Skip to content

Cwestiynau Cyffredin

Atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Pwy yw'r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru?

Sarah Rochira. Wnaeth hi ddechrau ei swyddogaeth hi ym mis Mehefin 2012.

Beth ydy'r cylch gwaith y Comisiynydd Pobl Hŷn?

Mae'r Comisiynydd yn hyrwyddo pobl hŷn ac yn siarad ar eu rhan ac os oes unrhyw beth yn mynd o'i le, yn eu helpu i ddatrys y mater, yn yr un modd ag y mae'r Comisinydd Plant yn ei wneud ar ran plant a phobl ifanc. Mae hi'n ffynhonnell o wybodaeth, o eiriolaeth ac o gefnogaeth i bobl hŷn a bydd yn ceisio sicrhau bod eu buddiannau yn cael eu hystyried gan gyrff cyhoeddus fel y Cynulliad ac awdurdodau lleol.

Ydy'r Comisinydd yn gallu fy helpu i ddatrys fy mhroblem?

Ydy. Mae'r Comisiynydd yn gallu edrych ar achosion unigol pobl hŷn sydd ag amgylchiadau penodol - er enghraifft, os yw'r achos dan sylw yn dod â materion i'r amlwg sy'n gallu cael effaith ehangach ar bobl hŷn yn hytrach na dim ond yn yr achos penodol dan sylw.

Mae'r Comisiynydd hefyd yn gallu cynnig cymorth unigol i bobl hŷn i wneud cwyn, neu i'w cynorthwyo i fynd â'r achos i'r llys neu mewn rhai achosion, i dribiwnlys. Mae hi'n gallu helpu pobl hŷn ar lefel fwy cyffredinol, er enghraifft, eu rhoi ar y trywydd iawn o ran cael gwybodaeth neu gymorth arall sydd ei angen arnynt.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru hefyd yn gallu eich helpu os ydych chi'n teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg gan gorff cyhoeddus neu wedi cael gwasanaeth gwael gan y corff hwnnw. Dyma'r manylion cysylltu:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ

Rhif ffôn: 0845 601 0987
Ffacs: 01656 641199
E-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk

Gallwch hefyd gysylltu â chyrff fel y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, elusen Help the Aged ac Age Concern Cymru i gael cymorth a chefnogaeth.

Sut mae cysylltu â'r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru?

Comisiwn Pobl Hyn Cymru
Adeiladau Cambrian,
Sgwâr Mount Stuart,
Caerdydd
CF10 5FL

Ffôn: 08442 64 06 70
Ffacs: 08442 64 06 80
Ebost: gofyn@olderpeoplewales.com

Pwy sy'n cael eu hystyried yn "bobl hŷn"?

Diffinnir pobl hŷn yn y Ddeddf fel pobl sydd yn 60 oed neu'n hŷn. Fodd bynnag, bydd gweithgareddau'r Comisiynydd yn cael effaith gadarnhaol ar y profiad a gaiff pobl sy'n iau na 60 oed, sy'n aml yn wynebu anawsterau tebyg.

Beth y gall y Comisiynydd ei wneud ynglŷn â phobl hŷn sy'n cael eu cam-drin?

Trwy weithio o fewn y fframwaith cyfreithiol presennol ar gyfer diogelu oedolion sy'n agored i niwed, mae'r Comisiynydd yn gallu adolygu a gwneud argymhellion ynglŷn â'r ffordd y mae awdurdod lleol neu gorff iechyd yn rhoi ei bolisïau a'i weithdrefnau ar waith i ymdrin â phobl hŷn cael eu cam-drin. Mae'r Comisiynydd yn gallu dwyn yr awdurdodau hyn i gyfrif os yw hi'n darganfod nad oeddent yn gwneud yr hyn yr oeddent fod i'w wneud.

Mae hi hefyd yn gallu adolygu a gwneud argymhellion os yw'r gyfraith yn ddigonol ac yn ddigon effeithiol i ddiogelu pobl hŷn sy'n agored i niwed ac i ofyn i Lywodraeth y Cynulliad i ystyried gwneud newidiadau os yw hi'n credu bod eu hangen.

A yw'r Comisiynydd yn gallu cadw llygad ar sut y mae cyrff cyhoeddus, fel y Cynulliad ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, neu adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, neu'r GIG, yn gwneud eu gwaith?

Ydy. Mae'r Comisiynydd yn gallu edrych ar sut mae'r cyrff cyhoeddus hyn yn cyflawni eu swyddogaethau a'r effaith mae hyn yn ei chael ar bobl hŷn. Mae hi hefyd yn gallu adolygu achos o fethu â chyflawni swyddogaeth. Yn dilyn pob un o'r adolygiadau hyn, mae'r Comisiynydd yn gallu cyhoeddi adroddiad yn cynnwys eu hargymhellion ar gyfer newid ac i gymryd camau wedi hynn i benderfynu a yw'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad wedi cael eu diwallu.

A yw'r Comisiynydd yn gallu edrych ar y ddarpariaeth o wasanaethau gofal?

Ydy. Mae'r Ddeddf a'r Rheoliadau cysylltiol yn rhoi pwerau penodol i'r Comisiynydd o ran 'gwasanaethau rheoledig yng Nghymru'. Caiff y rhain eu diffinio yn y Ddeddf fel gwasanaethau sy'n cael eu darparu yng Nghymru gan neu mewn sefydliad sy'n cael ei reoleiddio neu asiantaeth y mae disgwyl iddi fod wedi'i chofrestru o dan y Ddeddf Safonau Gofal.

Mae'r Comisiynydd yn gallu rhoi cymorth, gan gynnwys cymorth ariannol, i unigolion wrth fynd ati i wneud cwyn i ddarparydd gwasanaeth sy'n cael ei reoleiddio ynglŷn â'r gwasanaethau a ddarperir. Mae hyn yn cynnwys cartrefi gofal preifat a darparwyr gofal cartref. Mae'r Comisiynydd hefyd yn gallu cynorthwyo'r unigolion i wneud cwyn gan ddefnyddio gweithdrefn gwyno Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, sy'n gyfrifol am arolygu ac am reoleiddio yn y sector gofal.

Mae'r Comisiynydd yn gallu cyhoeddi cyfarwyddyd ar arferion gorau i ddarparwyr gwasanaethau rheoledig ledled Cymru ac i adolygu'r trefniadau a wneir ganddynt ar gyfer chwythu'r chwiban, cwynion ac eiriolaeth, i sicrhau eu bod yn effeithiol wrth fynd ati i ddiogelu ac i hyrwyddo buddiannau pobl hŷn. Mae'r Comisiynydd yn gallu gofyn am wybodaeth fel ei bod hi'n gallu mynd ati i wneud adolygiadau o'r fath.

Mae'r Ddeddf hefyd yn galluogi'r Comisiynydd i fynd i mewn i sefydliadau gofal preifat i gyfweld â pherson hŷn, gyda'u caniatâd, yn gysylltiedig â'i phwerau i adolgyu'r "gwasanaethau a ddarperir" gan y cyrff cyhoeddus (mewn geiriau eraill, mae'r Comisiynydd yn edrych ar y ffordd mae'r cyrff cyhoeddus wedi mynd ati i gyflawni eu cylch gorchwyl i weld a ydynt wedi gweithredu er lles y bobl hŷn) a'i phŵer i adolgyu'r trefniadau hynny. Mae hyn yn galluogi'r Comisiynydd i gysylltu'n uniongyrchol â'r bobl hŷn er mwyn cael tystiolaeth a gwybodaeth dros ei hun.

A yw'r Comisiynydd yn gallu cynnal ymholiadau cyhoeddus?

Mae'r Comisiynydd yn gallu archwilio achos pobl hŷn, neu'n gallu archwilio grŵp cysylltiedig o achosion yn ymwneud â phobl hŷn. Yn sgil archwiliad o'r fath, mae'r Comisiynydd yn gallu galw ar dystion a bydd arni angen gweld papurau a gwybodaeth arall. Yn dilyn archwiliad o'r fath, mae hi'n gallu cyhoeddi adroddiad yn cynnwys eu hargymhellion ynddo.

Mae'r Comisiynydd hefyd yn gallu defnyddio'r profiad y mae wedi'i gael yn sgil archwilio achosion unigol, yn ogystal â'r wybodaeth a gafwyd yn sgil ymchwil ehangach, wrth adolygu'r modd y mae'r Cynulliad wedi gwneud ei waith yn creu cyfraith neu'n cyhoeddi cyfarwyddyd, er mwyn adolygu sut mae'r awdurdod lleol a / neu'r corff iechyd wedi cyflawni ei gyfrifoldebau, ac i edych ar sut mae cartrefi gofal, er enghraifft, neu ddarparwyr gwasanaethau eraill, wedi gwneud trefniadau ar gyfer eiriolaeth, gweithdrefnau cwyno ac ar gyfer chwythu'r chwiban. Yna, fe all hi lunio adroddiad am ei darganfyddiadau a'u hargymhellion, ac yna cyhoeddi cyfarwyddyd yn seiliedig ar arferion gorau ar y pwnc y rhoddwyd sylw iddo.

Sut y galla i ddarganfod beth mae'r Comisiynydd yn ei wneud ar ran pobl hŷn?

Gallwch weld yr adroddiad cyntaf o'r Comisiynydd â'r brig y dudalen hon, yn Dolenni perthnasol. Gallwch hefyd ymweld â'r wefan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (dolen allanol).

Mae'r Rheoliadau yn datgan bod yn rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi Adroddiad Blynyddol i'r Cynulliad (gweler Rheoliad 15). Mae'n rhaid i'r adroddiad gynnwys crynodeb o'r camau gweithredu a wnaed yn y flwyddyn flaenorol, crynodeb o'r cwynion a wnaed i'r Comisiynydd a'r camau gweithredu a gymerwyd i ymateb iddynt, ac adolygiad o faterion sy'n berthnasol i ddiddordebau pobl hŷn. Mae Rheoliad 16 yn gofyn i'r Comisiynydd sicrhau bod pobl hŷn yn gallu gweld yr Adroddiad Blynyddol. 

Mae Rheoliad 13 yn galluogi'r Comisiynydd i baratoi adroddiad yn dilyn archwiliad o achos yr unigolyn, er enghraifft, neu yn dilyn adolygu'r modd y mae corff cyhoeddus wedi darparu ei wasanaethau. Eto, y bwriad yw y bydd gofyn iddi sicrhau bod yr adroddiadau hyn ar gael i bobl hŷn a'u bod ar gael i unrhyw un arall sydd â diddordeb ynddynt hefyd.

Mae'r Rheoliadau yn gofyn i'r Comisiynydd gymryd camau rhesymol i sicrhau bod pobl hŷn yn gwybod sut mae cysylltu â hi a chyda'i staff, i geisio barn pobl hŷn ac i sicrhau bod modd i bobl hŷn weld y sylwadau hyn hefyd.

Am ba hyd fydd y Comisiynydd yn ei swydd?

Mae'r Comisiynydd wedi cael ei phenodi am gyfnod o bedair blynedd ac mae'n bosibl adnewyddu'r cyfnod unwaith.

A yw'r Comisiynydd yn gallu gweithio gydag Ombwdson Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru?

Ydy. Mae'r Comisiynydd ar gyfer pobl hŷn yn gallu gweithio gydag Ombwdson Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar faterion sy'n effeithio ar bobl hŷn. Yn fwy na hynny, mae'n bosibl eu bod ill dau yn gymwys i edrych ar achos y person hŷn dan sylw. Felly, mae'r ddeddfwriaeth sy'n sefydlu'r Comisiynydd yn cynnwys restr wirio er mwyn osgoi unrhyw ddyblygu mewn achosion o'r fath ac i hyrwyddo cyfathrebu a chydlynu rhwng y ddwy swyddfa.

Beth am y Comisiynydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc?

Mae'r Comisiynydd hefyd yn gallu gweithio gyda'r Comisiynydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc. Er bod y ddau gomisiynydd yn gweithio ar ran grwpiau oedran gwahanol o'r boblogaeth, mae'n bosibl bod yna faterion sy'n achosi pryder cyffredinol er eu bod o bersbectif gwahanol. Mae'r ddeddfwriaeth yn eu galluogi i gydweithio ac i gyhoeddi adroddiadau ar faterion o'r fath gyda'i gilydd.

Beth yw'r perthynas y Comisiynydd gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol newydd?

Mae deddfwriaeth yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad i ychwanegu cyrff newydd at ei restr o ddarparwyr er mwyn cydweithio ac mae'n bosibl y gall hyn fod yn un ffordd o sicrhau bod y ddau gorff yn gweithio mewn dull ategol. Beth bynnag yw'r achos, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a'r Comisiynydd yn gallu rhoi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar waith rhwng y ddwy swyddfa er mwyn cyflwyno datganiad clir o ddisgwyliadau'r ddau barti o ran sut bydd lefel eu perthynas yn cael ei llywodraethu yn ymarferol.