Skip to content

Iechyd

Dolenni perthnasol

Caiff y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru ei addo yn ein Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn 2003-2008.
Wrth i bobl fynd yn hˆyn mae’n bwysig bod y blynyddoedd ychwanegol yn mynd law yn llaw ag iechyd da.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu nofio am ddim yng Nghymru.
Un o’n blaenoriaethau yw gwella iechyd meddwl a lles pobl Cymru.
Cyfarpar meddygol

Mae gwelliannau mewn iechyd dros y ganrif ddiwethaf yn golygu bod pobl yn byw yn hirach. Y disgwyliad oes ar gyfer dynion erbyn hyn yw 75 oed ac 80 oed ar gyfer menywod.

Mae gan Gymru fwy o bobl hŷn na gweddill y Deyrnas Unedig. Dros yr 20 mlynedd nesaf bydd newidiadau demograffig yn newid cydbwysedd y boblogaeth yng Nghymru yn sylweddol.

Wrth i bobl fynd yn hŷn mae'n hollbwysig bod eu blynyddoedd ychwanegol yn rhai iach. Mae manteision iechyd da yn gwbl glir: gwella ansawdd bywyd unigolion, mwy o gyfleoedd i barhau'n rhan o fywyd y teulu a'r gymuned, cynnal eu hannibyniaeth a llai o angen am wasanaethau iechyd a gofal.

Caiff mynd yn hen ei ystyried yn gyfnod pan fo angen dibynnu fwyfwy ar eraill, pan fydd iechyd corfforol yn dirywio a phobl yn dueddol o ddioddef anhwylderau cronig a hirdymor. Ond nid yw afiechydon cronig, anabledd ac iechyd gwael yn anochel o ganlyniad i fynd yn hen, a gellir gwneud llawer i hyrwyddo iechyd da wrth i chi fynd yn hŷn. Yn ddelfrydol, caiff y seiliau ar gyfer sicrhau iechyd da wrth fynd yn hŷn eu gosod ar gychwyn bywyd a chânt eu hatgyfnerthu yn ystod cwrs bywyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cynllun Gweithredu Heneiddio’n Iach sy'n rhan o gyfres o ymgyrchoedd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo iechyd mamau a babanod, plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n gweithio. Mae'n cwmpasu'r ystod oed 50 a mwy, gan gydnabod bod nifer o elfennau heneiddio'n iach yn cychwyn tua'r oed yma, er enghraifft cynllunio at y dyfodol cyn ymddeol. Mae'r cynllun yn cyfrannu at ymateb Llywodraeth Cymru i Her Iechyd Cymru, ac mae'n gysylltiedig â rhai o’n o'n hymgyrchoedd ni.

Mae'r ymgyrchoedd canlynol yn ganolog i'r Safon ar 'Hyrwyddo Iechyd a Lles' sydd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru:

  • Ffyrdd Iach a Gweithgar o Fyw yng Nghymru.
  • Fframwaith ar gyfer Gweithredu.
  • Strategaeth Faethiad, Bwyd a Lles.
  • Y Fframweithiau Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Clefyd Coronaidd y Galon, Diabetes, a Iechyd Meddwl.

Iechyd Meddwl

Mae gormod o bobl gyda phroblemau iechyd meddwl yn cael eu heithrio o agweddau ar fywyd y mae’r rhan fwyaf ohonom yn cymryd yn ganiataol, fel swyddi, cefnogaeth deuluol a gweithgareddau cymunedol.

Ym mis Hydref 2005, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Codi’r Safon, dogfen sy’n amlinellu safonau gwasanaethau iechyd meddwl y dylid eu disgwyl ar draws Cymru.

Ymysg y risgiau i iechyd meddwl a lles y mae:

  • digwyddiadau mewn bywyd a ffactorau cymdeithasol nad oes gennym ond ychydig o reolaeth neu ddim rheolaeth o gwbl drostynt megis: profedigaeth, dioddef camdriniaeth, digartrefedd, a chael eich bwlio neu eich gwrthod; a
  • ffactorau personol neu deuluol megis anabledd corfforol, iechyd gwael yn ystod eich plentyndod, esgeulustod yn ystod eich plentyndod a thrais yn y teulu.

Yn yr un modd, mae ffactorau gwarchodol, megis iechyd corfforol da, perthnasau boddhaus, bywyd cartref sicr, a dylanwadau eraill yn cael effaith bositif ar iechyd meddwl ac yn cynnal gwydnwch emosiynol.