaw.
Adeiladu Dealltwriaeth a Rennir
9.15 Bydd Llywodraeth y Cynulliad a'r cyrff sydd yn cynrychioli llywodraeth leol yn cydweithio i hyrwyddo cydweithrediad a dealltwriaeth fanylach rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol trwy, er enghraifft:
- gydweithredu ar Fyrddau Gwasanaeth Lleol;
- ymgynghoriadau a thrafodaethau ffurfiol ac anffurfiol;
- cydweithredu ar brosiectau penodol a thrwy Gyngor Partneriaeth Cymru a'i weithgorau;
- cyfnewid staff;
- cynadleddau a sesiynau hyfforddi ar y cyd ar gyfer aelodau a swyddogion;
- rhannu arferion da a mentrau llywodraeth;
- chyfnewid gwybodaeth sydd yn gyson â gofynion diogelu data a chyfrinachedd.
nôl i'r brig
Pennod 10: Adolygu'r Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol
10.1 Mae'n ofynnol yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y modd y gweithredwyd yr argymhellion a nodwyd yn y cynllun llywodraeth leol yn ystod y flwyddyn ariannol honno a'i gyflwyno gerbron Llywodraeth Cymru.
10.2 Bydd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r cymdeithasau llywodraeth leol yn adolygu'r cynllun yn rheolaidd ac yn ystyried a ddylid ei ddiwygio neu ei ail-lunio.
10.3 Gellir cael copïau o'r cynllun hwn gan:
Tîm Partneriaeth a Moeseg Llywodraeth Leol
Adran Polisi Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 029 2080 1191
Ffacs: 029 2082 5346
E-bost: lgpartnership.council@wales.gsi.gov.uk
nôl i'r brig