Skip to content

Dogfennau cymeradwy a chyhoeddiadau’r Rheoliadau Adeiladu




Ceir canllawiau ymarferol ar sut i gydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu mewn ‘Dogfennau Cymeradwy’.

Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yng Nghymru a Lloegr oedd yn cyhoeddi’r dogfennau hyn o’r blaen.

Cafodd pwerau rheoli adeiladu eu datganoli i Gymru ar 31 Rhagfyr 2011. Bydd y dogfennau a oedd mewn grym ar 31 Rhagfyr 2011 yn dal yn gymwys yng Nghymru. Wrth i’r canllawiau gael eu hadolygu ac i newidiadau gael eu gwneud, byddwn yn cyhoeddi Dogfennau Cymeradwy ar wahân. Y gyntaf o’r rhain fydd newidiadau i Ran L sy’n ymwneud ag arbed tanwydd a phŵer ac rydym wedi ymgynghori ar hynny.

Mae pob dogfen yn cynnwys:

  • canllawiau ar y perfformiad a ddisgwylir gan ddefnyddiau a gwaith adeiladu er mwyn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu
  • enghreifftiau a datrysiadau yn dangos sut i gydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu mewn rhai sefyllfaoedd.
Nid oes raid dilyn datrysiad neilltuol a welir yn y Dogfennau Cymeradwy.

Mae’r holl ‘Ddogfennau Cymeradwy’ diweddaraf i’w gweld isod:

Rhan A (Structural safety)

22/02/13
Canllawiau technegol ar Atodlen 1 o’r Rheoliadau Adeiladu ynghylch y gofynion o ran diogelwch strwythurol.
 

Rhan B (Fire safety)

22/02/13
Canllawiau technegol ar Atodlen 1 o’r Rheoliadau Adeiladu ynghylch diogelu rhag tân.
 

Rhan C (Resistance to contaminants and moisture)

22/02/13
Canllawiau technegol ar Atodlen 1 o’r Rheoliadau Adeiladu ynghylch paratoi safleoedd ac ymwrthedd i halogyddion a lleithder.
 

Rhan D (Toxic substances)

22/02/13
Canllawiau technegol ar Atodlen 1 o’r Rheoliadau Adeiladau ynghylch sylweddau gwenwynig.
 

Rhan E (Resistance to sound)

22/02/13
Canllawiau technegol ar Atodlen 1 o’r Rheoliadau Adeiladu ynghylch cyfyngu ar sŵn.
 

Rhan F (Ventilation)

22/02/13
Canllawiau technegol ar Atodlen 1 o’r Rheoliadau Adeiladu ynghylch awyru.
 

Rhan G (Sanitation, hot water safety and water efficiency)

22/02/13
Canllawiau technegol ar Atodlen 1 o’r Rheoliadau Adeiladu ynghylch glanweithdra, diogelwch dŵr poeth ac arbed dŵr.
 

Rhan H (Drainage and waste disposal)

22/02/13
Canllawiau technegol ar Atodlen 1 o’r Rheoliadau Adeiladu ynghylch y systemau draenio a gwaredu gwastraff.
 

Rhan J (Heat producing appliances)

22/02/13
Canllawiau technegol ar Atodlen 1 o’r Rheoliadau Adeiladu ynghylch dyfeisiau sy’n cynhyrchu gwres.
 

Rhan K (Protection from falling)

22/02/13
Canllawiau technegol ar Atodlen 1 o’r Rheoliadau Adeiladu ynghylch diogelu rhag syrthio.
 

Rhan L (Conservation of fuel and power)

22/02/13
Canllawiau technegol ar Atodlen 1 o’r Rheoliadau Adeiladu ynghylch arbed tanwydd a phŵer.
 

Rhan M (Access to and use of buildings)

22/02/13
Canllawiau technegol ar Atodlen 1 o’r Rheoliadau Adeiladu ynghylch mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt.
 

Rhan N (Glazing safety)

22/02/13
Canllawiau technegol ar Atodlen 1 o’r Rheoliadau Adeiladu ynghylch diogelwch gwydr.
 

Rhan P (Electrical safety)

22/02/13
Canllawiau technegol ar Atodlen 1 o’r Rheoliadau Adeiladu am ddiogelwch gyda thrydan.
 

Safon y gwaith a’r defnyddiau

22/02/13
Mae’r ffordd y gwneir gwaith a’r stwff a ddefnyddir yn bwysig wrth geisio cyrraedd safonau adeiladu.
 

Dadansoddiad o gost a budd systemau chwistrellu mewn eiddo yng Nghymru

30/05/12
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio beth yw cost a budd systemau chwistrellu sydd wedi’u gosod mewn tai, fflatiau pwrpasol a thai sydd wedi’u haddasu’n fflatiau; tai amlfeddiannaeth; cartrefi gofal preswyl; colegau preswyl; ysgolion preswyl a neuaddau preswyl i fyfyrwyr.