Skip to content

Gofal

Dolenni perthnasol

Canolbwyntio ar bwysigrwydd yr iaith wrth gynnal urddas mewn gofal, yn enwedig wrth ofalu am bobl hŷn a'r rheini â dementia.
Mae'r ddogfen hon yn disodli'r arweiniad cynharach ar swyddogaeth yr Arolygiaeth, a gafodd ei nodi yn niweddariad 2003.
Mae gofyn bod cynghorau lleol yn trefnu darpariaeth gofal preswyl ar gyfer unigolion sy’n cyrraedd y meini prawf cymhwyster ar ei gyfer.
Gall gofalwr fod yn unrhyw un, o unrhyw oed, sy'n darparu gofal a chefnogaeth yn ddi-dâl i aelod o'r teulu, i gyfaill, neu i gymydog sydd angen gofal a chefnogaeth.
Benyw yn cymryd tabledi
Mae gwasanaethau gofal cymunedol yn cael eu darparu i ystod eang o oedolion gan y 22 awdurdod lleol yn ogysal ag oddeutu llawer o sefydliadau preifat ac annibynnol.

Mae’r cyfrifoldeb am y gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei rannu rhwng y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol. O fewn fframwaith o ddeddfwriaeth a rheoliadau, mae gan y 22 awdurdod lleol gyfrifoldeb statudol am gynllunio, asesu, comisiynu a chyflawni gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru. 

Mae’n ofynnol i’r awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol asesu pobl a allai fod angen gwasanaethau gofal cymunedol a phenderfynu pa wasanaethau, os oes rhai, a allai ddiwallu’u hanghenion.  Mae’r gwasanaethau’n amrywio o gynghori a chwnsela i ofal a chymorth yn eu cartrefi eu hunain, mewn cartrefi preswyl neu gartrefi gofal nyrsio neu mewn mannau eraill.

Gofalwyr anffurfiol sy’n darparu rhyw 70–80% o’r holl ofal a ddarperir, a gall mân newidiadau yn eu cyfraniad a’u hymrwymiad hwy effeithio llawer iawn ar y galw am wasanaethau gofal ffurfiol.  Yn ddiweddar cafodd y ddeddfwriaeth ei newid i roi mwy o gymorth i ofalwyr, ac mae eu cefnogi i barhau yn eu swyddogaeth ofalu yn gyfrifoldeb allweddol newydd i’r gwasanaethau cymdeithasol.

Gofal preswyl

Mae disgwyl i'ch cyngor lleol drefnu darpariaeth ar gyfer gofal preswyl i’r unigolion hynny sydd, o gael eu hasesu, eisiau gofal o’r math hwn ac sy’n diwallu meini prawf y cyngor lleol ar gyfer hyn. Gan ddibynnu ar anghenion yr unigolyn, gall hyn fod yn gartref preswyl (a fyddai’n darparu gofal personol) neu gartref nyrsio (a fyddai’n darparu gofal nyrsio neu ofal nyrsio a gofal personol).  Gellir trefnu’r cartref preswyl trwy’r awdurdod lleol ei hun neu trwy ddarparwr annibynnol.

Mae disgwyl hefyd i'ch cyngor lleol godi tâl am ofal preswyl (hy llety a gofal personol) y maent yn ei drefnu, boed hyn yn cael ei ddarparu’n uniongyrchol neu mewn cartref annibynnol. Nod yw adennill cymaint o’r gost ag sy’n bosibl.

O ganlyniad, cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw penderfynu ar lefel y ffioedd y bydd yn eu talu am y gwasanaethau hyn. Defnyddir nifer o ffactorau i benderfynu ar lefel y ffioedd:

  • anghenion y preswylwyr o ran yr hyn y maent yn dibynnu arno;
  • lleoliad a chyfleusterau’r cartref;
  • costau cynnal a chadw'r cartref.

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)

Lansiwyd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ym mis Ebrill 2007 a mae hi'n annog gwella gofal a gwasanaethau cymdeithasol cymdeithasol trwy reoleiddio, arolygu ac adolygu, a thrwy ddarparu cyngor proffesiynol i Weinidogion a gwneuthurwyr polisi. Trwy ei waith, mae AGGCC yn ceisio codi safonau, gwella ansawdd, hyrwyddo arfer gorau a hysbysu pobl am ofal cymdeithasol.

Ewch i wefan AGGCC (dolen allanol).