Skip to content

Deddfwriaeth arall

Ar 31 Rhagfyr 2011, daethom yn gyfrifol am bwerau a swyddogaethau newydd yn ymwneud â Rheoliadau Adeiladu.

Mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o’r pwerau yn:

  • Neddf Adeiladu 1984
  • Deddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004
  • Deddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006.
Caiff y swyddogaethau mewn is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Deddfau hyn eu trosglwyddo i ni hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys swyddogaethau o dan Reoliadau Adeiladu 2010 a Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy, ayyb.) 2010.

Mae deddfwriaeth berthnasol ar gael o’r ffynonellau isod.

Deddfwriaeth gyfredol

Mae gwahanol ddeddfau’n ymwneud â safonau adeiladau neu waith adeiladu. Gallai un neu fwy o’r deddfau hyn fod yn berthnasol, yn dibynnu ar y math o safle ac a oes gwaith adeiladu’n cael ei wneud ai peidio. Ceir manylion ar ddeddfwriaeth gyfredol yn y Porth Cynllunio (dolen allanol, Saesneg yn unig).

Deddfwriaeth flaenorol

Mae diwygiadau a wnaed i’r Rheoliadau Adeiladu i’w gweld yn y Porth Cynllunio (dolen allanol, Saesneg yn unig) hefyd.