Skip to content

Ymchwil

Mae gwaith ymchwil da yn ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio a pham ei fod yn gweithio. Gyda'r wybodaeth hon gallwn ddatblygu gwell ffyrdd o fynd i'r afael â'r materion dyrys sy'n ein hwynebu yng Nghymru.

Rydym yn cynhyrchu ein gwaith ymchwil mewn tair ffordd, sef drwy:

  • roi grantiau i sefydliadau er mwyn iddynt wneud ymchwil ar bynciau a gynigiwyd ganddyn nhw (y Gronfa Syniadau Newydd)
  • comisiynu a thalu sefydliadau i wneud ymchwil ar bynciau a bennwyd gennym ni (comisiynu)
  • trefnu bod yr ymchwil yn cael ei wneud gan swyddogion Llywodraeth Cymru (mewnol).

Meithrin diwylliant o graffu cydweithredol: gwerthusiad o’r arferion a’r potensial

Meithrin diwylliant o graffu cydweithredol: gwerthusiad o’r arferion a’r potensial

28/11/13
Adroddiad sy’n ymdrin â chraffu o fewn llywodraeth leol.
 

Papur Ymchwil ar Fenthyca Digymorth a Chronfeydd Wrth Gefn Awdurdodau Lleol 

13/09/12
Fe gomisiynwyd Swyddfa Archwilio Cymru i ymchwilio i ddefnydd Awdurdodau Lleol Cymru o fenthyca digymorth a chronfeydd wrth gefn.
 

Dysgu i Wella: Gwerthusiad o Bolisïau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Llywodraeth Lleol - Ail Adroddiad Interim

18/07/11
Mae'r adroddiad yn cyflwyno darganfyddiadau o'r ail gyfnod pennaf o ymchwil, gan edrych ar y themâu o berthnasau llywodraeth ganolog - lleol, ymrwymiad dinesydd a chydweithio.
 
Arolwg o Gynghorau Cymuned a Thref 2010: Adroddiad Ynghylch Canfyddiadau

Arolwg o Gynghorau Cymuned a Thref 2010: Adroddiad Ynghylch Canfyddiadau

17/03/11
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau Arolwg Llywodraeth Cymru o Gynghorau Cymuned a Thref 2010.
 

Adroddiad Asesu Tystiolaeth Cyflym

18/01/11
Cynhaliwyd asesiad cyflym (REA) o'r dystiolaeth yn y llenyddiaeth ar y berthynas rhwng adnoddau addysg a chanlyniadau amrywiol.
 
Gwerthusiad o’r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yng Nghymru

Gwerthusiad o’r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yng Nghymru

01/12/10
Mae’r ddogfen hon yn adrodd ar yr ymchwil sylfaenol a wnaed gan y Ganolfan dros Ddatblygu Economaidd Rhanbarthol (CRED) i werthuso'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yng Nghymru.
 
Gwerthuso Cynllun Hawlio Budd-dal y Dreth Gyngor a Budd-dal Tai yng Nghymru

Gwerthuso Cynllun Hawlio Budd-dal y Dreth Gyngor a Budd-dal Tai yng Nghymru

22/11/10
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £4.5 miliwn i Awdurdodau Lleol (ALlau) ym mhedair o'r pum mlynedd diwethaf i'w helpu i gynyddu'r defnydd o'r Budd-dal Tai (HB) a Budd-dal y Dreth Gyngor (CTB).
 

Adroddiad Heriot-Watt

18/12/09
Modelau Dyrannu Adnoddau Amgen ar gyfer Gwasanaethau Lleol yng Nghymru.
 

Dysgu i Wella – Gwerthusiad o bolisi Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer llywodraeth leol

01/09/09
Adroddiad blynyddol cyntaf a chrynodeb yn amlinellu canfyddiadau arolwg o swyddogion ac aelodau etholedig awdurdodau lleol ynghylch themâu cydweithredu, cysylltiadau canolog-lleol ac ymgysylltu â dinasyddion.
 
An Evaluation of the Effectiveness of the Existing System of National Non-Domestic Rate Reliefs Reliefs in Wales and Consideration of the need for a Small Business Rate Relief Scheme

An Evaluation of the Effectiveness of the Existing System of National Non-Domestic Rate Reliefs Reliefs in Wales and Consideration of the need for a Small Business Rate Relief Scheme (Saesneg yn unig)

23/07/07
 
 
Pobl, Cynlluniau a Phartneriaethau - Gwerthusiad Cenedlaethol o Strategaethau Cymunedol yng Nghymru

Pobl, Cynlluniau a Phartneriaethau - Gwerthusiad Cenedlaethol o Strategaethau Cymunedol yng Nghymru

15/07/07
Comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru werthusiad cenedlaethol o effeithiolrwydd y cylch cyntaf o strategaethau cymunedol yng Nghymru, sef 'Pobl, Cynlluniau a Phartneriaethau: Gwerthusiad Cenedlaethol o Strategaethau Cymunedol yng Nghymru'.
 
Adolygiad o Rôl a Swyddogaethau Aelodau Etholedig

Adolygiad o Rôl a Swyddogaethau Aelodau Etholedig

13/05/07
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno casgliadau allweddol rhaglen sylweddol o ymchwil ansoddol a wnaed ar ran Llywodraeth Cymru i adolygu rôl a swyddogaethau aelodau etholedig mewn awdurdodau lleol yng Nghymru.
 

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r astudiaeth ymchwil i rôl a swyddogaethau Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru a’u potensial i’r dyfodol

01/08/04
Mae’r papur hwn yn rhoi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar yr astudiaeth ymchwil i rôl a swyddogaethau cynghorau cymuned a thref yng Nghymru a’u potensial i’r dyfodol, ac ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion yr ymchwilwyr.
 
Astudiaeth Ymchwil i Rôl a Swyddogaethau Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru a’u Potensial i’r Dyfodol

Astudiaeth Ymchwil i Rôl a Swyddogaethau Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru a’u Potensial i’r Dyfodol

01/08/03