Skip to content

Incwm a budd-daliadau

Darnau arian a chyfrifiannell
Mae nifer o bolisïau, ymgyrchoedd a chynlluniau ar lefel y DU, Cymru ac yn lleol sy'n mynd i'r afael â thlodi ymhlith pobl hŷn ac sy'n gwneud y defnydd gorau o'u hincwm a'r cymorth a dderbyniant cefnogaeth.

Un o amcanion allweddol ein Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yw:

'hyrwyddo a datblygu gallu pobl hŷn i barhau i weithio a dysgu am ba hyd ag y mynnant, ac i wneud cyfraniad byw unwaith y byddant yn ymddeol'.

Un amcan perthnasol arall yw:

'datblygu a hyrwyddo polisïau a rhaglenni sy'n mynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol ymhlith pobl hŷn'.

Sicrhau cymaint â phosib o incwm a chynyddu nifer y rhai sy'n hawlio budd-daliadau

Mae pobl sydd ar incymau isel yn parhau i fethu â hawlio'r budd-daliadau a'r credydau treth y maent yn gymwys i'w derbyn. Felly, y gwirionedd yw bod y bobl hynny sydd wirioneddol angen yr arian yn methu â sicrhau'r incwm mwyaf posibl. Mae sicrhau cymaint â phosib o incwm, sy'n cynnwys cynnydd yn nifer y rhai sy'n hawlio budd-daliadau, yn un o bum thema allweddol ein Strategaeth Cynhwysiant Ariannol ar gyfer Cymru.

Budd-dal y dreth gyngor a'r budd-dal tai

Mae'r camau y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi'u cymryd yn cynnwys £1miliwn y flwyddyn wedi'i ddyrannu i'r awdurdodau lleol tan 2011 er mwyn cefnogi ymhellach gynnydd yn nifer y rhai sy'n hawlio budd-dal y dreth gyngor a'r budd-dal tai.  Ar draws Gymru gyfan, gwnaeth tua 7,000 yn fwy o bobl hawlio Budd-dal y dreth gyngor rhwng Mai 2005 a Chwefror 2007. Ar gyfartaledd, hawliwyd £12 yr wythnos, a oedd yn cyfateb i £4.3 miliwn ychwanegol y flwyddyn mewn budd-daliadau.

Yn ogystal â'r arian hwn, sefydlodd Llywodraeth Cymru weithgor er mwyn ymchwilio i'r rhwystrau oedd yn bodoli o ran hawlio budd-dal y dreth gyngor yng Nghymru ac i amlygu a hyrwyddo arferion da, a hynny'n seiliedig ar brofiadau'r awdurdodau lleol hynny sydd wedi llwyddo i gynyddu nifer y rhai sy'n hawlio budd-dal y dreth gyngor yn ddiweddar.

Dengys y ffigurau bod nifer y rhai sy'n hawlio Budd-dal Tai yn uwch na'r nifer sy'n hawlio Budd-dal y dreth gyngor. Fel arfer mae'r ffurflen gais ar gyfer y Budd-dal Tai, sydd ar gael ar gyfer pobl sy'n rhentu eu cartrefi yn unig, yn cynnwys y ddau fudd-dal. O ganlyniad byddai cymhwysedd ar gyfer y Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor yn cael eu hasesu ar yr un adeg.

Mae hyn yn golygu bod pobl sy'n rhentu eu cartrefi yn fwy tebygol o hawlio budd-dal y dreth gyngor na rhai sy'n berchen ar eu cartrefi. Gan fod y mwyafrif o bobl hŷn yn berchen ar eu tai eu hunain, mae nifer ohonynt yn colli allan ar hawlio Budd-dal y Dreth Gyngor.

Canolfannau Gwasanaethau Un-Stop: Cysyllt-Oed yng Nghymru

Y weledigaeth yw y bydd pobl hŷn neu bobl sy'n holi am gyngor ar ran person hŷn yn gallu cael gafael ar wybodaeth yn eu hardal leol am yr holl wasanaethau sydd ar gael. Gwneir hyn naill ai drwy un pwynt cyswllt neu nifer o bwyntiau cyswllt sy'n cynnig cyngor ar ystod eang o faterion.

Ym mis Tachwedd 2005, lansiodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cysyllt-Oed yng Nghymru, sy'n ceisio mynd i’r afael â hyn. Menter yw Cysyllt-Oed yng Nghymru a arweinir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am fudd-daliadau, trethi a chredydau treth, pensiynau ac ymddeol, ac arbedion a buddsoddiadau, ewch i'r DirectGov.